Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 26 Hydref 2022.
Gallaf yn sicr, ac rwy'n gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r mater hwn hefyd. Cyhoeddodd y strategaeth liniaru ar gyfer ffliw adar mewn adar gwyllt yng Nghymru a Lloegr yn ôl ym mis Awst, rwy'n credu, a hynny er mwyn galluogi elusennau cadwraeth a rheolwyr tir— yn amlwg, mae hynny'n cynnwys y sector amaethyddol—i ymateb yn effeithiol a chyson i ffliw adar mewn adar gwyllt.