Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 26 Hydref 2022.
Mae technolegau digidol wedi newid y ffordd y mae pawb ohonom yn cyfathrebu, ac mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc, fel rydym newydd glywed yng nghyfraniad Jenny Rathbone. Mae aflonyddu rhywiol ar-lein yn cwmpasu ystod eang o ymddygiadau, ac rwy'n cydnabod yr her y mae hyn yn ei chreu i ysgolion. Fe ymwelais ag ysgol yn ddiweddar sydd wedi bod yn gweithio gyda bechgyn, yn yr achos hwnnw, ar ddeall effaith rhannu delweddau ar-lein, er enghraifft, ac ysgol arall lle mae merched yn codi ymwybyddiaeth gydag eraill o'r aflonyddu ar-lein roeddent wedi'i brofi yn yr ysgol a'r tu allan. Ac unwaith eto, mewn ymateb i'r pwynt y mae Joyce Watson ac eraill wedi'i wneud, mae adran 'cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb yn rhoi gwybodaeth, arweiniad a chyfleoedd hyfforddi i ysgolion ar ystod eang o faterion diogelwch ar-lein. Mae'n hanfodol bwysig fod y gweithlu addysg yn cael cyfleoedd hyfforddi a datblygu i'w cynorthwyo i adnabod, ymateb i ac adrodd am aflonyddu rhywiol gan gyfoedion. Cyn bo hir, byddwn yn treialu cwrs hyfforddi pwrpasol ar aflonyddu rhywiol ar-lein i ddarparwyr addysg, a bydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru wedyn.
Gofynnwyd i mi am arian dysgu proffesiynol. Mae ysgolion eisoes yn cael grantiau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu proffesiynol fel nad yw'r arian hwnnw ar draul ffynonellau cyllid eraill, fel y gofynnodd Jayne Bryant i mi gadarnhau. Ac maent yn derbyn arweiniad yn ogystal ar sut y gallant fuddsoddi yn y dysgu proffesiynol hwnnw. Byddwn hefyd yn adolygu'r adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb ac yn ceisio nodi adnoddau effeithiol pellach a all gefnogi'r gwaith o ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb yn effeithiol.
Mae angen clir i adrodd yn fwy cadarn am achosion o aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau addysg. Gwyddom nad oes gan blant a phobl ifanc hyder bob amser i adrodd am achosion wrth eu hathrawon, yn aml oherwydd eu bod yn poeni na fydd yn cael ei gymryd o ddifrif. O'r herwydd, ceir diffyg gwybodaeth am raddfa wirioneddol y broblem, yn ogystal â diffyg cysondeb, fel y buom yn ei drafod, yn y systemau adrodd, ac felly, yn ei dro, wrth gasglu data.
Cefais fy siomi o glywed bod ein disgyblion LHDTC+ yn cael profiadau personol sylweddol o aflonyddu geiriol homoffobig ac mai dyma'r math mwyaf cyffredin o aflonyddu mewn llawer o ysgolion. Mae unrhyw fath o fwlio yn gwbl annerbyniol, gan gynnwys aflonyddu a bwlio oherwydd rhywioldeb neu hunaniaeth rhywedd unigolyn. Bydd llawer ohonom sydd wedi tyfu i fyny'n hoyw wedi cael profiadau ein hunain o hyn yn yr ysgol. Nid oes lle iddo mewn cymdeithas, mewn ysgolion nac ym mywydau ein pobl ifanc, ac rydym wedi ymrwymo i newid y realiti hwnnw i'n disgyblion LHDTC+. Rydym eisoes yn gwneud newidiadau i'n canllawiau gwrth-fwlio, 'Hawliau, parch, cydraddoldeb', mewn perthynas ag aflonyddu hiliol a bwlio mewn ysgolion, a byddwn hefyd yn ystyried sut y gellir ehangu'r gwaith hwnnw'n effeithiol i gynnwys adrodd cadarn, cofnodi a chasglu data o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, gan gynnwys aflonyddu homoffobig a bwlio.
