– Senedd Cymru am 3:18 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, cynnig gofal plant Cymru, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am gynnig gofal plant Cymru, gan gynnwys ei estyniad at rieni mewn addysg a hyfforddiant. Mae gofal plant fforddiadwy, sydd ar gael ac yn hygyrch yn helpu rhieni i weithio, gan gefnogi ein hymgyrch ni i gynyddu twf economaidd, a mynd i'r afael â thlodi, a lleihau anghydraddoldebau. Dyna pam rydym ni wedi ymrwymo i ariannu gofal plant ar gyfer mwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu'n agos at fod yn gweithio.
Ym mis Medi, fe wnaethom ni ehangu cynnig gofal plant Cymru i gynnwys rhieni sydd eisoes wedi cofrestru neu sy'n bwriadu cofrestru mewn cyrsiau addysg uwch ac addysg bellach sy'n para am 10 wythnos o leiaf. Mae hyn yn adlewyrchu'r gwerth yr ydym ni'n ei roi ar gefnogi pobl sy'n ceisio gwella eu rhagolygon gwaith nhw trwy ennill cymwysterau, ailhyfforddi neu newid llwybr eu gyrfa. Mae hyn yn golygu y gallwn gefnogi myfyrwyr gofal iechyd hefyd, nad ydyn nhw'n gymwys bob amser i gael cymorth gofal plant yn ôl y cynlluniau presennol.
Mae'r ehangu hwn yn dangos ei bosibiliadau eisoes. Mewn un awdurdod lleol, fe gysylltodd teulu i fynegi eu diolch nhw am y 'gwasanaeth sy'n haeddu 10 allan o 10', mae'r fam honno'n cael ei chefnogi wrth astudio am radd Baglor mewn nyrsio. Yn y tymor cyntaf ers yr ehangu, rydym ni wedi cael gwybod am 168 o deuluoedd erbyn hyn sy'n elwa ar y cynnig gofal plant, gan ddisgwyl mwy dros yr wythnosau nesaf wrth i'r ceisiadau ar gyfer mis Ionawr ddod i law. Mae cefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant gyda chostau gofal plant yn golygu y bydd mwy o deuluoedd, a menywod yn enwedig, yn gallu elwa ar well rhagolygon o ran gwaith.
Dirprwy Lywydd, ochr yn ochr â'r ehangiad hwn o'r cynnig gofal plant, rydym ni hefyd wedi bod yn cwmpasu'r gefnogaeth sydd ar gael trwy ein rhaglenni cymorth addysg uwch ac addysg bellach, a'n rhaglenni cyflogadwyedd, fel Cymunedau am Waith, Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth a ReAct. Bydd y gwaith traws-bortffolio hwn yn nodi'r ffordd fwyaf addas o ddarparu cefnogaeth ychwanegol i rieni, yn enwedig y rhai mewn addysg oedolion, addysg yn y gwaith, addysg gymunedol, y rhai sy'n dilyn cyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill a'r rhai sydd ar gyrsiau tymor byr. Bydd yn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu darparu'r gefnogaeth orau i rieni.
Unwaith eto, roedd y canfyddiadau gwerthuso annibynnol diweddaraf, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn dangos bod ein cynnig gofal plant ni wedi cefnogi cyflogaeth rhieni. Ym mis Mehefin 2022, roedd dros 18,000 o blant yn derbyn gofal plant a ariannwyd gan y cynnig gofal plant. Rydym ni'n disgwyl y bydd y nifer hwn yn cynyddu wrth i fwy o rieni ystyried y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw yn yr argyfwng costau byw hwn.
Roedd bron i un ym mhob 10 rhiant sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant yn dweud na fydden nhw yn y gwaith oni bai am y cynnig. Roedd 6 y cant arall yn dweud y bydden nhw'n gweithio mewn swydd gyda chyflogau is pe na fyddai'r cynnig wedi bod ar gael iddyn nhw. I'r teuluoedd hynny, mae'r cynnig gofal plant yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w bywydau nhw. Ond nid yn unig fod y cynnig gofal plant â rhan hanfodol ym mywydau'r teuluoedd hyn, mae'n cefnogi llawer o ddarparwyr gofal plant yn ogystal â hynny. Ac er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gefnogi darparwyr gofal plant, rydym ni wedi cytuno ar gynnydd yn y gyfradd i £5 yr awr yn dilyn adolygiad, ac mae hynny'n golygu cynnydd o 11 y cant.
