Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:45, 8 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn; mae'n bwysig iawn bod pob gwlad yn dangos arweinyddiaeth, ac rwy'n sicr yn credu y dylai arweinyddiaeth y DU, sef yr aelod-wladwriaeth, wneud hynny. Rwy'n falch iawn bod Prif Weinidog y DU wedi newid ei feddwl ac yn mynd i COP27, oherwydd rwy'n sicr yn meddwl bod angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy. Fel gwlad, yma yng Nghymru, rydym ni'n sicr yn dangos arweinyddiaeth. Rwyf i wedi bod mewn cynadleddau COP fy hun, pan oeddwn i'n Weinidog â chyfrifoldeb am yr amgylchedd. Yn sicr roedd gwladwriaethau a rhanbarthau eraill yn edrych atom ni i weld beth oeddem ni wedi ei wneud yn ein brwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.

Fe wnaethoch chi sôn am ynni adnewyddadwy, ac rydym ni'n sicr wedi cynyddu'n sylweddol faint o ynni adnewyddadwy rydym ni'n ei gynhyrchu yma yng Nghymru. Nid oes gen i ffigur wrth law, ond yn sicr roeddem ni wedi gweld cynnydd, roeddwn i'n meddwl, o un flwyddyn i'r llall, dros y blynyddoedd diwethaf. Yn amlwg, cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y datblygiad ynni adnewyddadwy yn ddiweddar a bydd yn cyflwyno'r strategaeth cyn gynted â phosib, ac mae'n gwneud datganiad y prynhawn yma.