Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 26 Hydref 2022.
Rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r cynnig hwn, yn enwedig o gofio ei bod yn Ddiwrnod Strôc y Byd 2022 ddydd Sadwrn. Fel y soniodd Mark Isherwood yn ei sylwadau agoriadol, ar gyfartaledd, bydd 7,400 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn yng Nghymru, a dyna yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yn y wlad hon. Felly, ni ellir bychanu pwysigrwydd gwasanaethau strôc cyflym o ansawdd rhagorol, nid yn unig ar gyfer cefnogi a thrin cleifion, ond yng nghyd-destun ehangach y pwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol.
Ond er mwyn i hyn fod yn wir, mae angen ailwampio'r system gyfan. Rydym wedi clywed y prynhawn yma am bwysigrwydd y 60 munud cyntaf ar ôl strôc. Yn yr amser hwnnw, gall ymyrraeth triniaeth olygu'r gwahaniaeth rhwng adferiad llwyddiannus a niwed na ellir ei wella. Ac os ydych yn byw mewn ardal wledig fel Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae pa mor gyraeddadwy yw'r targed hwn yn peri pryder enfawr. Ers 2015, ni fu unrhyw amser targed ar gyfer argyfyngau strôc, sy'n golygu bod cleifion sy'n dangos symptomau FAST yn aml yn gorfod aros sawl awr i ambiwlans ymateb i'w galwad. Ac fel y clywsom yn ystod y ddadl, nid oes gan gleifion strôc oriau i aros.
Mae angen i'r Llywodraeth adolygu ei model ymateb clinigol, ac mae angen iddi hefyd sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd ar waith i gefnogi unigolyn drwy eu cynllun gweithredu ar gyfer triniaeth strôc. Yn anffodus, nid oes yr un o'r pethau hyn yn digwydd ar hyn o bryd. Dros yr wythnosau diwethaf, cefais y pleser o gyfarfod â Grŵp Strôc Caerfyrddin a Chymdeithas Strôc y DU ar risiau'r Senedd i drafod effeithiolrwydd yr acronym FAST, pwysigrwydd gwasanaethau strôc o ansawdd, a gweinyddu mynediad cyflym at ofal iechyd.
Fodd bynnag, ar ôl adolygu'r data SSNAP diweddaraf ar gyfer gorllewin Cymru—y rhaglen archwilio genedlaethol ar gyfer strôc sentinel—lle mae gwasanaethau'n cael eu graddio o A i E yn dibynnu ar eu hansawdd, mae'n amlwg nad yw gwasanaethau strôc ledled y wlad wedi cael y ffocws a'r cyllid sydd ei angen arnynt. Mae data SSNAP ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg yn categoreiddio pedwar o'u chwe sgôr fel rhai sydd y tu allan i'r parth gwyrdd derbyniol, gyda'u sgôr 'mynediad at uned strôc' yn sgorio E, sef y radd isaf bosibl. Yn Ysbyty Glangwili, cafodd 'mynediad at uned strôc' a gwasanaethau thrombolysis sgôr o E. Ac yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, cafodd tri gwasanaeth—mynediad at uned strôc, thrombolysis a gwasanaethau therapi galwedigaethol—sgôr o E unwaith eto, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno nad yw hynny'n ddigon da, ac mae hyn yn digwydd yn ein rhanbarth ni fel Aelodau.
Gadewch inni fod yn glir: yn sicr nid staff ymroddedig y GIG sydd ar fai am y sefyllfa a ddisgrifiais y prynhawn yma; cyfrifoldeb y Llywodraeth yw hyn. Ond os ydym am roi'r cyfle gorau am adferiad i unrhyw glaf sy'n dioddef strôc, rhaid inni sicrhau bod gwasanaethau strôc yn gyffredinol o'r ansawdd gorau posibl. Dyma ein cyfle i ailwampio gwasanaethau strôc yng Nghymru a sicrhau bod gan bob person, beth bynnag fo'u cod post, fynediad rhagorol at wasanaethau o'r radd flaenaf, a all wneud yr ymyriadau angenrheidiol i atal niwed na ellir ei wella yn dilyn strôc ddifrifol. Gyda hynny, hoffwn annog pob cyd-Aelod yn y Siambr hon i bleidleisio o blaid y cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch.