Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 26 Hydref 2022.
Diolch. Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at y ffotograffau y byddwch yn anfon ataf o Arthur, ac mae'n ddrwg gennyf glywed fod ei gyflwr yn dirywio, oherwydd, fel y dywedwch, nid y marwolaethau'n unig ydyw, ond yr anafiadau y mae'r anifeiliaid hyn yn eu cael. Rwy'n meddwl fy mod wedi ateb rhan o'ch cwestiwn yn fy ateb i Janet Finch-Saunders. Mae'n rhaid inni fynd drwy broses. Rydym wedi ymrwymo i drwyddedu, ond yn amlwg, wrth imi glywed am fwy a mwy o bryderon—. Ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed—. Mewn gwirionedd, roedd hi'n 38 gradd Celsius yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol, felly gallwch weld, mae gorfodi cŵn i redeg yn y gwres hwnnw'n hollol amhriodol.