Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Tri chant a thri deg tri o flynyddoedd ar ôl ffurfio'r catrodau cyntaf a fyddai'n dod y Cymry Brenhinol yn ddiweddarach, rydym ni’n cymeradwyo'r cynnig hwn a chynnwys y gwelliant arfaethedig. Yn 2022, mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol, mewn gwirionedd, yn cofio ac yn coffáu gwasanaeth milwrol a sifil. Fel y dywedant,
'anaml iawn mae'r weithred o amddiffyn a diogelu rhyddid democrataidd y genedl a'r ffordd o fyw heb gost i'r rhai sy'n gwasanaethu. Mae anaf corfforol, meddyliol neu emosiynol neu drawma; absenoldeb amser gyda'r teulu; neu'r pwysau a'r peryglon sy'n dod o wasanaethu, yn tynnu sylw at pam mae cofio gwasanaeth mor bwysig.'
Rydym ni hefyd yn diolch i aelodau gweithgar o'r lluoedd arfog am eu gwaith hanfodol wrth gynorthwyo'r gwasanaethau brys yng Nghymru yn ystod y pandemig.
Fel y clywsom, mae 2022 yn 40 mlynedd ers gwrthdaro'r Ynysoedd Falkland, y gweithredu milwrol cyntaf ers yr ail ryfel byd a ddefnyddiodd bob elfen o'r lluoedd arfog, gyda 255 o bersonél Prydain yn colli eu bywydau. Fel y clywsom, collodd y Gwarchodlu Cymreig fwy nag unrhyw uned arall—33 o filwyr a llawer o anafiadau, ar fwrdd yr RFA Sir Galahad yn bennaf pan ymosodwyd arni gan awyrennau'r Ariannin.
Mae bron i 18 mlynedd ers i mi godi'r angen am y tro cyntaf i gyn-bersonél oedd wedi profi trawma gael mynediad at ofal iechyd meddwl a chael triniaeth â blaenoriaeth, ar ôl cwrdd â chyn-bersonél y gwasanaeth gyda phroblemau iechyd meddwl oedd yn gysylltiedig â gwasanaeth, gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma, yn Nhŷ Gwyn yn Llandudno, bryd hynny yr unig ganolfan seibiant preswyl i gyn-aelodau o'r lluoedd yn y DU, yr oedd ei wasanaeth wedi amrywio o enciliad Dunkirk i Ynysoedd Falkland. Er hyn, caniatawyd ei chau heb unrhyw ddarpariaeth arall yn cael ei rhoi ar waith.
Yn y pen draw, fe wnaeth Llywodraeth Cymru lansio GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan ddarparu asesiad di-breswyl i gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru a thriniaeth seicolegol ar gyfer problemau iechyd meddwl, gan gynnwys Anhwylder Straen Wedi Trawma. Fel mae GIG Cymru i Gyn-filwyr wedi dweud wrtha'i, maen nhw'n ddiolchgar am eu cyllid rheolaidd ychwanegol, yr oedden ni, wrth gwrs, wedi bod yn galw amdano. Maen nhw’n dweud wrtha’ i fodd bynnag, fod angen mentor cymheiriaid ym mhob bwrdd iechyd lleol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i gyllid ychwanegol fel y gellir gweithredu hyn.
Arweiniais ddadl fer yma ym mis Ionawr 2008—mewn gwirionedd ar ôl siarad yn y lleng yn y Fflint ar yr un pwnc—yn cefnogi ymgyrch Anrhydeddu'r Cyfamod y Lleng Brydeinig Frenhinol, gan ddod i'r casgliad bod 'rhaid ymladd hyn nes ei fod wedi'i ennill', a chroesawu cyhoeddi cyfamod lluoedd arfog y DU ym mis Mai 2011. Llofnododd Llywodraeth Cymru a phob awdurdod lleol yng Nghymru y cyfamod gan addo i weithio gyda sefydliadau partner i gynnal ei egwyddorion, fel y mae byrddau iechyd, yr heddlu a busnesau wedi’i wneud ers hynny. Mae adroddiad cyfamod lluoedd arfog Llywodraeth Cymru ym mis Hydref yn diolch i'r lluoedd arfog am eu cefnogaeth yn ystod y pandemig ac yn edrych tua'r dyfodol, gan gynnwys rôl y lluoedd arfog wrth gefnogi Wcráin trwy hyfforddiant a deunyddiau. Mae Deddf Lluoedd Arfog y DU 2021 fis Rhagfyr diwethaf yn ymgorffori cyfamod y lluoedd arfog yn y gyfraith am y tro cyntaf i helpu i atal personél y lluoedd arfog a chyn-filwyr rhag bod dan anfantais wrth gael mynediad at wasanaethau hanfodol fel gofal iechyd, addysg a thai. Mae 'Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr 2021' y DU, a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf, hefyd yn ymdrin â chamau a gymerir gan Lywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig. Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi bod yn gefnogwr swyddog cyswllt y lluoedd arfog neu swyddi AFLO yng Nghymru ers amser maith, ac yn deall bod gan Lywodraeth Cymru'r bwriad i barhau i ariannu'r swyddi hyn ledled Cymru, fel y clywsom. Fodd bynnag, maen nhw’n annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo i ariannu'r swyddi hyn ar gyfer y tymor hir, fel y gall y sector fod â mwy o sicrwydd a gall yr AFLOs barhau i ddarparu'r lefel o gefnogaeth sy'n cael ei darparu ar hyn o bryd i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru.
Y llynedd, cyhoeddodd y lleng eu maniffesto Cymru, gydag argymhellion i Lywodraeth Cymru wella bywydau cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru, ac rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'w galwadau yn eu maniffesto, er enghraifft i sicrhau bod cyn-filwyr sydd wedi eu hanafu yn gallu cael mynediad cyson at driniaeth poen gronig, i ehangu'r angen am dai blaenoriaeth, ac i ddiweddaru fframwaith triniaeth camddefnyddio sylweddau cyn-filwyr a darparu gwell cefnogaeth i gyn-filwyr sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau.
Rydym ni’n croesawu buddsoddiad £320 miliwn Llywodraeth y DU yn ystad y lluoedd arfog yng Nghymru, gan gynnwys cwmni wrth gefn newydd o'r Cymry Brenhinol ym marics Hightown Wrecsam, a chadw barics Aberhonddu. Yn olaf, ar ôl cynnal y digwyddiad lansio yn dathlu lansiad y Gwobrau Cyn-filwyr Cenedlaethol cyntaf i Gymru yma yn 2019, byddaf yn gorffen trwy ddweud ei bod yn wych derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y gwobrau gan eu sylfaenydd, Sean Molino, yn ystod sesiwn friffio blynyddol diweddar y Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru yn HMS Cambria ym Mae Caerdydd, sy’n dathlu cyflawniadau gwych cymaint o gyn-bersonél y lluoedd arfog. Diolch yn fawr.