Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 26 Hydref 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae dysgu yn yr awyr agored yn elfen sylfaenol o ran lles ein plant a'n pobl ifanc. Mae'n ffordd o'u helpu nhw i gadw'n iach yn gorfforol ac yn gallu helpu gyda'u lles meddyliol ac emosiynol hefyd. Mae'n caniatáu iddyn nhw ymwneud â'r byd o'u cwmpas, gan roi cyfle iddyn nhw brofi rhyfeddodau natur. Dyna pam mae ein cwricwlwm newydd yn pwysleisio rôl dysgu yn yr awyr agored ar draws y cwricwlwm, mewn meysydd fel iechyd a lles, gwyddoniaeth a thechnoleg, y dyniaethau, a'r celfyddydau mynegiannol. Mae hyn yn cael ei wneud yn gwbl glir yn y canllawiau statudol y mae'n rhaid i bob ysgol eu hystyried wrth ddatblygu eu cwricwlwm.
Mae'n hanfodol i blant a phobl ifanc gael profiadau o ddysgu yn yr awyr agored drwy gydol eu hamser yn yr ysgol, ac i'r profiadau hynny fod yn rhai difyr a chofiadwy. Mae canllawiau statudol y Cwricwlwm i Gymru'n pwysleisio pwysigrwydd yr amgylchedd dysgu fel ysgogwr allweddol yn y cwricwlwm, ac yn nodi y dylai dysgwyr o bob oed brofi cyfleoedd dysgu dilys dan do ac yn yr awyr agored. Mae'r egwyddorion addysgeg sy'n cael eu hamlinellu yn y canllawiau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored. Mae disgwyliad clir, felly, y dylai dysgwyr fwynhau'r awyr agored yn rheolaidd.
Mae ein canllawiau statudol ar sicrhau dull ysgol gyfan o edrych ar les emosiynol a meddyliol hefyd yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng lles corfforol a meddyliol, manteision dysgu yn yr awyr agored, a chael mynediad at fannau yn yr awyr agored. Felly, rwy'n awyddus iawn i gydweithio â'r Aelod a phobl eraill sydd â buddiant ar ffyrdd o gryfhau, cefnogi a pharhau i ddatblygu'r cyfraniad y mae addysg yn yr awyr agored yn ei wneud i'r hawl i ddysgu yng Nghymru, a datblygiad ein plant a'n pobl ifanc.