Mae'r swm y gall darparwyr gofal plant godi ar rieni am fwyd o dan y cynnig hefyd wedi cynyddu, o £7.50 i £9 y dydd. Mae hyn yn adlewyrchu'r cynnydd sylweddol ym mhrisiau bwyd a chyfleustodau, ond mae'n golygu cydbwysedd gofalus rhwng yr hyn sy'n fforddiadwy i'r darparwr ac, wrth gwrs, yr hyn sy'n fforddiadwy i'r teulu.
Ar gyfer helpu i wella'r broses o gyflwyno'r cynnig gofal plant i ddarparwyr, yn ogystal â'i gwneud hi'n haws nag erioed i rieni wneud cais, fe wnaethom ni lansio ein gwasanaeth digidol newydd ni'n ddiweddar i Gymru gyfan. Fe ysgrifennais i at Aelodau fis diwethaf, cyn y lansiad, ynglŷn â hynny. Wythnos diwethaf, fe ymwelais i â meithrinfa Darling Buds yng Nghaerdydd, ychydig dros y ffordd fan acw, i glywed yn uniongyrchol am yr hyn y mae'r gwasanaeth digidol newydd yn ei olygu iddyn nhw a'r rhieni sy'n ei ddefnyddio.
Fe fydd y gwasanaeth digidol newydd yn golygu ei bod hi'n haws eto i fanteisio ar y cynnig gofal plant ac yn rhoi profiad sy'n fwy cyson ledled Cymru. Fe fydd yn symleiddio'r prosesau y mae'n rhaid i ddarparwyr gofal plant eu dilyn i hawlio taliadau ac fe fydd yn symleiddio'r broses o gasglu data ar gyfer pawb, i fireinio ein dealltwriaeth ni o'r niferoedd sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Fe fydd y gwasanaeth newydd ar gael ar-lein, gydag ystod o ddewisiadau cymorth all-lein ar gael i ddefnyddwyr. Gan fod y gwasanaeth ar gael ar unrhyw ddyfais sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd, bydd pobl yn gallu defnyddio'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim gan ddefnyddio eu dyfeisiau nhw mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, gan gofio'r pwysau sydd ar gyllidebau pobl.
Dyluniwyd y gwasanaeth newydd gyda'r safonau'r Gymraeg ac anghenion diogelwch yn brif flaenoriaethau. Fe fydd yn gwbl fyw o fis Ionawr 2023 ymlaen ac fe fydd yn disodli'r systemau cyfredol yn llwyr erbyn mis Medi 2023.
Felly, fe garwn i ofyn i'r Senedd ymuno â mi i groesawu'r ehangu hwn a'r gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd, sy'n cefnogi'r rhieni hynny sydd wedi dewis ceisio addysg uwch ac addysg bellach ar gyfer gwella eu hamcanion nhw o ran gyrfaoedd. Ac wrth gwrs, rydym ni'n parhau i ehangu'r ddarpariaeth i blant dwyflwydd oed drwy Dechrau'n Deg fel rhan o'n cytundeb cydweithredu ni â Phlaid Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Testun pryder yw bod Llywodraeth Cymru wedi bod mor gyflym i weithio ar wasanaeth gofal plant digidol ledled Cymru pan fo'r GIG wedi bod yn aros dros 10 mlynedd am ddiweddaru systemau, a bod peiriannau ffacs yn parhau i gael eu defnyddio drwy'r gyfundrefn gyfan. Ac er ei bod hi'n ganmlwyddiant goruchafiaeth Llafur yng Nghymru heddiw, ac mae eich plaid chi'n dathlu hynny heno, rwy'n credu, rwy'n siŵr y byddai pobl Cymru yn dathlu Plaid Lafur a Llywodraeth Cymru sy'n gallu symud o'r ugeinfed ganrif a bod ag ystyriaethau o'r unfed ganrif ar hugain o ran technoleg, Dirprwy Weinidog. Ac er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi ymestyn y ddarpariaeth o ofal plant ledled Cymru, mae hi'n amlwg y gallai'r gwasanaeth digidol y gwnaeth y Llywodraeth ei lansio olygu y gallai'r rhai sydd â'r angen mwyaf am y gefnogaeth fethu â chael gafael arni, ac mae hynny'n achosi risg ddifrifol o adael pobl yn methu manteisio ar ofal plant y mae arnyn nhw gymaint o angen amdano.
