Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Felly, beth ddylid ei wneud? Wel, fel dywedodd Dewi Sant, gwnewch y pethau bychan. Er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion sydd yn gyrru newid hinsawdd a'r argyfwng natur, mae'n rhaid sicrhau bod ein cadwyni cyflenwi yn rhai lleol, ac er mwyn gwneud hynny mae angen datblygu strategaeth fwyd lleol a chadarn.
Mae yna lawer o enghreifftiau o fentrau bwyd cymunedol llwyddiannus, ac ar adeg pan ein bod ni'n byw mewn cyfnod o argyfwng costau byw, gyda miloedd yn ddibynnol ar fanciau bwyd a chyda newid hinsawdd yn digwydd o flaen ein llygaid, yna mae'n rhaid inni ddatblygu strategaeth sydd yn gweithio nid yn unig i ni, ond i'n brodyr a'n chwiorydd ar draws y byd.
Ystyriwch y gwaith gwych sy'n cael eu wneud gan Y Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog, sy'n gweithio ar brosiect tyfu bwyd yn lleol, ac yn cydweithio efo Grŵp Llandrillo Menai i gynnal sesiynau coginio, gan ddysgu pobl sut i baratoi bwyd maethlon. Mae Antur Aelhaearn yn Llanaelhaearn hefyd wedi bod yn datblygu prosiectau cyffelyb, a phe byddech wedi mynd yno rhai misoedd yn ôl, yna byddech wedi gallu cael gwledd o lysiau o'r ardd gymunedol. Mae yna enghreifftiau tebyg ar draws y wlad, ond mae angen eu cefnogi a galluogi eraill i'w hefelychu.
Mae yna botensial aruthrol yma ar gyfer tyfu bwyd yn lleol. Dyna pam ein bod ni yn galw yma heddiw i ddatblygu system fwyd mwy hunangynhaliol, gan sicrhau bod yna gynnyrch cynaliadwy yn cael ei ddatblygu ym mhob cymuned, ac nad ydyn ni yn or-ddibynnol ar fewnforio deunyddiau.
Byddai hyn yn golygu gwyrdroi y colledion yr ydym ni wedi eu gweld yn y gallu i brosesu bwyd yn lleol; yn gyrru'r gadwyn gyflenwi lleol ymlaen; yn blaenoriaethu mewnforio deunydd cynaliadwy yn unig o dramor; a helpu i ddatrys y problemau o ddiffyg maeth a thlodi sydd yn endemig mewn rhai o'n cymunedau. Diolch.