Rasio Milgwn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:43, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, pe baech chi'n Weinidog, byddech chi'n cydnabod na allwch fynd o gwmpas yn gwahardd pethau; mae'n rhaid cael tystiolaeth ac mae'n rhaid ichi gael ymgynghoriadau, ac mae hwn yn un o'r pethau rydym yn edrych arnynt. Fe fyddwch yn gwybod am y ddeiseb. Ar ôl bod yn Gadeirydd eich hun, fe fyddwch yn ymwybodol o'r broses yr awn drwyddi gyda hynny. Fe fyddwch wedi darllen, rwy'n siŵr, y cynllun lles anifeiliaid sy'n cynnwys trwyddedu gweithgareddau, ac mae hynny'n cynnwys milgwn rasio. 

Rwyf fi, a fy swyddogion yn sicr, yn cadw mewn cysylltiad agos iawn â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ynglŷn ag arolygiadau. Cyfarfûm â phrif weithredwr Bwrdd Milgwn Prydain. Rwy'n ceisio cael cyfarfod gyda pherchennog a rheolwr trac rasio Valley. Rwy'n meddwl fy mod wedi ysgrifennu at y perchennog ddwywaith, ac ni chefais ymateb. Felly, gallwch fod yn sicr fy mod yn parhau i wneud popeth a allaf o fewn y cyfyngiadau arnaf innau hefyd.