9. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 5:37 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:37, 8 Tachwedd 2022

Sy'n dod â ni nawr at y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe fyddaf i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Fe fydd y bleidlais gyntaf ar eitem 6. Eitem 6 yw'r Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig ar y rheoliadau yma, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal ac 15 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 6. Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022: O blaid: 35, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 3910 Eitem 6. Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022

Ie: 35 ASau

Na: 15 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:38, 8 Tachwedd 2022

Y bleidlais nesaf, felly, yw'r bleidlais ar eitem 7 ar y Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, 15 yn ymatal a neb yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig yna dan eitem 7 wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022: O blaid: 35, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 3911 Eitem 7. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022

Ie: 35 ASau

Absennol: 10 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: 15 ASau

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:39, 8 Tachwedd 2022

Dyna ni ddiwedd ar y gwaith am heddiw. Diolch yn fawr i chi i gyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:39.