Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 26 Hydref 2022.
Bellach, mae pedair blynedd ers cyhoeddi'r adolygiad hwnnw ac ni fu cynnydd o hyd yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru i'w godi i'r un lefel â gweddill y Deyrnas Unedig. Sut y gall ein prifysgolion gystadlu pan ydym yn parhau i fuddsoddi llai ynddynt na'r Alban neu Loegr?
Rydym i gyd yn cystadlu am yr un ffrydiau ariannu, ond mae Cymru dan anfantais sylweddol—anfantais a achosir gan ddadfuddsoddi mewn termau real yn ein prifysgolion. Yn hanesyddol, mae ymchwil yng Nghymru wedi dibynnu ar gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, ond hyd yn oed gydag arian o'r UE roedd Cymru'n dal i fod dan anfantais o'i chymharu â gwledydd eraill y DU oherwydd lefelau isel o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn seilwaith.
Yn adolygiad Reid 2018, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, tynnodd sylw at y ffaith y dylai ffrydiau ariannu Llywodraeth Cymru gymryd lle ffrydiau ariannu'r UE ar y pryd. Byddai hyn yn cefnogi llwyddiant wrth gystadlu am gyllid ledled y DU ac yn denu lefelau uchel o fuddsoddiad busnes. Ond nid yw'r argymhelliad hwn wedi'i weithredu o hyd.
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy'n gweinyddu arian seilwaith i brifysgolion ar ran Llywodraeth Cymru. Roedd eu cyllideb ar gyfer 2022-23 yn £81.7 miliwn. Pro rata, pe bai prifysgolion Cymru'n cael eu cefnogi i gystadlu â Lloegr, byddai'r cyllid yng Nghymru oddeutu £100 miliwn. Mae hynny'n ddiffyg o £18 miliwn o gyllid ar gyfer seilwaith hanfodol. Mae'r diffyg hwnnw'n golygu nad oes gan brifysgolion Cymru y seilwaith hanfodol sydd ei angen arnynt, ac ni allant gystadlu â phrifysgolion eraill ar draws y DU am arian. Mae hynny'n lleihau nifer y grantiau sy'n dod i mewn i Gymru yn ddramatig, ac yn cyfyngu ar y manteision posibl i economi Cymru o ymchwil a datblygu.
Mae ymchwil feddygol yn enghraifft wych o hynny. Mae ymchwil feddygol nid yn unig yn achub bywydau yn y dyfodol ond mae'n tanio ein heconomi nawr, ac mae pobl Cymru'n cytuno: yn ddiweddar adroddodd British Heart Foundation Cymru fod cymaint ag 82% o bobl yng Nghymru yn credu ei bod hi'n bwysig i Gymru fod yn gwneud ymchwil feddygol. Yn ogystal â darparu llu o fanteision i gleifion, mae ymchwil feddygol, gan gynnwys ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau, yn gwbl hanfodol i'n heconomi. Mae modelu a gafodd ei gomisiynu gan y BHF yn awgrymu bod ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau yn chwarae rôl hanfodol yn economi Cymru ac mae ganddi botensial hefyd i sbarduno twf economaidd.
Roedd ymchwil gan Sefydliad Fraser of Allander ym Mhrifysgol Strathclyde yn amcangyfrif mai cyllid elusennol yw 35 y cant o'r holl gyllid ymchwil feddygol trydydd sector a sector cyhoeddus yng Nghymru, gyda chyllid ymchwil gweithredol o £21 miliwn yn 2018. Yn ôl y sefydliad, yn 2019, roedd cyllid ymchwil feddygol gan elusennau yng Nghymru yn cefnogi gwerth £86 miliwn o allbwn a £55 miliwn o werth ychwanegol gros.
Hefyd, canfu'r sefydliad, a gafodd ei gomisiynu gan British Heart Foundation, ei bod yn debygol fod gan bob £1 filiwn a werir ar ymchwil feddygol gan elusennau fanteision sylweddol fwy i'r economi na'r buddsoddiad cyfartalog yng Nghymru, sy'n golygu bod buddsoddi mewn ymchwil yn werth ardderchog am arian. Mae pob £1 filiwn a werir ar gyllid ymchwil feddygol yng Nghymru gan elusennau'n cefnogi £2.3 miliwn mewn allbwn a £1.47 miliwn mewn gwerth ychwaegol gros. Mae'r ffigyrau hynny'n golygu bod lluosyddion cyllid ymchwil feddygol yng Nghymru gan elusennau yn debygol o fod yn debyg i rai sectorau gyda'r lluosyddion gwerth ychwanegol gros uchaf yng Nghymru, gan wneud buddsoddi mewn denu ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau i Gymru yn werth ardderchog am arian.
