Technoleg Monitro Glwcos

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joel James Joel James Conservative

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y meini prawf cymhwyso ar gyfer technoleg monitro glwcos fflach a thechnoleg monitro glwcos barhaus ar gyfer rheoli diabetes? OQ58672

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:04, 8 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Cyhoeddir meini prawf cymhwyso wedi'u diweddaru yn rheolaidd gan y cyrff sy'n gyfrifol am ganllawiau clinigol. Cyhoeddwyd cyngor diweddaraf Technoleg Iechyd Cymru ar y materion hyn ym mis Gorffennaf 2021. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn diweddaru ei ganllawiau ym mis Mehefin.

Photo of Joel James Joel James Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Trefnydd. Fel y gwyddoch chi, mae'r diweddariad mwyaf diweddar i ganllawiau NICE yn ymwneud â chymhwysedd ar gyfer monitro glwcos fflach a pharhaus, CGM, heb os yn gam mawr i helpu'r rhai sy'n byw gyda diabetes math 1 gael mynediad at dechnoleg well i reoli eu lefelau glwcos gwaed. Mae hyn yn bwysig oherwydd nid yn unig y mae'n helpu pobl i reoli eu bywydau, ac yn enwedig eu gweithgareddau dyddiol yn well, ond, yn yr hirdymor, bydd yn lleihau nifer y cyflyrau iechyd hirdymor y gellir eu hosgoi y maen nhw'n eu dioddef, fel niwropathi ymylol a niwed microfasgwlaidd a macrofasgwlaidd i bibellau gwaed. Felly, bydd y dechnoleg hon nid yn unig yn gwella iechyd cyffredinol y rhai â diabetes math 1, ond hefyd yn gwella cyfraddau marwolaeth.

Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Hefin David ar 22 Ebrill eleni, cyfeiriodd y Gweinidog iechyd at rwymedigaethau hyfforddi staff fel rhwystr posibl i weithredu'r canllawiau NICE newydd. Rwy'n ymwybodol, mewn rhai achosion—ac ni fwriedir i hyn fychanu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol—bod gan gleifion wybodaeth sylweddol well am y dechnoleg newydd sydd ar gael iddyn nhw a sut mae'n gweithio na gweithwyr iechyd proffesiynol, ac mae llawer iawn o amrywiad o ran yr hyfforddiant a dderbyniwyd rhwng byrddau iechyd. Gyda hyn mewn golwg, Trefnydd, pa ymrwymiad fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod yr holl staff gofal iechyd yng Nghymru wedi'u hyfforddi'n llawn i ddefnyddio a gweithredu technoleg fflach a CGM? Diolch.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:05, 8 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, oherwydd argymhellir monitro glwcos parhaus ar gyfer pob unigolyn â diabetes math 1, ac mae'n bwysig eu bod nhw'n gallu cael mynediad at hynny. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran yr holl staff gofal iechyd yn meddu ar y gallu hwnnw, ond, yn amlwg, mae hi yn y Siambr ac wedi clywed eich cwestiwn, ac os oes unrhyw beth pellach, byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch chi.