Technoleg Monitro Glwcos

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:05, 8 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, oherwydd argymhellir monitro glwcos parhaus ar gyfer pob unigolyn â diabetes math 1, ac mae'n bwysig eu bod nhw'n gallu cael mynediad at hynny. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran yr holl staff gofal iechyd yn meddu ar y gallu hwnnw, ond, yn amlwg, mae hi yn y Siambr ac wedi clywed eich cwestiwn, ac os oes unrhyw beth pellach, byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch chi.