Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:01, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, byddwn yn dychmygu y bydd yr haen gydweithredol—. Rydym newydd fod yn cyfeirio at dair haen y cynllun ffermio cynaliadwy, a byddwn yn tybio y bydd haen gydweithredol y cynllun yn gallu cynnig cymorth i brosiectau ar lefel tirwedd ar wastadeddau Gwent, fel y nodwyd gennych yn awr, neu o fewn y gadwyn gyflenwi, fel y gallant gyflawni mewn perthynas â'r blaenoriaethau lleol a chenedlaethol hynny y cyfeirioch chi atynt. Gwn ein bod—wel, rydych chi, fel cadeirydd gweithgor gwastadeddau Gwent—yn edrych ar gynllun gwella strategol, a fydd ar gael yn y flwyddyn newydd, rwy'n credu, ac yna, byddwn yn dod allan o'r cyfnod cyd-gynllunio. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni edrych ar y cynllun hwnnw i weld sut y bydd yn cyd-fynd â’r cynllun ffermio cynaliadwy.