Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 26 Hydref 2022.
Wrth gwrs, nid drwy ymchwil ac arloesi'n unig y mae prifysgolion yn cael effaith economaidd. Maent yn sefydliadau angori ac yn gyflogwyr sylweddol. Yn 2019-20, roedd un ym mhob 20 swydd yng Nghymru yn gysylltiedig â gweithgarwch prifysgol. Câi dros 21,700 o swyddi eu darparu gan brifysgolion Cymru, gyda 19,600 yn rhagor o swyddi wedi'u creu mewn diwydiannau eraill drwy effaith ganlyniadol addysg uwch. Rwy'n falch fod prifysgolion yng Nghymru yn talu'r cyflog byw, a byddwn yn annog mwy o gaffael lleol a rhanbarthol. Bydd twf eleni yn nifer yr israddedigion yn cael effaith economaidd ar unwaith mewn cymunedau lleol, a diolch i'n diwygiadau blaengar i gyllid myfyrwyr, mae nifer yr ôl-raddedigion yn parhau i gynyddu, gan drosi'n ymchwilwyr ac arloeswyr y dyfodol yn y blynyddoedd i ddod, gan greu ei effaith economaidd ei hun.
Mae lefelau sgiliau'n cydberthyn yn glir i dwf economaidd, ac rydym yn buddsoddi yn ein prifysgolion i ddarparu addysg ran-amser, mwy o weithgaredd ôl-raddedig, prentisiaethau gradd, a'r cyfan ochr yn ochr â'u cynnig craidd. Rydym wedi buddsoddi mewn cynllun peilot microgymwysterau, ehangu llefydd meddygol drwy ysgol feddygol newydd gogledd Cymru, a pharhau i fuddsoddi mewn pynciau cost uwch, fel cyrsiau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Rydym yn sicrhau bod Cymru'n cael ei gweld fel cyrchfan sy'n denu myfyrwyr ac ymchwilwyr rhyngwladol i astudio, a bod ein partneriaethau rhyngwladol hefyd yn gallu parhau a thyfu. Mae ein mentrau Taith a Global Wales yn enghreifftiau da o'n gwaith yn y maes hwn.
Dywedais y byddwn yn dychwelyd at fater arian Ewropeaidd. Rwy'n siŵr fod pawb yma'n pryderu am golli'r arian ymchwil a datblygu Ewropeaidd. Drwy wrthod rhoi arian yn lle'r cronfeydd hyn, mae Llywodraeth y DU yn gadael bwlch cyllid, gan danseilio cystadleurwydd yn ystod cyfnod o newid aruthrol. Rwy'n gwbl glir fod rhaid inni weld lefelau ariannu sy'n cyfateb fan lleiaf i'r rhai roeddem yn eu cael yn hanesyddol yn dychwelyd i Gymru. Er mwyn sicrhau mwy o fuddsoddi a dychwelyd i lefelau cyllid hanesyddol fan lleiaf, mae angen cefnogaeth uniongyrchol a chydweithrediad Llywodraeth y DU a'i hadrannau a'i hasiantaethau, yn enwedig yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU, i weithio mewn partneriaeth ar benderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru. Rhaid i Lywodraeth y DU wella'r berthynas gyda'r UE er mwyn sicrhau cyfranogiad llawn y DU yn Horizon Europe, fel y cytunwyd o dan y cytundeb masnach a chydweithredu. Mae cysylltiad â'r rhaglen o fantais i'r pedair gwlad, ac fe wneuthum y pwynt hwn yn gadarn dros y deuddydd diwethaf yn fy ymweliadau â Brwsel. Ein barn gadarn ni yw mai deialog a thrafod yw'r unig lwybr i ganlyniad cadarnhaol a fyddai'n atal niwed o sylwedd i economi Cymru. Fel y dywedodd adroddiad diweddar gan grŵp Russell,
'Bydd methiant i sicrhau cysylltiad â Horizon, Euratom a Copernicus yn cyfyngu'n sylweddol ar atyniad y DU fel cyrchfan ar gyfer talent a buddsoddiad.'
Os na all Llywodraeth y DU gyflawni'r hyn y cytunwyd arno yn y cytundeb masnach a chydweithredu, rhaid i ni adeiladu perthynas agos, hirdymor gyda Horizon Europe fel trydedd wlad. Mae hyn yn hollbwysig i'n heconomi. Efallai y gall yr Aelod siarad â'i gymheiriaid yn San Steffan ynghylch rhai o'r materion hyn.
Maes arall lle roedd cyllid Ewropeaidd yn bwysig yw arloesi, sydd mor hanfodol i'n datblygiad economaidd. O dan drefniadau Llywodraeth y DU, mae cyllideb Cymru'n colli dros £1.1 biliwn o gyllid newydd yn lle cyllid yr UE. Rydym yn gwybod bod cynlluniau fel arbenigedd SMART wedi bod yn effeithiol iawn wrth gefnogi cydweithio effeithiol rhwng ymchwil a diwydiant. Mae'r rhain yn cydnabod yr ymdrech ar y cyd rhwng partïon, gan arwain at wobrau a rennir, yn enwedig cynhyrchiant eiddo deallusol, y manteisiwyd arno i greu effaith economaidd a chymdeithasol i'r holl bartneriaid.
Ddirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth hon o'r farn fod prifysgolion yn rhan greiddiol o seilwaith economaidd ac addysgol Cymru, ac rydym wedi buddsoddi'n unol â hynny, gan gefnogi ymchwil ac arloesi, datblygu sgiliau a lledaenu gwybodaeth. Rydym wedi gweithio gyda'r sector i ddarparu'r cyflog byw go iawn, wedi annog arloesedd a chaffael a gwell ymgysylltiad â'r gymuned drwy weithgarwch cenhadaeth ddinesig. Mae buddsoddi yn ein prifysgolion yn fuddsoddiad mewn pobl, mewn ymchwilwyr, mewn staff cymorth, mewn technegwyr, mewn darlithwyr. Mae'n fuddsoddiad yn ein heconomi, mewn un ymhob 20 swydd drwy Gymru; mae'n fuddsoddiad yn ein myfyrwyr a'u dyfodol, yn y sgiliau ar gyfer Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.
Rwyf am orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ailddatgan mai rhan o fy ngweledigaeth ar gyfer addysg uwch yw sefydliadau neilltuol yn gweithio mewn partneriaeth. Drwy gydweithio, gallant wneud y gorau o'r buddsoddiad sylweddol a gânt, a thrwy gydweithio, byddant yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol i dwf economaidd.