Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy adleisio sylwadau fy nghyd-aelodau pwyllgor drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd a'r tîm clercio am lunio'r adroddiad hwn. Daw ar adeg hynod bwysig i'r diwydiant lletygarwch a thwristiaeth, yn enwedig yng nghyd-destun deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, felly rwy'n falch ein bod yn cael cyfle i adolygu economi ymwelwyr Cymru a gosod set gadarn o argymhellion cymesur.
Mae'r diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn gyflogwyr allweddol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae ein harddwch naturiol yn fyd-enwog ac yn cael ei fwynhau gan dwristiaid domestig a rhyngwladol. A phan fyddant yn ymweld, cânt eu croesawu gan ystod gyfan o fusnesau bach a chanolig, a phob un ohonynt yn cynnig cyfleoedd economaidd i fy etholwyr. Gyda hynny, fy mwriad y prynhawn yma yw canolbwyntio ar ddwy agwedd benodol ar yr adroddiad hwn: effaith treth dwristiaeth Llywodraeth Cymru, a'r ysgogiadau gwaith teg sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhwystrau i waith o fewn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn cael eu lleihau.
Mae argymhellion 9 i 11 o'r adroddiad hwn yn gosod gofyniad penodol i Lywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth, tystiolaeth a sail resymegol bendant dros gyflwyno eu treth dwristiaeth. Gofynnwn nid yn unig am y broses feddyliol sy'n sail i'r penderfyniad i fynd ar drywydd y polisi hwn, rydym hefyd eisiau cael gwell dealltwriaeth o allbwn tri phrosiect ymchwil unigol a ymchwiliodd i'r posibilrwydd o gyflwyno treth dwristiaeth yng Nghymru. Fe wnaeth y pwyllgor dynnu sylw'n briodol at farn y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch nad oeddent angen nac eisiau unrhyw fath o dreth neu ardoll dwristiaeth. Awgrymodd cymdeithas twristiaeth Cymru y byddai polisi Llywodraeth Cymru yn fath o drethiant dwbl, ac fe ddywedodd UKHospitality Cymru fod ardoll yn dreth anghywir ar yr adeg anghywir. Yn wir, mae sefydliad arall wedi disgrifio'r polisi hwn fel cam hynod anflaengar ac adwaith difeddwl. Nid yw'n gymeradwyaeth frwd i'ch cynlluniau, Weinidog, a byddwn yn mynd mor bell â dweud mai dyma'r gwrthwyneb llwyr i'r hyn y mae'r diwydiant ei eisiau a'i angen—nid 'sinigiaid', fel y byddai'r siaradwr blaenorol yn ei ddweud, ond y diwydiant ei hun.
Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y tri argymhelliad, ond wrth gyfeirio at argymhellion 9 a 10, roedd y ffaith bod rhaid i'r pwyllgor wthio Llywodraeth Cymru tuag at dryloywder yn siomedig. Rwy'n siomedig na chafodd yr wybodaeth y gofynnwyd amdani ei rhannu gyda'r pwyllgor tan lai na dwy awr yn ôl, ond o leiaf fe gawsom yr wybodaeth honno.
Un ffordd o gefnogi twf busnes yw drwy sicrhau bod busnesau'n gallu tyfu. Wrth wneud hynny, rydym yn buddsoddi'n ôl yn yr economi leol, ac yn ogystal, rydym yn defnyddio ysgogiadau sy'n bodoli eisoes i fynd i'r afael â diffygion cyflogaeth o fewn y diwydiant. Fel y mae argymhelliad 18 yn nodi, ceir rhwystrau sylweddol i waith teg, yn benodol mewn perthynas â chyflogaeth, tâl ac amodau. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae anawsterau wedi codi o ganlyniad i fylchau cyflogaeth lleol, a dangoswyd hyn orau yr haf diwethaf, pan fu'n rhaid i fusnesau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gau yn ystod y tymor prysur oherwydd lefelau staffio isel.
Mae gennym gyfle gwirioneddol i sicrhau bod eich deddfwriaeth yn dryloyw ac yn atebol, ac er efallai y bydd y meinciau hyn a'r diwydiant ei hun yn anghytuno â'ch polisi treth dwristiaeth, mae'n bendant yn ddyletswydd arnoch i ddangos eich sail dros ei chyflwyno i'r diwydiant lletygarwch a thwristiaeth a'r miloedd lawer sy'n cael eu cyflogi ynddo. Gyda'r farn hon, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i weithredu a chyflawni'r argymhellion a wnaed o fewn yr adroddiad hwn cyn gynted â phosibl. Diolch, Ddirprwy Lywydd.