Ffliw Adar

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:53, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Fel rwy'n deall, mae achos o ffliw adar wedi bod yn fy etholaeth, ac mae'n hollbwysig, felly, fod popeth yn cael ei wneud i atal yr afiechyd rhag lledaenu ymhellach ar draws sir Benfro ac yn wir ar draws gweddill Cymru. Wrth gwrs, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n cydweithio gyda Llywodraethau eraill ledled y DU ar y mater hwn. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi gwybod inni am y trafodaethau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraethau eraill y DU ynghylch achosion o ffliw adar yn y DU, a beth arall y gellir ei wneud i fonitro'r clefyd penodol hwn ledled y DU oherwydd, fel y gwyddoch wrth gwrs, nid yw clefydau'n adnabod ffiniau?