Bydd cynhwysiant a chefnogaeth LHDTC+ hefyd yn cael sylw mewn canllawiau newydd i gynorthwyo lleoliadau addysg i ymgorffori diwylliant o gynhwysiant, gwrth-wahaniaethu a hawliau. Mae'n amlwg o'n hymgysylltiad ag awdurdodau lleol, addysgwyr, athrawon a phobl ifanc fod angen arweiniad ychwanegol ar ysgolion am y ffordd orau o gefnogi plant a phobl ifanc LHDTC+, yn enwedig rhai sy'n draws neu'n anneuaidd. Mewn ymateb i gwestiwn Sioned Williams mae'r canllawiau'n cael eu datblygu ar hyn o bryd ac rydym yn rhagweld y cânt eu cyhoeddi yng ngwanwyn 2023. Gwyddom nad yw aflonyddu rhywiol gan gyfoedion wedi'i gyfyngu i ysgolion uwchradd ac rydym yn glir fod angen gweithredu ar draws pob lleoliad, fel y nododd Jack Sargeant yn ei gyfraniad. Mae gwell dealltwriaeth o'r ffyrdd y caiff hyn ei brofi ar wahanol oedrannau'n bwysig er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb gydag ymyriadau priodol ac wedi'u teilwra, felly rydym wedi comisiynu adolygiad thematig gan Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn y sector addysg bellach. Mae'r adolygiad hwnnw ar y gweill ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddo adrodd yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio argymhellion Estyn i fod yn sylfaen i raglen waith benodol i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol mewn addysg bellach. Mae angen gwell dealltwriaeth hefyd o brofiadau plant o fwlio ar sail rhyw neu aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau cynradd, ac rydym ar hyn o bryd yn ystyried cwmpas yr adolygiad hwn.
Er y bydd gwaith pellach yn helpu i sicrhau bod gennym bolisi ac ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, nid yw hyn yn ein hatal rhag gweithredu nawr. Mae fy swyddogion yn gweithio gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys yr heddlu, i ddatblygu cynllun gweithredu amlasiantaeth, a bydd y cynllun yn amlinellu'r camau y bydd Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn eu cymryd i atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn lleoliadau addysg. Bydd yn ategu'r gwaith ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys ymddygiad rhywiol niweidiol a chamfanteisio rhywiol ar blant, a gallaf gadarnhau, mewn ymateb i gwestiwn Joyce Watson, y bydd yn mabwysiadu ar sail amlasiantaethol y diffiniad o 'aflonyddu rhywiol' a ddefnyddir gan Estyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r weledigaeth o roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Gall hyn gael effaith enfawr ar ferched a menywod ifanc, ac yn wir ar bob plentyn a pherson ifanc, sy'n gallu effeithio ar eu llesiant a'u perthynas â'u cyfoedion. Ar 24 Mai, gwnaethom gyhoeddi strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n cynyddu ymwybyddiaeth mewn plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach, ac yn eu grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol. Byddwn yn mabwysiadu dull trawslywodraethol o sicrhau ei llwyddiant.
Yn olaf, gofynnodd Jayne Bryant i mi gydnabod effaith hirdymor aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, hyd yn oed lle mae hynny y tu allan i'r diffiniad o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Roedd hwn yn fater a nodwyd yn adolygiad 2020. Un o'r argymhellion oedd i'r Llywodraeth edrych yn fwy cyfannol ar fynd i'r afael â niwed a thrawma yn ystod plentyndod, a bydd gwaith y cynllun profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd wedi bod ar y gweill yn cael ei adeiladu ar sylfaen dystiolaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond yn cydnabod ffynonellau eraill o niwed, a bydd hynny'n cynnwys aflonyddu rhywiol gan gyfoedion.
Heddiw amlinellais rai yn unig o'r camau y byddwn yn eu cymryd, ond byddwn yn parhau i wrando ac i weithio gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn esblygu ein dull o sicrhau bod ein gwaith yn cael yr effaith fwyaf.