Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Felly, fel Llywodraeth, rydym ni'n adolygu'n rheolaidd y ffordd orau y gallwn ni hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang, a'n penderfyniad yw ei bod hi'n gymesur i'r Prif Weinidog a Gweinidog arall fod yn bresennol yn nwy o'r gemau grŵp. Os byddwn yn symud ymlaen, ac yn sicr rydym ni i gyd yn gobeithio y bydd Cymru symud ymlaen drwy'r gemau grŵp ac ymlaen i'r cam nesaf, byddwn yn ystyried presenoldeb gweinidogol priodol yn y gemau hynny.