Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 8 Tachwedd 2022.
—ond mae'n ffaith. Mae'n ffaith, mae'n ffaith, mae'n ffaith. Ond un peth rwy'n anghytuno ag ef yw tynnu'r Dirprwy Weinidog yn ôl, ddim yn mynd i Iran yn erbyn Cymru yng nghwpan y byd. Rwy'n credu y byddai hynny wedi bod yn arwydd cadarnhaol—anfon menyw i chwarae yn erbyn gwlad sydd yn y pen draw yn gormesu hawliau menywod—a'r hyn y dylem ni fod yn ei wneud yw bod â Dirprwy Weinidog yn cynrychioli Llywodraeth Cymru yn y gêm honno. A allwn ni weld a oes modd newid y penderfyniad hwnnw, ac yn y pen draw anfon neges gadarnhaol bod menywod a dynion yn gyfartal yma yng Nghymru a bod hawliau'n cael eu parchu, ac y dylai hynny fod yn wir ym mhedwar ban byd?