Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 26 Hydref 2022.
Weinidog, mae'r anifeiliaid addfwyn, sensitif hyn yn haeddu pob gwarchodaeth y gallwn ei rhoi, a dyna pam y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio i amddiffyn a diogelu lles yr anifeiliaid annwyl hyn. Yn ddiweddar, cyflwynodd Llywodraeth y DU Ddeddf Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) 2022, a fydd yn sicrhau bod pob penderfyniad polisi i'w hystyried mewn perthynas â'r effaith ar les anifeiliaid fel bodau ymdeimladol. Pa gamau a roddir ar waith gennych i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith ei pholisïau ar anifeiliaid ymdeimladol fel milgwn? Diolch.