Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 26 Hydref 2022.
Rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, a chodwyd y pryderon hynny'n gynnar iawn—yr adeg hon y llynedd, mae'n debyg, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU eu cynllun bwyd môr. Rwy'n credu ei fod yn ddryslyd iawn, oherwydd byddai wedi bod yn well pe baent wedi rhoi ein cyfran o'r cyllid roedd gennym hawl i'w gael a gallem ni benderfynu beth i'w wneud gyda'r cyllid hwnnw a sut y byddem yn gweithio gyda'r sector i ddyrannu'r cyllid hwnnw. Felly, rwy'n credu iddo greu llawer o ddryswch ar y cychwyn. Felly, rydym wedi cytuno ar ddull o gyrchu'r cyllid hwnnw gan Lywodraeth y DU fel nad yw ein pysgotwyr ni'n cael eu hamddifadu ohono, a bod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd.