Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 26 Hydref 2022.
Rwyf wedi rhoi pedwar munud o fy amser, i Peter Fox, Mike Hedges, James Evans a Laura Jones ar gyfer y ddadl hon.
Yn gyntaf oll, rwyf am gofnodi fy niolch i bawb yn y British Heart Foundation, yn enwedig Gemma Roberts, am dynnu sylw at yr ymgyrch bwysig hon ac am eu gwaith yn fy helpu i ddod â'r ddadl hon i'r Senedd heddiw.
Mae ymchwil, datblygu ac arloesi yn gwbl hanfodol i unrhyw economi ffyniannus. Mae gan ymchwil allu i gefnogi ein hadferiad economaidd o bandemig COVID-19. Mae yna gyfleoedd enfawr i ddod ag arian a thalent i mewn i Gymru. Ond ar hyn o bryd, mae Cymru'n methu manteisio ar y cyfleoedd hyn, ac rydym yn methu manteisio arnynt am nad yw ein prifysgolion yn cael digon o gyllid. Ni ddylid tanbrisio'r rôl y mae ymchwil yn ei chwarae yn ein heconomi. Mae'r rhai sy'n derbyn arian ymchwil yn prynu nwyddau a gwasanaethau er mwyn gwneud eu gwaith ymchwil. Mae hynny ynddo'i hun yn creu gweithgarwch yn eu cadwyni cyflenwi ac ar draws economi Cymru gyfan. Mae ymchwil yn hybu allbwn a chynhyrchiant mewn economi gyda thechnolegau, meddyginiaethau a phrosesau newydd. Ac wrth i ddulliau a thechnolegau newydd gael eu darganfod, mae gwybodaeth yn gorlifo i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae hyn yn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd ac yn y pen draw, gallai helpu i sbarduno adferiad economaidd newydd. Ond os yw Cymru'n mynd i elwa ar fanteision ymchwil, mae angen i'n prifysgolion sicrhau buddsoddiad allanol ac ennill ceisiadau cystadleuol am gyllid, ac i wneud hyn, mae angen seilwaith ar ein prifysgolion, a dyletswydd Llywodraeth Cymru yw ariannu'r seilwaith hwnnw.
Nid yw Cymru'n cyflawni ei photensial mewn ymchwil feddygol. Mae gennym brifysgolion o'r radd flaenaf, ond ni chânt eu hariannu'n briodol gan Lywodraeth Cymru. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, o dair gwlad ddatganoledig y DU, a phob un o naw rhanbarth Lloegr, Cymru sydd â'r gwariant isaf yn gyfrannol ar ymchwil a datblygu. Ni sy'n perfformio salaf o 12 gwlad a rhanbarth y DU. Dim ond 2 y cant o'r gwariant ymchwil a datblygu yn y DU sydd yng Nghymru. Rydym yn ffurfio bron i 5 y cant o'r boblogaeth, felly oni ddylem gael 5 y cant o'r gwariant ymchwil? Dim ond 3 y cant o gyllid cystadleuol y mae Cymru'n ei ennill, ond unwaith eto, rydym yn ffurfio 5 y cant o boblogaeth y DU, felly dylem fod yn ennill o leiaf 5 y cant o gyllid cystadleuol. Ond oherwydd lefelau isel o fuddsoddiad ym mhrifysgolion Cymru, nid ydym yn denu cyfran ein poblogaeth o gyllid. Mae buddsoddiad isel yn atal llwyddiant economaidd a chyfraniad ymchwil i'n hadferiad economaidd.
Ond nid problem newydd yw hon. Yn 2018, comisiynodd Llywodraeth Cymru ei hun adolygiad o'r amgylchedd ymchwil. Adolygiad Reid oedd hwnnw, a chanfu fod lefelau isel o gyllid seilwaith ym mhrifysgolion Cymru wedi bod yn ffynhonnell, ac rwy'n dyfynnu,
'gwendid strwythurol dros ddau ddegawd'.