Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Gweinidog, mae fferylliaeth gymunedol wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Gyda rhwydwaith o dros 700 o wasanaethau fferylliaeth wedi'u gwreiddio yn ein cymunedau, mae gan y gweithwyr proffesiynol hyn y capasiti a'r gallu i wneud mwy o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a helpu pobl i reoli eu salwch pan fo angen. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei gynnal i archwilio ble yng Ngorllewin De Cymru y mae angen i ni gynyddu nifer y fferyllfeydd cymunedol, a beth yw'r uchelgais hirdymor o ran datblygu eu cynnig o wasanaethau?