Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:59, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog, am gydnabod gwerth yr hyn a fu'n digwydd ar wastadeddau Gwent. Y mis diwethaf, roeddwn yn falch o gael siarad yng nghynhadledd Cynnal Gwastadeddau Gwent yn Redwick, pentref bach hanesyddol yn ardal Dwyrain Casnewydd. Cafodd gwastadeddau Gwent eu hadfer o'r môr adeg y Rhufeiniaid, ac mae ganddynt system cyrsiau dŵr unigryw a hanesyddol sy'n cynnwys amrywiaeth fawr o gynefinoedd, gan gynnwys llygoden y dŵr ar gors Magwyr. Maent yn cynnwys llawer o dir ffermio cynhyrchiol hefyd. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio'n agos gyda ffermwyr a sefydliadau eraill ar y gwastadeddau i gynhyrchu'r bwyd sydd ei angen, adfer natur, gwrthsefyll newid hinsawdd a gwella ansawdd dŵr. Mae hyn yn cynnwys adfer y ffosydd, peillio helyg, adfer perllannau, ond hefyd adfer glaswelltiroedd llawn rhywogaethau a chreu gwyndynnydd llysieuol. Weinidog, a wnewch chi ddweud sut y bydd cynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn helpu i gyrraedd y nodau hyn?