Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:44, 8 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Fis diwethaf, cyhoeddodd Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig ei hadroddiad bwlch allyriadau ar gyfer 2022. Roedd yn cynnwys neges glir i'r ddynoliaeth, fel rydym ni eisoes wedi clywed, gyda'r gymuned ryngwladol ymhell iawn o fodloni'r amcanion datgarboneiddio a amlinellir yng nghytundeb Paris. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw lwybr credadwy i leihau gwresogi byd-eang o dan 1.5 gradd.

Ni ellir ymddiried yn Llywodraeth bresennol y DU i ddangos unrhyw arweinyddiaeth gredadwy yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae'n hanfodol, felly, bod Cymru'n dangos arweinyddiaeth gadarn a phendant ar y mater hwn. Ar y sail hon, a allai'r Gweinidog esbonio pam, os gwelwch yn dda, fel yr adroddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith, y bu arafu i ddatblygiad ynni adnewyddadwy yng Nghymru ers 2015? A phryd mae'r Llywodraeth yn mynd i gyflwyno ei thargedau ynni adnewyddadwy newydd arfaethedig, fel y mae wedi addo ei wneud eleni?