Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Sy'n dod â ni nawr at y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe fyddaf i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Fe fydd y bleidlais gyntaf ar eitem 6. Eitem 6 yw'r Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig ar y rheoliadau yma, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal ac 15 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.