Gall cynnydd mewn ymchwil a ariennir gan y Llywodraeth a'r trydydd sector gynyddu cyllid y sector preifat hefyd. Mae cynyddu buddsoddiad gan y sector cyhoeddus a'r trydydd sector 1 y cant yn creu bron yr un cynnydd yng ngwariant y sector preifat o fewn blwyddyn. O'i roi mewn ffordd arall, bydd unrhyw beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei roi i mewn yn debygol o ddenu arian cyfatebol gan y diwydiant o fewn blwyddyn.
Dywedodd y British Heart Foundation hefyd fod ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau yn cefnogi creu swyddi mewn sectorau medrus fel addysg, ymchwil a datblygu, iechyd a gwaith cymdeithasol a pheirianneg. Mae'r cyflogau hyn, yn amlwg, yn cael eu gwario wedyn yn ein cymunedau lleol, busnesau lleol ac economïau lleol. Ar hyn o bryd, mae ymchwil feddygol sy'n cael ei hariannu gan elusennau yn cefnogi 975 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru, hyd yn oed gyda Chymru'n tangyflawni o ran denu cyllid ymchwil. Dychmygwch y manteision pe bai Llywodraeth Cymru'n buddsoddi ac yn sicrhau bod Cymru'n cyrraedd ei photensial o ran denu'r cyllid hwnnw i Gymru.
Mae'r Sefydliad Ffiseg hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ymchwil cysylltiedig ag ansawdd Mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos nad yw cyllid cysylltiedig ag ansawdd yng Nghymru wedi cadw gyfuwch â chwyddiant ers 2008, ac mae Llywodraeth Yr Alban wedi llwyddo i gynnal neu gynyddu cyllid cysylltiedig ag ansawdd dros yr un cyfnod o amser. Nodaf fod y methiant i gadw gyfuwch â chwyddiant yn rhagflaenu Brexit a dadleuon ynghylch dileu cronfeydd strwythurol. Ânt rhagddynt i ddweud hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi diddymu cyllid pwrpasol ar gyfer arloesi ac ymgysylltu yn 2014-15 ac fe gafodd y cyllid ei adfer yn 2018-19 ar £7.5 miliwn, ac erbyn hyn mae'n £15 miliwn y flwyddyn. Ond mae hynny'n is na'r £25 miliwn a gafodd ei argymell yn adolygiad Reid a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Daw eu pryderon yn rhannol o ganfyddiadau arolwg economeg Cyd-ffederasiwn Diwydiant Prydain o arloeswyr ffiseg. Canfu fod arloeswyr ffiseg Cymru yn cydweithio'n fwy rheolaidd â phrifysgolion nag arloeswyr yn y DU gyfan. Gyda 54 y cant o arloeswyr Cymru'n dweud bod gwell cyfleoedd i gydweithio yn sbardun allweddol i'w cynlluniau i gynyddu buddsoddiad, gallai'r partneriaethau hyn fod yn ganolog i wireddu nodau ymchwil a datblygu ac arloesi.
Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ennill o leiaf cyfran poblogaeth Cymru o gyllid cystadleuol allanol—hynny yw, 5 y cant o gyllid cystadleuol allanol y DU. Ond er mwyn gwneud hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru gynyddu ei buddsoddiad ei hun. Mae gwir angen i brifysgolion Cymru weld cynnydd mawr yn y cyllid ar gyfer seilwaith a ddarparir gan Lywodraeth Cymru. Heb yr un cymorth â gweddill y DU, ni fydd prifysgolion Cymru ac ymchwilwyr Cymru yn gallu cystadlu'n deg am gyllid ar gyfer y DU gyfan. Byddem yn colli manteision ymchwil feddygol, a'r cyfle hefyd i adfer yr economi a thwf economaidd. Mae yna anghydraddoldeb o ran cyllido ymchwil yn y DU, ac rwy'n credu mai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael â hynny.