Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Fel yr Aelod cyntaf i siarad yn y ddadl hon nad yw ar y pwyllgor, a gaf fi ddiolch i aelodau'r pwyllgor sydd wedi siarad hyd yma, yn enwedig Paul Davies fel y Cadeirydd, yn ogystal â'i dîm ymchwil a chlercio a phawb a roddodd eu tystiolaeth i'r adroddiad ar y sector pwysig hwn, am yr argymhellion i Lywodraeth Cymru ac am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr heddiw? Mae'r pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad diddorol iawn i ni heddiw, un sy'n cynnwys llawer i ni fel Aelodau, a Llywodraeth Cymru hefyd, ei ystyried o ran sut y gallant gefnogi'r diwydiant, nid yn unig yn ariannol, ond fel ffrind sy'n gwrando ar bryderon yn y diwydiant hefyd. Felly, roeddwn yn falch o weld bod un o'r brawddegau cyntaf un yn yr adroddiad yn nodi'r 'ergyd aruthrol' y mae'r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu wedi'i wynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Yn y cyd-destun hwnnw, mae'n hollbwysig ein bod ni, nawr yn fwy nag erioed, yn ffrind cefnogol i'r sector.
Gydag amser mewn golwg, rwyf wedi dewis ychydig o argymhellion adroddiad y pwyllgor i ganolbwyntio arnynt yn fy nghyfraniad heddiw. Mae argymhelliad 8 yn dweud:
'Dylai Llywodraeth Cymru amlinellu’n fanwl ei rhesymeg dros y cynnydd yn nifer y diwrnodau o’r flwyddyn y mae’n rhaid i eiddo hunanddarpar fod ar gael i’w osod i 252, a’r diwrnodau y caiff ei osod i 182'.
Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, rwyf wedi codi'r mater hwn ar sawl achlysur yn y Siambr ac ni chefais fawr o esboniad gan Weinidogion ynghylch y rhesymeg dros y newid hwnnw. Mae llety hunanddarpar yn rhan bwysig o'r cymysgedd yn yr economi dwristiaeth, sy'n ddiwydiant allweddol mewn sawl rhan o Gymru. Ar ben hynny, mae'n darparu llety mewn ardaloedd gwledig i ffwrdd o ganolfannau, gan eu galluogi i elwa o'r economi dwristiaeth hefyd, ac mewn rhai rhannau o Gymru, dyma'r unig ffordd hyfyw o droi taith undydd mewn cymuned Gymreig anghysbell ond hyfryd i fod yn arhosiad dros nos.
Ond yr hyn nad yw wedi'i nodi o hyd yw'r rhesymeg dros y 182 diwrnod a sut y penderfynwyd ar y nifer hwnnw o ddyddiau, ac mae'r naid o 70 i 182 diwrnod cymwys yn ymddangos yn hynod sylweddol, yn enwedig o ystyried y ffaith bod nifer helaeth o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn ei wrthwynebu. Felly, byddai cyfiawnhad y Gweinidog dros y newidiadau'n rhesymol ac i'w groesawu. Yr hyn yr hoffai'r diwydiant ei glywed gan y Llywodraeth yw sut y bydd hyn yn cael ei fesur. A yw'r trothwy newydd yn gysylltiedig â gweithgarwch tymhorol, neu faint o ddyddiau y maent yn eu disgwyl mewn tymor twristiaeth arferol? Sut beth fydd y ffigur hwnnw? Mewn rhai ardaloedd lle mae diffyg gweithgarwch a darpariaeth i dwristiaid ar hyn o bryd, ond lle byddai'n fuddiol iddo gael ei ddatblygu, efallai y byddem yn dymuno gwasgaru cyrchfannau twristaidd ymhell i ffwrdd o gyrchfannau poblogaidd. Felly, gallai fod rheswm da dros gymell llety gwyliau i fod ar gael, a gallai fod angen rhywfaint o hyblygrwydd i ganiatáu ar gyfer hynny'n lleol. Mae'n ymddangos bod y trothwyon hyn yn uchel iawn yn y cyd-destun hwnnw, felly a fyddai lle i addasu i'r amgylchiadau lleol hynny? Ac er bod gennym gynnig twristiaeth gwych yma yng Nghymru, gyda marchnad ymwelwyr bresennol y sector twristiaeth mewn cyfnod ansicr ac ansefydlog iawn ar ôl COVID, rwyf wedi ailadrodd droeon y dylid ystyried yr effaith hon, ynghyd â phwysau costau byw a'r argyfwng costau busnes a drafodwyd yma ychydig wythnosau yn ôl, mewn unrhyw ddadl newydd dros y trothwyon newydd hyn.
