Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 9 Tachwedd 2022.
A gaf fi ddiolch hefyd i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, dan gadeiryddiaeth wych Paul Davies wrth gwrs, am gyflwyno'r adroddiad pwyllgor pwysig hwn heddiw, 'Codi'r Bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu'. Rwy'n eithaf hoff o'r teitl hwnnw, mewn gwirionedd—'Codi'r Bar'. Fel rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn gwybod, ac o gyfraniadau gennyf fi yn y Senedd dros y 18 mis diwethaf, ac yn enwedig fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dwristiaeth, rwy'n frwd fy nghefnogaeth i sector lletygarwch a thwristiaeth Cymru, a dyna pam fy mod eisiau cyfrannu at ddadl adroddiad y pwyllgor heddiw—rhywbeth y mae Alun Davies yn aml yn gwneud sylwadau wrthyf arno, fy nghefnogaeth frwd i'r sector, ac rwy'n falch ei fod yn sôn amdano eto draw acw—oherwydd mae'r adroddiad hwn yn amlwg yn tynnu sylw at bwysigrwydd y sector, ond mae hefyd yn amlinellu llawer o'r heriau y mae'n eu hwynebu hefyd.
Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar un neu ddau o feysydd pwysig yn yr adroddiad, ac yn gyntaf, hoffwn dynnu sylw unwaith eto at bwysigrwydd y sector yn ein heconomi yng Nghymru. Fel bob amser, rwy'n un sy'n cymryd sylw o allbwn Ffederasiwn y Busnesau Bach, ac roedd gennyf ddiddordeb mawr yn eu hadroddiad dros yr haf ar dwristiaeth a ddangosodd, unwaith eto, mai twristiaeth sydd i gyfrif am fwy na 17 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru, ond twristiaeth hefyd sydd i gyfrif am dros 12 y cant o gyflogaeth yma yng Nghymru. Fel y mae eraill wedi crybwyll, os ydych yn cynnwys lletygarwch a manwerthu o fewn hynny, rydym yn siarad am draean o'r economi yma yng Nghymru, sy'n dangos yn glir pa mor bwysig ydyw i'n cymunedau ac i'r trigolion rydym yn eu cynrychioli ar hyd a lled Cymru. Amlinellwyd hyn hefyd yn rhagair y Cadeirydd i adroddiad y pwyllgor, ac fe wnaf ei ddyfynnu'n uniongyrchol,
'Mae’r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn gwbl hanfodol i lwyddiant ein cenedl. Ochr yn ochr â’r nifer fawr o swyddi y maent yn eu creu, maent hefyd yn asgwrn cefn i’r byd adloniant a’r bywyd cymdeithasol y mae pobl yng Nghymru, a’n hymwelwyr, yn ei fwynhau, ac sy’n gwneud Cymru yn lle gwych i fyw ynddo neu i ymweld ag ef'
Ond mae yna heriau'n wynebu'r sector, wrth gwrs, ac mae eraill eisoes wedi tynnu sylw at rai o'r rheini y prynhawn yma. Fel y gwyddom, mae treth dwristiaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru yn destun pryder enfawr i'r sector twristiaeth, a dyna pam fy mod, fel eraill, yn falch o weld ystyriaeth yn cael ei rhoi i hyn fel rhan o nifer o argymhellion y pwyllgor i Lywodraeth Cymru ac yn wir i'r Gweinidog. Fel yr amlinellwyd yn argymhellion 9, 10 ac 11, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn nodi'r dystiolaeth sy'n sail i dreth dwristiaeth, ond hefyd yn rhannu eu prosiectau ymchwil ar hyn, ac yn nodi eu dull arfaethedig o weithredu mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth ddrafft hon.
Os ydym am gyflwyno treth dwristiaeth, mae'n hanfodol fod cynghorau'n gallu ei gwario ar gynnal, yn ogystal â chryfhau, twristiaeth yn eu hardal leol. Ac rwy'n credu hefyd, er mwyn gwneud hyn mor effeithiol â phosibl, ei bod yn bwysig iawn fod yna fecanweithiau ar waith i gynnwys busnesau a'u llais yn y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â sut y bydd y refeniw newydd hwn yn cael ei wario yn eu hardaloedd.
Pryder arall a fynegwyd wrthyf fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth yw pryder parhaus y sector twristiaeth, ac yn arbennig, y sector hunanddarpar, ynglŷn â'r rheol 182 diwrnod, sydd eisoes wedi cael ei grybwyll yma heddiw, ac y cyfeirir ato yn argymhelliad 8 yr adroddiad. Ac fel y crybwyllwyd gan eraill, mae hyn yn rhan o restr hir o newidiadau y mae'r Llywodraeth yn eu gorfodi ar y sector, sy'n achosi cryn bryder i lawer o berchnogion busnes ac atyniadau twristiaeth ledled Cymru. Ac os ydym yn disgwyl mwy gan y sector o ran deddfwriaeth a chydymffurfio, dyma pam y mae mor bwysig y dylid cynnig mwy i'r sector ar ffurf cymorth ac eiriolaeth. A dyna pam rwy'n croesawu argymhelliad 7 yn yr adroddiad, sy'n ceisio dangos yn glir lle caiff y cymorth ei ddarparu a'i ffocysu fel y gellir sicrhau'r sector ei fod yn cael ei drin gyda'r lefel o barch a phwysigrwydd y mae'n ei haeddu.
Ac mae hyn yn arwain at fy sylwadau terfynol sy'n ymwneud â'r angen am gefnogaeth i'r sector ac eglurder o ran yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol, sy'n hynod bwysig, yn dilyn yr anawsterau a wynebwyd yn ystod y pandemig COVID-19 a nawr gyda phwysau chwyddiant byd-eang hefyd. Ac yn wir, mae angen cymorth ariannol, ond o ran cymorth mwy meddal, mewn perthynas ag eiriolaeth a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd gan y sector i Gymru ac i'n cymunedau, gwn y bydd y Gweinidog eisiau gwneud yn siŵr fod y cyfleoedd hynny'n cael eu hamlygu ac y bydd ganddynt bob amser bethau da i'w dweud am y sector hefyd.
Oherwydd, yn wir, fel yr amlinellodd UKHospitality Cymru, cyn COVID-19 roedd y sector lletygarwch a thwristiaeth yn tyfu oddeutu 10 y cant y flwyddyn, gan greu cannoedd o swyddi newydd i bobl leol ar hyd a lled Cymru. Ac mae'n amlwg o dystiolaeth y pwyllgor gan UKHospitality Cymru fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi darparu cymorth da i'r sector yn ystod y pandemig COVID-19. Felly, mae cyhoeddiad y Gweinidog ynghylch ailasesu'r egwyddorion y sy'n sail i ardrethi busnes hefyd yn cael ei groesawu yn yr ysbryd parhaus hwn o gymorth.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, felly hoffwn ddiolch i'r pwyllgor eto am gyflwyno'r adroddiad a'r argymhellion sydd ynddo, ac i'r Gweinidog am wrando ar y pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd yr argymhellion hynny'n datblygu dros y misoedd nesaf.