Ffliw Adar

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:51, 26 Hydref 2022

Diolch yn fawr iawn. Mae'r mesurau yna, wrth gwrs, yn cael eu croesawu achos mae'r straen cyfredol o'r ffliw adar yn cael ei gydnabod fel y gwaethaf sydd wedi digwydd yma yn ynysoedd Prydain, gyda'r newyddion diweddar yn Norfolk bod yna rhyw 0.5 miliwn o ieir wedi cael eu difa o ganlyniad i'r haint, a phryder ymhlith y diwydiant bod hyn yn mynd i gael effaith ar nifer y twrcwn fydd ar gael ar gyfer y Nadolig. 

Ond, yn ogystal â'r sector amaeth, mae lledaeniad yr haint ac effaith hynny ar fywyd gwyllt hefyd yn ddifrifol iawn, gyda rhyw 10,000 o wyddau môr wedi cael eu lladd gan yr haint y llynedd wrth iddyn nhw fudo o'r Arctig i Brydain. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi clywed am effaith hyn ar y mulfrain, cormorants, ar Ynys Gwales yn sir Benfro. Rydyn ni'n gwybod am bwysigrwydd arfordir gorllewin Cymru o ran adar môr a gwarchodfeydd natur pwysig. Felly, gyda phryderon am y lledaeniad yma y gaeaf hwn a'r berthynas rhwng y sector amaeth a bywyd gwyllt, ydy'r Gweinidog yn gallu ein sicrhau ni fod ymdrechion ac adnoddau i fynd i'r afael â'r ffliw yma yn y sector amaeth yn mynd law yn llaw gydag ymdrechion i ddiogelu ein bywyd gwyllt rhag yr haint?