2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 9 Tachwedd 2022.
9. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu sut y bydd y Bil cyfraith statud (diddymiadau) (Cymru) arfaethedig yn helpu i wella hygyrchedd cyfraith Cymru? OQ58656
Diolch. Bydd y Bil yn tacluso'r llyfr statud drwy gael gwared ar ddarpariaethau sy'n anarferedig, wedi darfod, heb fod o ddefnydd ymarferol neu heb effaith ymarferol mwyach neu heb unrhyw obaith realistig o gael eu cychwyn. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gyfreithwyr ac eraill ddod o hyd i'r wybodaeth y maent yn chwilio amdani.
Diolch. Wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad ar y Bil cyfraith statud (diddymiadau) (Cymru), fe wnaethoch gynghori y byddai'r mesur yn mynd i'r afael â
'chyflwr anhrefnus ein llyfr statud anferth a gwasgarog.'
Rwy'n cydnabod y gall darpariaethau fynd allan o ddefnydd neu beidio â chael eu cychwyn. Fodd bynnag, mae'n destun pryder imi fod y gwaith hwn yn mynd i gyfrannu at yr oedi a wynebwn cyn gweithredu cyfraith newydd yng Nghymru. Mae'r Ddeddf aer glân yn hwyr; mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwrthod deddfu i efelychu adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau y DU 2022; rydym eto i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol; a daw'r Bil ar adeg pan ddylai ffocws Llywodraeth Cymru fod ar faterion pwysicach, fel yr argyfwng costau byw sy'n wynebu pobl ledled Cymru.
Er fy mod yn derbyn mai dim ond nawr rydych yn ymgynghori ar y Bil, a ydych yn cytuno â mi y dylai'r flaenoriaeth nawr fod ar ganolbwyntio adnoddau Cymru ar greu cyfreithiau Cymreig newydd sydd eu hangen yn ddybryd ar ein cymdeithas a'n gwlad?
Diolch ichi am rai o'r sylwadau hynny, ac rwy'n sicr yn cytuno â chi am bwysigrwydd canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw; wrth gwrs, dyna'r union reswm pam ein bod yn credu y dylai Bil cyfraith yr UE a ddargedwir gael ei roi o'r neilltu neu ei ddiystyru'n llwyr. Ond o ran y cyfrifoldebau sydd gennym fel Senedd ac fel Llywodraeth Cymru, pwrpas yr ymgynghoriad yw cyflawni ein rhwymedigaeth barhaus i gynnal llyfr statud i Gymru. Yn y bôn, ymarfer cymhennu i gael gwared ar ddarpariaethau diangen yw hwn. Nid wyf yn credu y bydd yn effeithio ar yr holl ddeddfwriaeth bwysig arall sydd yno, ac rwy'n credu mai camgymeriad yw ei gamgymryd o fewn hynny, gan nad yw'n gyfraith sy'n diwygio nac yn newid. Yr hyn ydyw yw ymarfer cymhennu'r llyfr statud.
Mae'n cwmpasu nifer o feysydd, o fyrddau datblygu gwledig, ardaloedd menter, hawliau tramwy cyhoeddus a gofnodwyd, Awdurdod Datblygu Cymru ac yn y blaen. Mae gan bob Senedd gyfrifoldeb i wneud hyn; mae pob Senedd, ar y cyfan, yn ei wneud, i ryw raddau. Rwy'n credu ein bod mewn cyfnod lle mae'r mater mynediad at y gyfraith yn bwysig iawn inni. Wrth inni ddatblygu cyfraith Cymru, mae'n bwysig iawn fod ein cyfraith yn cael ei chadw mewn siâp da, a'n bod yn defnyddio'r arferion gorau. Un o'r rhesymau pam ein bod yn cyflwyno, er enghraifft, y Bil cydgrynhoi ar yr amgylchedd hanesyddol, a byddwn yn gwneud un wrth gynllunio, yw oherwydd bod manteision hirdymor i ni o wneud hynny; mae manteision hirdymor i ddinasyddion, ymarferwyr, sefydliadau dinesig a chyrff eraill i gael y gyfraith mewn cyflwr sy'n addas i'r diben. Felly, byddwn yn parhau gyda hyn ar gam priodol; bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno.
Os caf wneud y pwynt, oherwydd rwy'n gwybod bod eich sylwadau wedi'u bwriadu'n dda, o ran ein rhaglen ddeddfwriaethol, mae'r un mor bwysig fel Senedd ein bod hefyd yn monitro ansawdd a chyflwr cyffredinol ein deddfwriaeth, a lle mae cyfleoedd yn codi i gymhennu hynny i'w wneud yn fwy effeithiol ac effeithlon, mae'n ddyletswydd arnom i wneud hynny. Dyma un o'r cyfrifoldebau penodol sydd gennyf ac rwy'n adrodd arno bob blwyddyn i'r Senedd.