9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Strôc

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:26, 26 Hydref 2022

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r testun yma o'n blaenau ni heddiw. Dwi ddim yn siŵr am y cynnig yn ei gyfanrwydd. Fe ddown ni draw at hynny mewn eiliad, ond o ran y pwynt canolog, yr hyn sydd gennym ni yng nghymalau 1 a 2 yn y cynnig heddiw yma, ydy, mae hi'n Ddiwrnod Strôc y Byd ddydd Sadwrn 29 Hydref, ac mae'n bwysig bachu ar gyfle fel hyn bob amser i atgoffa ein hunain o'r effaith y mae strôc yn ei gael o fewn ein teuluoedd ni, o fewn ein cymunedau ni, a'r hyn y gallwn ni ei wneud a'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod ein hymateb ni cyn gryfed ac mor effeithiol ag y gall o fod. 

Cymal 2, wrth gwrs, rydyn ni yn adnabod ac yn cydnabod bod angen ymateb brys pan fydd rhywun yn cael strôc er mwyn ceisio dylanwadu ar yr outcomes gorau i'r person hwnnw. Strôc ydy'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru. Mae'r cyfraddau goroesi wedi gwella, ac mae hynny i'w groesawu wrth i dechnolegau yn fyd-eang wella. Mae'n bwysig nodi, serch hynny, fod eich siawns chi o oroesi llawer mwy os nad ydych chi'n byw mewn tlodi, ac mae hwn yn un arall o'r meysydd yna lle mae anghyfartaledd mewn iechyd yn cael effaith go iawn ar eich siawns chi i oroesi os ydy'r gwaethaf yn digwydd. 

Ond rydyn ni'n gwybod bod yna lawer mwy sydd angen ei wneud i wella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig yng Nghymru ar ôl strôc. Mae angen sicrhau bod goroeswyr yn cael cefnogaeth well, yn cael eu hadolygiadau chwe mis, yn cael gwasanaethau i ailadeiladu eu bywydau mewn rhai ffyrdd. Mae angen ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, ac yn y blaen, er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth yna i bobl sydd yn dioddef strôc.

Ond hefyd, wrth gwrs, mae'r elfen yma rydyn ni'n ei gweld yn y cynnig o frys—yr angen am ymateb mor fuan â phosibl pan fydd strôc yn digwydd. Rydyn ni'n gweld yr ystadegau sydd yn dangos i ni, ar gyfartaledd, ei bod hi'n cymryd chwech awr a hanner rhwng dechrau'r strôc a chyrraedd ysbyty yng Nghymru, a bod hynny'n sylweddol hirach na'r hyn rydyn ni'n ei weld mewn rhannau eraill o'r ynysoedd yma. Dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei sylwadau hi yn cydnabod nad ydy hynny'n ddigon da, a bod angen gwella'r perfformiad hwnnw yn sylweddol.

Mi wnaf i dynnu sylw yn fan hyn, o ran ymateb cyflym, i'r ffaith bod ambiwlans awyr Cymru yn nodi ar eu gwefan nhw fod ymateb i strôc yn un o'r gwasanaethau y maen nhw'n ei gynnig. Mae hynny'n cael ei nodi'n glir iawn ar eu gwefan nhw. Dwi'n tynnu sylw at hynny, wrth gwrs, oherwydd y pryderon mewn rhannau o Gymru—yn y canolbarth ac yn y gogledd-orllewin yn arbennig—bod y syniadau sydd ar y bwrdd ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau ambiwlans yn mynd i olygu bod pobl yn yr ardaloedd anoddaf i'w cyrraedd yn mynd i orfod aros yn hirach i A&E eu cyrraedd nhw, achos dyna, wrth gwrs, ydy'r ambiwlans awyr. 

Mi wnaf droi at gymal 3. Dwi'n gweld hwn, mae'n rhaid i mi ddweud, yn gymal od. Dwi'n gallu gweld bod llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd a gofal ddim yn ei sedd y prynhawn yma, am ba bynnag reswm, ond beth sydd gennym ni ydy cynnig gan ei blaid yn gorchymyn y pwyllgor iechyd i edrych ar faterion yn ymwneud â strôc a'r ymateb i strôc. Fel aelod o'r pwyllgor iechyd, dwi'n gweld hynny braidd yn od. Dwi'n berffaith hapus, wrth reswm, i'r pwyllgor iechyd—os ydyn ni'n gallu gwneud amser; mae'n bosib y gallwn ni gael sgwrs efo'r Cadeirydd am hynny—edrych ar y maes yma, ond dwi yn ei gweld hi'n broses od bod hyn yn cael ei gyflwyno yn y ffordd yma. 

Mi wnaf droi yn sydyn at welliant y Llywodraeth. Dwi wedi cael profiad diddorol iawn yn paratoi am y sesiwn yma heddiw, gan nad ydw i'n gallu dod o hyd i unrhyw wybodaeth o gwbl ynglŷn â beth ydy'r bwrdd rhaglen strôc mae'r Llywodraeth yn cyfeirio ato fo, ac yn dweud sydd yn mynd i wneud cyfraniad mawr at yr ymateb i strôc yng Nghymru. Does yna ddim gwybodaeth ar gael yn unrhyw le ynglŷn ag ydy o'n bodoli eto, pwy sydd ar y bwrdd yma, felly dwi'n edrych ymlaen yn arw i'r Gweinidog ein addysgu ni ar hynny. Ond mae o'n dweud wrthym ni, lle mae yna gamau yn cael eu cymryd, siawns bod angen i Lywodraeth Cymru egluro beth ydy'r camau hynny. Doedd hyd yn oed elusennau ddim yn medru dweud wrthym ni beth oedd y bwrdd yma. Mi wrandawaf i'n astud. Ond mi allwn ni i gyd fod yn gwbl, gwbl gytûn bod angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl sydd yn dioddef o strôc yng Nghymru yn cael cefnogaeth frys, a'r gefnogaeth orau posib.