Rasio Milgwn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:42, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, nid oes angen imi eich atgoffa bod dros 2,000 o filgwn wedi marw a bron i 18,000 o anafiadau wedi digwydd ym Mhrydain rhwng 2018 a 2021. Yn 2021, roedd 4,422 o anafiadau ar draciau trwyddedig, 307 marwolaeth ym Mhrydain, ac roedd 39 y cant o'r rheini ar y trac hwn. Rydym wedi sôn am yr un trac rasio annibynnol. Ers mis Ebrill 2018, mae Hope Rescue a'u partneriaid achub wedi cymryd bron i 200 o gŵn. Rydych chi eich hun wedi sôn am eich teimladau ynglŷn â'r cŵn hyn. Erbyn hyn, digon yw digon. Rwy'n tybio bod cefnogaeth drawsbleidiol i hyn. Pe bawn i'n Weinidog, ni fyddwn yn cael aelod o'r wrthblaid yn gofyn i mi: pam nad ydych chi wedi gwneud unrhyw beth tan nawr? Deiseb ac arni 35,000 o lofnodion—mae hynny'n nifer fawr o bobl ar draws Cymru. Dyna ddigon ar y creulondeb hwn. A wnewch chi fwrw iddi yn awr i weithredu gwaharddiad? Diolch.