Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 26 Hydref 2022.
Mae gan fy etholwyr berthynas heriol gyda gwasanaethau strôc, yn wahanol i'r rhai mewn sawl rhan arall o Gymru, a hynny oherwydd nad oes gennym ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys. Mae natur wledig Brycheiniog a Sir Faesyfed a diffyg darpariaeth gwasanaethau strôc yn golygu bod cael triniaeth yn anos i fy etholwyr, ac mae'n rhaid i nifer ohonynt deithio dros y ffin i swydd Henffordd a swydd Gaerwrangon i gael triniaeth. Cafodd cyfanswm o 150 o bobl ym Mhowys eu derbyn i'r ysbyty yn Lloegr ar ôl cael strôc yn 2021-22. Meddyliwch am y gwahaniaeth y gallai fod wedi ei wneud i'r bobl hynny pe gallent fod wedi cael eu trin yn nes at adref. Fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, bûm yn galw am uned strôc acíwt ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ers amser hir, i sicrhau bod pobl yn cael triniaeth amserol yn ein cymunedau. Byddai hyn yn hwb enfawr i bobl yn fy ardal sydd mewn angen dybryd am ddarpariaeth strôc fodern ac effeithiol.
Gyda strôc, mae'r eiliadau a'r munudau'n bwysig. Mae'r ffaith bod pobl o Bowys yn gorfod mynd dros y ffin am driniaeth yn golygu baich diangen o ran amser i'r bobl sydd wedi dioddef. Mae'r amseroedd teithio hir oherwydd diffyg ysbyty ym Mhowys, fel y dywedais, yn gwneud marwolaeth ac anabledd yn fwy tebygol, oherwydd mae amser yn achub bywydau. Roeddwn yn dawelach fy meddwl yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, ar ôl eich clywed chi, Weinidog iechyd, yn dweud bod gennych gynlluniau ar y gweill ar gyfer gwasanaethau strôc rhanbarthol, ond mae fy nhrigolion angen gwybod faint o bobl yn y rheini fydd yn gallu aros yng Nghymru am driniaeth yn lle mynd i Loegr. Oherwydd gorau po agosaf i adref y gallwn gael triniaeth strôc, ac rwy'n credu yr hoffwn glywed mwy o eglurder gennych chi ynghylch pryd y gwelwn y rheini'n dwyn ffrwyth.
Gan mai strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru, mae'n hanfodol fod pobl y canolbarth yn cael triniaeth dda, amserol ac nad ydynt yn cael eu hanwybyddu. Rhaid i ddarpariaeth strôc fod yn flaenoriaeth, a phan edrychwn ar amseroedd ymateb ambiwlansys ledled Cymru, mae'n ymddangos i mi ac i eraill nad yw hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am adolygiad o fanteision a heriau ail-gategoreiddio galwadau strôc fel rhai coch yn lle oren. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n gobeithio y gall y pwyllgor iechyd edrych arno. Byddai hyn yn gydnabyddiaeth o'r heriau enfawr y mae strôc yn eu hachosi ac yn gam mawr ymlaen ar y ffordd i ddatrys y broblem, a fydd yn gwaethygu cyn ei bod yn gwella. Diolch, Lywydd.