Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Diolch. Wel, soniais i y bydd y contract newydd yn caniatáu i ragor o wasanaethau gael eu datblygu yn y dyfodol, ac rydych chi'n gwbl gywir bod swyddogaeth fferyllfeydd cymunedol wedi newid yn sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf. Maen nhw'n cyflawni swyddogaeth hanfodol i gleifion. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y nifer o fferyllfeydd cymunedol, fel y gwnaeth Sioned Williams, a teg dweud nad oes llawer o newid wedi bod, rwy'n credu, i nifer y fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf, ond rydym ni wedi gweld cynnydd i nifer y gweithwyr fferyllol proffesiynol, ac mae hynny'n cynnwys fferyllwyr a thechnegwyr fferyllfa, ar y gofrestr. Rwy'n credu ei bod wedi cynyddu dros 3 y cant.