1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Tachwedd 2022.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am dai cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58724
Wel, Llywydd, diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i’w rhentu yn y sector cymdeithasol ac wedi buddsoddi mwy o gyllid nag erioed, gan ddarparu £300 miliwn eleni. Mae hyn yn cynnwys 40 y cant o gynnydd yn y canolbarth a’r gorllewin.
Diolch yn fawr iawn. Fel rŷch chi'n gwybod, mae bron i 90,000 o aelwydydd yng Nghymru ar y rhestr aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae hyn wedi codi o 65,000 o gartrefi yn 2018, ac mae elusennau'n disgwyl i'r nifer godi ymhellach. Ac mae tueddiadau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru yn peri pryder mawr, gyda nifer yr aelwydydd ar restrau aros yn 2022 lan bron 50 y cant yn sir Benfro a dros 100 y cant ym Mhowys, o'i gymharu â ffigurau pedair blynedd yn ôl. Fodd bynnag, rwy'n falch o ddweud fod sir Gâr, dan arweinyddiaeth Plaid Cymru, wedi dangos patrwm gwahanol, gyda gostyngiad o ryw 12 y cant yn nifer yr aelwydydd sy'n aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, felly, o sut mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llwyddo i gyflawni hyn? A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i archwilio pa wersi y gellid eu dysgu o arfer da sir Gâr mewn ardaloedd awdurdodau eraill yng Nghymru?
Diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn ychwanegol yna. Dwi wedi cael un cyfle i siarad gyda'r gweision sifil sydd wedi edrych i mewn i'r profiad yn sir Gâr, achos mae e yn sefyll mas, onid yw e? Rŷch chi'n gweld beth sydd wedi digwydd yn sir Gâr yng nghyd-destun de-orllewin Cymru, ac mae record sir Gâr yn rhywbeth gwahanol i'r awdurdodau lleol eraill. Beth mae swyddogion wedi awgrymu i fi, jest yn y sgwrs gyntaf, yw bod sir Gâr wedi bod yn gweithio yn y maes hwn dros y tymor hir. Maen nhw wedi prynu tai pan fo tai yn dod lan ar y farchnad ar werth, ac mae rhaglen ddatblygu gyda nhw sy'n fwy dwfn na'r rhai sydd gyda'r awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth. So, mae'n bosib bod gwersi i'w dysgu mas o'r profiad mae sir Gâr wedi'i gael.
Mae sir Gâr hefyd wedi cydweithio â ni fel Llywodraeth, ac roedd sir Gâr yn un o'r awdurdodau lleol gwreiddiol ble roedden ni wedi codi'r hawl i brynu tai cymdeithasol, ac mae hwnna wedi helpu yn sir Gâr a'r tymor fwy nac mewn rhai awdurdodau lleol eraill. A hefyd maen nhw wedi gweithio gyda ni i ddefnyddio'r arian rŷn ni wedi'i roi ar y bwrdd i dynnu tai gwag nôl i rentu i bobl.
So, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i edrych i mewn i'r profiadau yn sir Gâr i weld os oes rhywbeth gwahanol mae'r cyngor yn ei wneud, ond hefyd i roi hwnna yng nghyd-destun yr ymdrech fwyaf rŷn ni'n treial i helpu, i helpu i fuddsoddi gyda'r awdurdodau lleol a hefyd gyda'r bobl eraill sy'n gwneud gwaith pwysig yn y maes.
Prif Weinidog, dangosodd cais rhyddid gwybodaeth diweddar fod tua 4,500 o aelwydydd yn aros am dai cymdeithasol ym Mhowys. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod hynny'n peri pryder mawr. Rwy'n siŵr bod yr unigolion hynny a'r bobl hynny ar y rhestr aros honno, fel yr wyf i, eisiau gwybod heddiw beth yr ydych chi a'ch Llywodraeth yn ei wneud i ddatrys y broblem hon, oherwydd, fel y dywedoch chi'n gynharach, mae cyllid ar gael, ond nid yw'n cyflawni'r canlyniadau yr ydych chi eu heisiau. Felly, yn lle ceisio penawdau, Prif Weinidog Cymru, ydych chi'n credu y byddai cael gwared ar bethau fel y rheoliadau ffosffad a osodwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at ddadflocio'r system gynllunio?
Wel, yn sicr, dydw i ddim yn credu y byddai caniatáu mwy o lygredd yn afonydd Powys yn rhywbeth a fyddai'n cael ei gefnogi gan etholwyr yr Aelod, a gadewch i ni fod yn glir iawn pan ddywed 'cael gwared ar reoliadau ffosffad', dyna'n union mae'n ei olygu—dyna'n union mae'n ei olygu—ni all olygu unrhyw beth arall. Os ydych chi'n caniatáu i ddatblygiadau tai ddigwydd gan wybod—gan wybod—y bydd hynny'n arwain at fwy o lygru cyrsiau dŵr ac afonydd, yna dyna fydd effaith gwneud yr hyn y mae'r Aelod yn ei gynnig.
Erbyn hyn, yn ffodus, mae gan y rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y maes hwn, gan gynnwys sefydliadau ym Mhowys, agwedd fwy adeiladol tuag at ddatrys y cyfyng-gyngor sy'n ein hwynebu. Wrth gwrs mae angen i ni allu adeiladu tai ym Mhowys a rhannau eraill o Gymru; mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni ddod o hyd i ateb cynaliadwy fel nad yw adeiladu'r tai hynny yn achosi llygredd ychwanegol mewn afonydd sydd eisoes—eisoes—wedi'u gor-lygru. Bydd angen cyfres o gyfraniadau: bydd angen cyfraniad gan y rheoleiddiwr; bydd angen cyfraniad Dŵr Cymru; bydd angen cyfraniad gan fuddiannau ffermio; a bydd angen cyfraniad gan ddatblygwyr tai sydd â thechnegau y gallant eu defnyddio ac sy'n fodlon eu defnyddio a fyddai'n golygu, pan fyddwch chi'n adeiladu tai newydd, nad yw'n arwain—
Mae'n wir ddrwg gennyf i, Prif Weinidog, ond mae llawer o aelodau meinciau cefn o ddwy blaid o leiaf yn ceisio cyfrannu yn eich lle chi yn y ddadl hon. Byddai'n well gennyf i eich clywed chi na nhw—pob un ohonyn nhw. Pob un ohonyn nhw. Prif Weinidog.
Llywydd, diolch. Roeddwn i'n ceisio egluro i'r Aelod bod y broblem y mae'n ei nodi yn un go iawn, ond mae'r ateb y mae'n ei gynnig yn creu problem arall, problem ddifrifol iawn, yn waeth. Ni fyddwn ni'n datrys y broblem yn y ffordd honno. Yr unig ffordd y byddwn ni'n ei datrys yw drwy gasglu ynghyd gyfraniad nifer o wahanol asiantaethau a sefydliadau. Mae hynny'n cynnwys adeiladwyr tai. Rwy'n credu eu bod nhw'n cydnabod hynny. Mae technegau y gallant eu datblygu a fyddai'n golygu y gall adeiladu tai ddigwydd heb y difrod a fyddai'n cael ei achosi gan yr ateb gor-syml a gynigiodd James Evans i ni, a fyddai heb os, yn arwain at lygredd ychwanegol.