2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 26 Hydref 2022.
3. Sut fydd y cynllun ffermio cynaliadwy newydd o fudd i ffermwyr tenant ifanc ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ58614
Diolch. Bwriad y cynllun ffermio cynaliadwy yw gwobrwyo pob math o ffermwr, gan gynnwys ffermwyr tenant sy'n rheoli'r tir, er mwyn sicrhau canlyniadau amgylcheddol ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym sector amaethyddol cynaliadwy a gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Diolch am hynny, Weinidog. Mae llawer o ffermwyr tenant ifanc yn fy etholaeth yn credu bod y cynigion fel y maent wedi'u drafftio ar hyn o bryd o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy yn dal i ogwyddo'n helaeth tuag at berchnogaeth ar dir. Mae tenantiaid, teuluoedd ffermio ifanc fel arfer sydd ar y gris cyntaf ar yr ysgol ffermio, yn gorfod ymdrin â gwahanol fathau o landlordiaid, o'r ffermwr lleol sydd wedi ymddeol, i sefydliadau mawr, fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae nifer o ffermwyr ifanc yn rhentu tir, boed hynny drwy gytundebau pori neu denantiaethau busnes fferm, a'r tenantiaid yw'r rhai sy'n ysgwyddo'r risgiau busnes ariannol ar y tir. Felly, Weinidog, a ydych chi'n fodlon fod y cynigion a nodir yn y cynllun ffermio cynaliadwy yn caniatáu i ffermwyr tenant fynd i mewn i hynny ar yr un lefel â pherchnogion tir, a bod y cynllun yn diogelu ffermwyr tenant ifanc actif a'u teuluoedd rhag y perygl o gael eu troi allan gan rai landlordiaid, fel y gallant wrthbwyso eu carbon a chyrraedd targedau amgylcheddol?
Ydw, ond hoffwn nodi ein bod yn dal i edrych ar lunio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'r arolwg yn dal ar agor tan 21 Tachwedd, felly cofiwch annog eich holl gymheiriaid i sicrhau eu bod yn cwblhau'r arolwg a gadewch inni glywed eu barn. Rwyf wedi dweud ar hyd yr amser, os nad yw'n gweithio i ffermwyr tenant, ni fydd yn gweithio i unrhyw un, oherwydd maent yr un mor bwysig â ffermwyr tir, fel y dywedwch; ffermwyr tenant sy'n ffermio traean o'n tir yma yng Nghymru, felly mae hyn yn bwysig iawn. Ac rwyf wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid i'r cynllun weithio iddynt hwy.
Fe wnaethoch chi sôn am ffermwyr ifanc yn enwedig, a'r rheswm ein bod ni'n cyflwyno'r gefnogaeth mewn ffordd wahanol i sut oedd pethau pan oeddem yn yr Undeb Ewropeaidd yw oherwydd ein bod yn gwybod y bydd ein cenhedlaeth nesaf o ffermwyr yn ffermio mewn hinsawdd a than amodau llawer iawn caletach nag a wnawn ni yn awr. Ond rwy'n awyddus i barhau i weithio gyda ffermwyr tenant—rwyf eisiau gwneud hynny'n glir iawn. A byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i un o'n cyd-Aelodau ein bod wedi cael y gweithgor tenantiaeth i edrych yn benodol ar sut y mae'r gweithredoedd—. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r pyramid o gamau gweithredu sydd gennym yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'n bwysig iawn fod pob cam gweithredu yn gweithio i ffermwyr tenant, yn yr un ffordd â'r rhai sy'n berchen ar y tir.