1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Tachwedd 2022.
1. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio tanwydd hydrogen ar gyfer cerbydau modur yng Nghymru? OQ58713
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. O'r gogledd i'r de a'r gorllewin i'r dwyrain, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag eraill i ddatblygu cynlluniau ymarferol ar gyfer defnyddio hydrogen er mwyn datgarboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru.
Diolch Prif Weinidog. Er gwaethaf yr holl ddiddordeb ynghylch y potensial i hydrogen ddod yn elfen chwyldroadol wrth ddatgarboneiddio'r diwydiant modurol, rydym ar hyn o bryd eto i weld unrhyw dystiolaeth wirioneddol o hyn ar ein ffyrdd. Rwyf i, fel llawer yma, rwy'n siŵr, yn credu bod cyfle enfawr i hydrogen gwyrdd ddod yn rhan fawr o'r ateb wrth ddatgarboneiddio'r diwydiant modurol, yn enwedig am ei fod yn dileu rhai o'r rhesymau y mae pobl yn eu defnyddio i beidio newid i gerbydau trydan. Os yw'r Llywodraeth hon o ddifrif yn ei bwriad i hydrogen gwyrdd ddod yn danwydd o bwys, yna nid ydym yn symud hanner digon cyflym wrth adeiladu seilwaith a chreu amodau'r farchnad sydd eu hangen. Cyhoeddodd Shell yr wythnos diwethaf y bydd tair gorsaf hydrogen yn cau, gan nodi diffyg galw gan ddefnyddwyr, sy'n bryderus oherwydd ei fod yn dangos nad yw'r farchnad yn ymateb yn ddigon da i botensial hydrogen gwyrdd fel ffynhonnell tanwydd, ac, felly, Prif Weinidog, mae angen i ni argymell yn gryfach bod hwn yn fuddsoddiad gwerth chweil a hirdymor. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, ac o ystyried y potensial ar gyfer cynhyrchu hydrogen gwyrdd o brosiectau fel canolfan ynni gwyrdd Statkraft yn sir Benfro, pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael gyda diwydiant i annog mwy o fuddsoddi mewn cynhyrchu hydrogen gwyrdd a seilwaith gorsafoedd hydrogen?
Diolch i Joel James am y cwestiwn atodol yna, Llywydd, ac rwy'n ei groesawu fel recriwt i'r rhai ohonom sydd wastad wedi credu mai swyddogaeth y Llywodraeth yw camu i'r adwy pan fo'r farchnad yn methu. Felly, mae'n dda gwybod bod y syniad hwnnw'n fyw ar y meinciau Ceidwadol. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am botensial hydrogen gwyrdd a phwysigrwydd y ffaith bod hon yn bartneriaeth rhwng busnesau preifat ac awdurdodau cyhoeddus. Dydw i ddim mor besimistaidd ag yr oedd ef yn swnio ynghylch y potensial i hwn fod yn gam arloesol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cynllun trafnidiaeth yma yng Nghymru. Mae'r enghraifft Statkraft y cyfeiriodd Joel James ati, Llywydd, yn gyfleuster i gynhyrchu hydrogen gwyrdd, i'w storio hefyd, yn Nhrecŵn yn sir Benfro. Rwyf wedi cael cyfle i drafod hyn gyda chynrychiolwyr Statkraft pan fues i'n ymweld ag Iwerddon yn ddiweddar. Byddaf yn cwrdd ag EDF, buddsoddwr mawr arall mewn ynni adnewyddadwy, gydag uchelgeisiau o ran hydrogen gwyrdd hefyd, yn ddiweddarach heddiw. Yma yng Nghymru, rydym yn benderfynol o weithio gyda'r buddsoddwyr mawr hynny i roi'r hyder sydd ei angen arnyn nhw, ac i wneud yn siŵr, lle mae'r buddsoddiadau hynny'n dibynnu ar bartneriaeth rhwng awdurdodau cyhoeddus—mae buddsoddiad Statkraft yn sir Benfro yn dibynnu ar bartneriaeth â Chyngor Sir Penfro oherwydd y cynllun yw sicrhau y bydd yr hydrogen gwyrdd sy'n cael ei gynhyrchu yn pweru bysiau ar draws sir Benfro ac yn helpu gyda theithio ar y rheilffyrdd hefyd—a phan fo honno’n bartneriaeth allweddol i ddatgloi buddsoddiad a chreu'r dyfodol hydrogen gwyrdd hwnnw, yna bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn bartneriaid gweithredol yn yr ymdrech honno.
Prif Weinidog, mae gan raglen HyNet North West y potensial i newid yn sylweddol y ffordd yr ydym yn diwallu ein hanghenion trafnidiaeth a busnes o ran tanwydd ar draws gogledd-orllewin Lloegr ac, wrth gwrs, gogledd Cymru. Maer metro dinas-ranbarth Lerpwl, Steve Rotheram, sy'n hyrwyddo'r rhaglen, ac mae'n cael ei chefnogi gan gynghorau Wrecsam a sir y Fflint, yn ogystal â chyngor busnes gogledd Cymru. A fyddech chi'n ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i gyflymu'r broses o gyflawni rhaglen HyNet er mwyn symud trafnidiaeth a diwydiant tuag at ein targedau di-garbon?
Wel, Llywydd, rydw i'n cytuno â Ken Skates bod HyNet yn cynrychioli cyfle pwysig i economi gogledd-ddwyrain Cymru, gan weithio gyda'n partneriaid yng ngogledd-orllewin Lloegr. Yn gynharach yn yr hydref, llwyddais i drafod datblygiad HyNet gyda maer metro Lerpwl, Steve Rotheram. Er mwyn ateb y cwestiwn hwn â naws eciwmenaidd, fe wnaf gydnabod buddsoddiad Llywodraeth y DU yn HyNet. Ac mae'n enghraifft o'r ffordd yr ydym ni wedi gallu gweithio gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU i chwarae ein rhan ochr yn ochr â nhw a chynrychiolwyr etholedig yng ngogledd-orllewin Lloegr er mwyn i'r prosiect hwnnw ddwyn ffrwyth. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniad y mae Cyngor Sir y Fflint, yn arbennig, ochr yn ochr â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, wedi'i wneud. Mae'r uchelgais i gael safle allweddol i gynhyrchu a storio hydrogen ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn un o'r rhesymau pam y mae gennym ni'r buddsoddiad hwnnw, sy'n cyrraedd ar draws yr economi honno sy'n cyfuno gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. A bydd cydweithio yn cynnig y cyfle gorau i ni wneud yr hyn a ddywedodd Ken Skates, Llywydd, sef cyflymu ein gallu i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny.