Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 26 Hydref 2022.
Rwy'n credu bod hon yn ddadl bwysig, oherwydd, fel sydd eisoes wedi'i gydnabod, dyma'r pedwerydd prif achos marwolaeth, felly mae'n amlwg yn rhywbeth y mae angen inni ei gael yn iawn. Ond byddwn yn gochel rhag syniad James Evans y gallem gael ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys a fyddai'n darparu gofal o'r ansawdd rydych ei angen pan fydd rhywun yn cael strôc. [Torri ar draws.] Os wyf wedi eich camddeall, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.