2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 9 Tachwedd 2022.
8. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y DU am effaith Bil Protocol Gogledd Iwerddon ar gyfansoddiad y DU? OQ58670
Diolch. Ni chawsom unrhyw ymgysylltiad â Llywodraeth y DU cyn i'r Bil gael ei gyflwyno. Mae gennym bryderon difrifol yn ei gylch, gan gynnwys y pwerau eang iawn y mae'n eu rhoi i Weinidogion y Goron a'i oblygiadau posibl i'r setliad datganoli. Rydym yn argymell y dylai'r Senedd wrthod rhoi cydsyniad i'r Bil.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am hynny. Rwy'n falch o glywed ei bwynt olaf. Dyma ddeddfwriaeth bwdr a di-fudd sydd, drwy ei chyflwyno, wedi deifio enw da'r Deyrnas Unedig mewn cynghorau ar draws y byd. Mae wedi niweidio ein perthynas â'r UE ac wedi dangos bod Llywodraeth y DU ei hun yn barod i dorri cyfraith a chytundebau rhyngwladol yr ymrwymodd iddynt o'i gwirfodd ar ôl twyllo poblogaeth unoliaethol Gogledd Iwerddon. Mae'n ddeddfwriaeth aflan ac ymhlith y mwyaf anonest a welais gerbron unrhyw ddeddfwrfa erioed. Gwnsler Cyffredinol, mae'n bwysig fod y lle hwn, fel deddfwrfa ac fel Llywodraeth Cymru, yn sefyll dros lywodraethu da, yn sefyll dros gyfraith ryngwladol ac yn sefyll dros werthoedd democratiaeth lle caiff cytundebau yr ymrwymir iddynt yn wirfoddol eu cynnal gan bob parti. A wnaiff Llywodraeth Cymru dawelu meddyliau'r Siambr y prynhawn yma y bydd yn parhau i ddadlau bod y ddeddfwriaeth hon nid yn unig yn niweidio'r DU yn allanol ac yn rhyngwladol, ond yn tanseilio sail cyfansoddiad y DU yn fewnol hefyd?
Diolch am y cwestiwn atodol. Rwy'n credu fy mod yn cytuno â'r holl bwyntiau a wnaethoch. Yn yr haf, mynychais gynhadledd Cymdeithas Prydain ac Iwerddon, ac yno, fe wneuthum y pwynt fy mod yn meddwl ei bod hi'n sylfaenol anghywir i geisio mynd i'r afael â phroblem wleidyddol sylweddol drwy gyfrwng deddfwriaeth. Ni allwch ddeddfu i ddatrys y mathau hynny o broblemau. Mae'r Bil yn un annoeth ac mae'n niweidiol i enw da'r DU yn rhyngwladol. Mae'n dangos bod Llywodraeth y DU yn tynnu'n ôl o rwymedigaeth ryngwladol a luniodd ac a gefnogwyd ganddi yn gynnar yn 2020 fel rhan o'r cytundeb ymadael. Ac os caiff ei ddeddfu a'i weithredu, bydd yn arwain at dramgwyddo cyfraith ryngwladol yn sylweddol yn ôl pob tebyg, gan wneud niwed pellach.
Ceir nifer o resymau pam na ellir rhoi cydsyniad deddfwriaethol. Wrth gwrs, bydd dadl lawn yn y Senedd hon ynghylch y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Ond un o'r pethau allweddol i mi yw hyn: gyda'n hymrwymiad cynhenid i gyfraith ryngwladol ac i hawliau dynol ac yn y blaen ym mhob dim a wnawn, ni allaf weld sut y gallem argymell cefnogaeth ddeddfwriaethol i ddeddfwriaeth sydd mor amlwg yn peryglu'r cysyniad o reolaeth y gyfraith a chyfraith ryngwladol. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae'n rhoi pwerau Harri'r VIII enfawr i'r Llywodraeth. Felly, peidio â rhoi cydsyniad yw safbwynt Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, mater i'r Senedd hon yw penderfynu ar fater cydsyniad; nid mater i'r Llywodraeth ydyw, ond yn ystod y broses honno, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud ei safbwynt yn glir iawn.