2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 26 Hydref 2022.
6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd er mwyn sicrhau bod gan ddatblygiadau tai newydd fannau gwyrdd cymunedol? OQ58602
Diolch. Rwy'n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda fy holl gyd-aelodau o'r Cabinet ar faterion sy'n ymwneud â fy mhortffolio. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ymrwymo i hyrwyddo lleoedd o ansawdd ac i ddatblygiadau tai newydd gael seilwaith digonol, gan gynnwys mannau gwyrdd.
Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn i'n gweld yn ddiweddar cyhoeddiad ym Madrid eu bod nhw'n mynd i gael mannau gwyrdd agored o amgylch y ddinas yna, ac mae ymgyrchydd lleol yng Nghaerdydd, Steffan Webb, yn trio gwneud rhywbeth tebyg fan hyn. Mae parciau gwych yng Nghaerdydd, ond roedd y mwyafrif llethol wedi cael eu hagor yn oes Fictoria. Mae modd creu parciau newydd yng Nghaerdydd, mewn llefydd fel Llaneirwg a Sain Ffagan. Byddai hyn yn creu ardaloedd hyfryd i bobl leol, byddai'n sicrhau llain las o amgylch y ddinas, a byddai hefyd yn amddiffyniad naturiol i lifogydd. Sut mae modd, Weinidog, i chi gydweithio ag eraill i sicrhau ein bod ni'n cael parciau newydd yn yr unfed ganrif ar hugain yng Nghaerdydd?
Diolch. Rwyf bob amser yn meddwl bod Caerdydd yn ddinas werdd iawn. Fel y dywedwch, mae llawer o barciau hardd yma. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gydag unrhyw awdurdod lleol yn dod ataf mewn perthynas â pharciau newydd ers i hyn ddod yn ôl i fy mhortffolio wrth gwrs, ond yn sicr byddem yn awyddus iawn i edrych ar rinweddau unrhyw gynnig a gâi ei gyflwyno.
Weinidog, fel y gwyddoch, cafwyd cynnig ar gyfer gorsaf bwmpio carthion newydd ar fan gwyrdd cymunedol parc Hailey yng Nghaerdydd er mwyn gwasanaethu anghenion datblygiad newydd Plasdŵr. Daeth y cynigion gerbron oherwydd bod datblygwyr yr ystad dai newydd wedi methu gwneud darpariaeth ddigonol, ac mae gwrthwynebiad ffyrnig i'r cynigion gan grwpiau lleol, fel YGC Rebel Mams, sydd wedi cael eu gorfodi i godi dros £50,000 i fynd â'r awdurdod lleol i adolygiad barnwrol, a'r cyfan am eu bod am ddiogelu'r mannau gwyrdd cyfyngedig sydd ar gael iddynt ar gyfer eu plant a'u cymuned, ac oherwydd eu bod yn teimlo na ddylent gael eu gorfodi i ysgwyddo'r baich oherwydd anallu Cyngor Caerdydd i weithio gyda datblygwyr ar gynllunio anghenion ystadau tai newydd. Weinidog, mae mannau gwyrdd yn brin iawn yng Nghaerdydd, ac mae Cyngor Caerdydd yn benderfynol o gael gwared arnynt pryd bynnag a lle bynnag y bo modd yn wyneb gwrthwynebiad ffyrnig trigolion sy'n gwybod y bydd y mannau hyn yn cael eu colli iddynt am byth. Felly, rwy'n gofyn, Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i annog Cyngor Caerdydd i beidio â gosod y tir ym mharc Hailey ar brydles i Dŵr Cymru fel y gellir atal gwaith carthffosiaeth, ac a wnewch chi gynnig ymrwymiad y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gynllunio datblygiadau'n well, gan eu hatal yn eu tro rhag cael gwared â'n mannau gwyrdd cymunedol olaf yn ein hardaloedd trefol? Diolch.
Byddai'n rhaid i chi godi hynny'n uniongyrchol gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Yn amlwg, mater i Gyngor Caerdydd yw'r hyn y cyfeiriwch ato; hwy yw'r awdurdod cynllunio lleol. Ni fyddai'n briodol i unrhyw Weinidog Cymreig wneud sylw ar deilyngdod unrhyw gynnig, er enghraifft, gan y gallai ddod gerbron Gweinidogion Cymru rywbryd yn y dyfodol.