Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 26 Hydref 2022.
Diolch. Rwyf bob amser yn meddwl bod Caerdydd yn ddinas werdd iawn. Fel y dywedwch, mae llawer o barciau hardd yma. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gydag unrhyw awdurdod lleol yn dod ataf mewn perthynas â pharciau newydd ers i hyn ddod yn ôl i fy mhortffolio wrth gwrs, ond yn sicr byddem yn awyddus iawn i edrych ar rinweddau unrhyw gynnig a gâi ei gyflwyno.