Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:32, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ymateb. Wel, gan barhau â thema cyllid ar gyfer pysgota a dyframaethu, mae gan gronfa bwyd môr y DU gyllid o £100 miliwn o dan dair colofn: gwyddoniaeth ac arloesi, seilwaith, sgiliau a hyfforddiant. Mae cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn tynnu sylw'n briodol at yr angen i sicrhau bod cymaint ag y bo modd o gronfa bwyd môr y DU sy'n werth £100 miliwn yn dod i Gymru. Mewn egwyddor, mae hyn yn swnio'n synhwyrol, ond yn ymarferol, nid oes gan bysgotwyr yng Nghymru na'r cyrff sy'n cynrychioli pysgota fodd o lywio prosesau cronfa'r DU. Felly, mae'n annhebygol y bydd y sector yn elwa ohono. Dylai Cymru elwa o £8 miliwn o gronfa'r DU, a fyddai, ynghyd ag arian Cymru o £6.2 miliwn, yn drawsnewidiol i gynnig bwyd môr Cymru a'r gadwyn gyflenwi gyfan. 

Mae colofn gwyddoniaeth ac arloesi cronfa'r DU yn sicr yn rhoi cyfle i'r sector pysgota, ond mae colofnau eraill yn gyfyngedig i borthladdoedd, harbwrs a chyfleusterau prosesu a sefydliadau hyfforddi, gan adael fawr ddim ar gyfer ein sector dal pysgod. Mae'n anodd gweld sut y byddai cynllun Cymru'n denu unrhyw gyllid o golofnau cronfa bwyd môr y DU. Gallai diwydiant bwyd môr Cymru fod dan anfantais ddifrifol oherwydd rhwystrau rhag cael mynediad at gronfa bwyd môr y DU, a allai olygu bod arian heb ei wario yn dychwelyd i'r Trysorlys neu weinyddiaethau eraill. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno â'r pryderon a fynegwyd gan y sector, ac os felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru'n helpu i sicrhau y gall sector pysgota Cymru sicrhau cymaint â phosibl o'r cyllid sydd ar gael o dan gronfa bwyd môr y DU?