6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod — Bil Addysg Awyr Agored (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:26, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, mae'n bwysig pwysleisio, Ddirprwy Lywydd, fod gan wahanol ddysgwyr anghenion gwahanol. Rydym yn awyddus i rymuso ysgolion i ddewis y profiadau dysgu awyr agored sy'n cefnogi eu dysgwyr hwy orau yn eu cyd-destun penodol. Bydd hynny—ac yn gwbl briodol—yn edrych yn wahanol ar gyfer gwahanol ddysgwyr, gyda chyd-destunau gwahanol i wahanol oedrannau. Er mwyn bod yn llwyddiannus, mae'n rhaid i'n hymdrechion i hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored, y mae pob un ohonom yn cytuno eu bod yn hanfodol, gydnabod hyn.

Mae angen inni sicrhau hefyd fod mynediad dysgwyr at ddysgu yn yr awyr agored yn rhywbeth sy’n digwydd drwy gydol eu hamser yn yr ysgol. Mae angen i ddysgwyr gael profiadau cofiadwy a difyr parhaus o ddysgu yn yr awyr agored a fydd yn datblygu'r ymddygiadau a'r agweddau sy'n meithrin cariad gydol oes at yr awyr agored.

Y pryder cyntaf sydd gennyf gyda’r Bil arfaethedig yw ei fod yn bwriadu gwneud un dull o ddarparu dysgu a phrofiad awyr agored yn ddyletswydd statudol. Dull y cwricwlwm newydd yng Nghymru yw sicrhau bod profiadau’r dysgwr yn adlewyrchu anghenion y dysgwr hwnnw mor agos â phosibl. Nid yw hynny’n cael ei adlewyrchu yn y dull y mae’r Bil yn ei argymell.

Fy ail bryder, un y mae’r Aelod wedi’i ragweld yn ei gyfraniad agoriadol, yw bod y costau’n sylweddol. Mae memorandwm esboniadol yr Aelod yn amcangyfrif y bydd y bil ar gyfer hyn oddeutu £10 miliwn i £13.6 miliwn. Byddai ein dadansoddiad cynnar yn ei roi'n nes at £18 miliwn. Ond y naill ffordd neu'r llall, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, mae hyn yn creu pwysau sylweddol iawn arall ar gronfa gyllid sydd eisoes dan lawer o bwysau. Gŵyr pob un ohonom fod y rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn llwm dros ben. Mae pwysau chwyddiant ar ein cyllid presennol gan Lywodraeth y DU yn golygu ein bod yn cael cryn dipyn yn llai am ein harian yn awr nag y byddem wedi’i gael pan gafodd ei ddyrannu, ac nid oes fawr ddim arwydd y bydd y pwysau hwn yn lleddfu yn y tymor byr i’r tymor canolig. Yn wir, mae yna senario real iawn lle gallem wynebu toriadau dyfnach byth i’n cyllideb.

Ar adeg pan ydym yn gwneud popeth a allwn i leihau’r baich ariannol ar ysgolion a rhieni, ni allaf ychwanegu mwy o bwysau ar bwrs y wlad, ni waeth faint o gydymdeimlad sydd gennyf ag amcanion cyffredinol y Bil arfaethedig. Yn y dyfodol, pan fyddwn yn cyrraedd adeg pan nad yw’r dewisiadau cyllidol mor llwm, efallai y bydd modd inni gael trafodaeth wahanol, ond yn yr hinsawdd sydd ohoni, nid yw hynny’n bosibl.

Fodd bynnag, ar ôl cyfarfod ar fwy nag un achlysur yn ddiweddar â’r Aelod a chydag aelodau o’r grŵp trawsbleidiol ar gyfer y sector gweithgareddau awyr agored, gwn fod llawer iawn o egni, profiad ac arbenigedd ar gael i ni. Mae’r cynnig wedi dod ag egni o’r newydd i’r drafodaeth ar rinweddau dysgu yn yr awyr agored, a hoffwn weithio gyda’r sector, ochr yn ochr â fy swyddogion ac addysgwyr, ar ffyrdd o annog mwy o ddysgu yn yr awyr agored, gan gynnwys profiadau preswyl awyr agored, mewn ffordd y gellir ei chyflawni'n ymarferol.

Gallai meysydd y gellid eu harchwilio, er enghraifft, gynnwys gwell cymorth dysgu proffesiynol i addysgwyr, addysg gychwynnol i athrawon, adnoddau a deunyddiau ategol, a rhannu arferion da, gan gynnwys helpu i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau y mae ysgolion yn eu hwynebu neu’n eu canfod. Byddai dull o’r fath yn gwneud addysgwyr yn ganolog i'r sgwrs ynglŷn â'r hyn sy’n gweithio orau ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, a sut y gellir gwneud hyn. Gyda’r ewyllys gorau yn y byd, wrth gwrs, bydd llai o gapasiti i wneud yr holl waith da hwnnw os ydym hefyd yn gweithio gyda’r Aelod ar y Bil, ond byddwn yn gobeithio y gallem o leiaf wneud rhywfaint o gynnydd. Gwn o’n trafodaethau gyda’r Aelod y byddai’n awyddus i gydweithio, ac rwy'n croesawu hynny.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, ni all y Llywodraeth gefnogi’r Bil, ond rydym yn cynnig dull amgen, o fewn egwyddorion ein cwricwlwm, i weithio yn lle hynny gyda’r Aelod ac eraill ar ddatblygu pecyn o fesurau y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym, ar unwaith, gyda’r nod o gryfhau effaith addysg awyr agored a mynediad at addysg awyr agored i bob un o’n dysgwyr yng Nghymru, heb roi pwysau diangen ar y gronfa sy'n ei hariannu, cronfa sydd eisoes dan bwysau. Diolch yn fawr.