8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg — 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:59, 26 Hydref 2022

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf am ddiolch, os caf i, i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu hadroddiad nhw. Mae ymchwiliadau fel hyn yn helpu i gadw'r sgyrsiau pwysig yma ar frig yr agenda, a hoffwn i sôn heddiw am rai o'r camau rŷn ni'n eu cymryd.

Yn gyntaf, mae'n bwysig nad ydyn ni'n diystyru pŵer lleisiau plant a phobl ifanc sy'n herio'r arfer o'r normaleiddio rŷn ni wedi sôn amdano fe heddiw—normaleiddio aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Cafodd hyn ei wneud yn arbennig o amlwg i fi mewn digwyddiad diweddar a gafodd ei gynnal gan grŵp trawsbleidiol y Senedd ar atal cam-drin plant yn rhywiol, a ches i'r cyfle o glywed gan bobl ifanc sydd wedi defnyddio eu profiad personol nhw i greu newid go iawn. Dyna pam mae'n bwysig i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn rhan hanfodol o bopeth rŷn ni'n ei wneud. Ac rŷn ni'n gweithio gyda sefydliadau partner ar y ffordd orau o gyflawni hynny ac yn cytuno bod angen sefydlu bwrdd ymgynghorol a bod ganddyn nhw rôl lawn, fel y gwnaeth Jayne Bryant ofyn i fi ei gydnabod. 

Rwy'n cydnabod hefyd fod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fater cymdeithasol ehangach a bod gan rieni, gofalwyr a theuluoedd rôl allweddol i'w chwarae wrth gefnogi pobl ifanc. Byddwn ni hefyd yn datblygu negeseuon i rieni a gofalwyr am sut i ddelio ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i'w chwarae hefyd wrth greu amgylcheddau diogel, gan helpu sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu mwynhau cydberthnasau iach a diogel. 

Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ofyniad statudol i bob dysgwr o dan y cwricwlwm newydd. Bydd y maes hwn yn chwarae rôl gadarnhaol, gan ddiogelu a helpu pob plentyn a pherson ifanc i ddeall ymddygiad a sefyllfaoedd a allai eu rhoi mewn perygl o niwed, fel eu bod yn gwybod beth i'w wneud i gadw'n ddiogel a sut i ofyn am help.