Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 26 Hydref 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae prifysgolion yn elfen hanfodol o'n economi ni, gan gynhyrchu dros £5 miliwn o allbwn bob blwyddyn. Maen nhw'n sefydliadau angori ac yn chwarae rhan hollbwysig yn eu hardal leol drwy gynnig cyfleoedd am swyddi a chadwyni cyflenwi, a phoblogaethau amrywiol o fyfyrwyr a staff. Mae eu cyfraniad hefyd yn cael ei deimlo ar draws Cymru a thu hwnt drwy eu gwaith blaengar ar ymchwil, arloesi a datblygu sgiliau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymfalchïo yn ei buddsoddiad a'i chefnogaeth i'n prifysgolion. Rŷm ni wedi cynyddu cyllidebau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru tua 82 y cant, gan eu galluogi nhw i ailgyflwyno cyllid arloesi ac ymgysylltu a chynyddu lefel y cyllid a roddir i ymchwil ar sail ei ansawdd. Mae cyfanswm cyllid ymchwil ac arloesi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23 bellach bron yn £103 miliwn. Mae canlyniadau fframwaith rhagoriaeth ymchwil 2021 yn dangos yr effaith ardderchog y mae prifysgolion Cymru yn eu cael. Barnwyd bod 83 y cant o'r gwaith ymchwil a gafodd ei gyflwyno yn arwain y byd, neu yn rhagorol yn rhyngwladol. Mae'r sylfaen ymchwil hon yn ysgogi lledaenu gwybodaeth, arloesi technolegol a mewnfuddsoddiad.
Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, mae ymchwil mewn prifysgolion yn cael ei ariannu drwy gymysgedd o arian gan fusnesau, elusennau a sefydliadau cymunedol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Mi ddof yn ôl at fater cyllid Ewropeaidd yn y man. Yn y cyfnod heriol ariannol sydd ohoni, mae'n hanfodol i sector ymchwil ac arloesi Cymru gydweithio ar flaenoriaethau cyffredin, a chanolbwyntio ar daclo'r heriau mwyaf rŷm ni'n eu wynebu fel cenedl. Rydym ni wedi buddsoddi £2 filiwn eleni yn rhwydwaith arloesi Cymru, a gafodd ei sefydlu er mwyn hwyluso cydweithio a phartneriaeth rhwng prifysgolion yng Nghymru a thu hwnt, gydag amrywiaeth eang o gyrff sector cyhoeddus, sector preifat a thrydydd sector.
Wrth gwrs, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn bartner allweddol wrth fuddsoddi mewn prifysgolion, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda nhw er mwyn gweld sut y gallwn ni ddatblygu'n strategol y ffordd y caiff cyllid ymchwil ei ddyrannu er mwyn ennill grantiau o ffynonellau eraill. Rwy'n croesawu agwedd ymarferol a hyblyg y sector a'i barodrwydd i gydweithio er mwyn bod yn fwy cystadleuol o ran y Deyrnas Unedig. Drwy gydweithio, fe fyddwn ni'n sicrhau'r gwerth mwyaf o gyllid ymchwil Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gefnogi ymchwil ac arloesi. Yn y dyfodol, y bydd cyllid prifysgolion yn dod o dan y comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil. Mewn ateb i James Evans, bydd disgwyl i'r comisiwn chwarae rhan allweddol yn y system ymchwil, gan weithio'n agos gyda chynghorau ymchwil y Deyrnas Unedig. Bydd yn parhau gyda gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gynyddu'r swm o gyllid ymchwil y Deyrnas Unedig sydd yn dod i Gymru.