Mae argymhelliad 9 yn gofyn i Lywodraeth Cymru,
'nodi’r sylfaen dystiolaeth a ystyriodd wrth benderfynu cyflwyno ardoll dwristiaeth leol ar hyn o bryd.'
Nid oes rhaid i mi ailadrodd y dadleuon a wnaethpwyd i wrthwynebu'r dreth hon, ond o ystyried yr hinsawdd y mae'r busnesau hyn yn gorfod gweithredu ynddi ar hyn o bryd, dylai fod yn amlwg i Lywodraeth Cymru nad nawr yw'r amser i osod mwy o drethi ar fusnesau, pan fo'r sector yn wynebu heriau cynyddol. Gofynnodd Sarah Murphy am bersbectif rhyngwladol. Wel, fe wyddom fod Fenis wedi cyflwyno treth dwristiaeth yn benodol i leihau niferoedd y twristiaid sy'n mynd i Fenis, yn hytrach nag ychwanegu at y niferoedd. Felly, mae'n anghredadwy fod Llywodraeth Cymru i'w gweld yn ffafrio'r opsiwn o ddyblygu model Fenis yma.
Ac yn olaf, Lywydd, mae argymhelliad 11 yn dweud,
'Dylai Llywodraeth Cymru nodi’n fanwl y dull arfaethedig o ymgynghori ar y
ddeddfwriaeth ddrafft ar gyfer ardoll dwristiaeth leol arfaethedig.'
Er fy mod yn derbyn bod yr ymgynghoriad yn dal ar y gweill—ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i annog pawb yn y sector i ddweud eu barn—byddwn wedi hoffi gweld Llywodraeth Cymru'n ymgysylltu mwy â'r sector mewn perthynas â hyn oherwydd, unwaith eto, rwyf wedi ceisio dod â llais y diwydiant i'r Siambr dro ar ôl tro, ac maent yn dweud wrthyf, dro ar ôl tro, eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi gan Lywodraeth Cymru. Gadewch inni beidio ag anghofio mai dyma'r busnesau sydd eisoes yn buddsoddi yn eu cymunedau drwy'r cadwyni cyflenwi lleol, sy'n cyflogi pobl leol ac sy'n ailfuddsoddi'r arian hwnnw yn eu cymunedau. Mae trethiant ychwanegol yn peryglu rhagor o fuddsoddiad mewn cymunedau ledled Cymru. Mae'r bobl yn y sector twristiaeth yn glir, ac maent yn dweud wrthyf o hyd fod yr ysbryd o fewn y diwydiant ar ei isaf erioed, a hynny o ganlyniad uniongyrchol i gamau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn sy'n targedu eu diwydiant yn benodol. Ac felly, mae cyfraniad Vikki Howells yn gynharach yn dweud eu bod i gyd yn sinigiaid yn siomedig iawn yn y cyd-destun hwnnw hefyd. Felly, wrth ystyried yr adroddiad, rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn gweld hwn fel cyfle i gefnogi'r diwydiant twristiaeth, cefnogi ein cymunedau lleol a diogelu'r un o bob saith swydd sy'n dibynnu ar ei weld yn ffynnu.