Mae'r oes ddigidol wedi galluogi miliynau i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddilyffethair, ond nid yw hyn yn wir i bawb, ac mae llawer yn parhau i fod heb ffonau clyfar, cyfrifiaduron, na llechi, o ran hynny. Yn aml yr henoed a'r tlotaf yw'r rhain, ac rwy'n poeni y bydd llawer o bobl yn methu â manteisio ar y gwasanaeth hwn oherwydd eu bod yn methu â chael gafael ar y dechnoleg. Ac mae pwysau costau byw yn golygu bod llawer o bobl mewn mannau fel Rhyl yn fy etholaeth i, a mannau eraill ledled Cymru, yn ei chael hi'n anodd, ac nid yw gwneud i bobl brynu technoleg newydd am helpu i leddfu'r pwysau ariannol arnyn nhw, pan fo data diderfyn a llechi yn rhy ddrud i rai. Yn yr un modd, mae hyd yn oed teuluoedd cefnog a theuluoedd cefn gwlad Cymru yn wynebu'r baich o fod heb gysylltiad â'r we, 5G a band eang, ac yn methu â defnyddio'r gwasanaeth hwn ychwaith. Mae hyn yn dangos y ceir materion ehangach y mae'n rhaid i'r Llywodraeth fynd i'r afael â nhw cyn cyflwyno cynllun un ateb sy'n addas i bawb ac sy'n rhoi mwy fyth o reolaeth i Lywodraeth Cymru dros ein hawdurdodau lleol ni.
Er bod i'r cynllun ei fwriadau da, nid yw syniad y Llywodraeth o gynllun sy'n sicrhau bod rhieni a darparwyr gofal plant ledled Cymru yn cael yr un profiad ym mha awdurdod lleol bynnag y maen nhw'n byw ynddo yn cael ei wireddu, ac mae'r Llywodraeth wedi bod yn esgeulus o ran ystyried pam nad yw gwasanaeth ledled Cymru yn ystyried y materion hyn. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog egluro sut y bydd y cynllun hwn yn cael ei ymestyn ar draws pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru? Faint o ystyriaeth a roddwyd i'r gwahaniaethau daearyddol ac economaidd y mae llawer o'r awdurdodau hyn yn eu hwynebu, ac a yw dull un ateb sy'n addas i bawb yn briodol yn y sector gofal plant? Diolch yn fawr iawn i chi.
Diolch yn fawr iawn chi. Mae hi'n peri tipyn o benbleth i mi sut y gall Gareth Davies ddweud, 'Pam nad ydym ni'n hyrwyddo technoleg?', a minnau'n ei gyhoeddi heddiw mewn gwirionedd. Rydym ni'n cyhoeddi datrysiad digidol i'r sector gofal plant. Rwyf i wir o'r farn ei fod yn ceisio cydio mewn pethau ar gyfer beirniadu'r hyn sy'n gam cadarnhaol iawn ymlaen. Rwy'n falch ei fod wedi nodi 100 mlynedd o Lafur heddiw, ac y byddwn ni—. Fe fyddwn ni'n dathlu heno, ac un o'r pethau y byddwn ni'n ei ddathlu fydd y mewnbwn mawr a roddodd y Llywodraeth hon ym maes gofal plant a chydnabod anghenion rhieni a phlant. Ac rwy'n credu bod llwyddiant Llafur yng Nghymru yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni wedi rhoi ystyriaeth i'r hyn y mae pobl ei angen ac wedi ceisio cwrdd â'r anghenion hynny.
Rwy'n credu ei fod ef, yn amlwg, yn gwneud pwynt pwysig am y rhai nad ydyn nhw'n gallu gwneud defnydd o'r dechnoleg, ac fe roddwyd ystyriaeth fanwl iawn i hynny, ac mae modd i bobl gael gymorth os nad oes ganddyn nhw fodd i gael gafael ar y dechnoleg. Er enghraifft, maen nhw'n gallu cael llinell gymorth bwrpasol, llinell ffôn, a chymorth wyneb yn wyneb hefyd, ac mae hynny wedi cael ei ystyried.
Cafodd y gwasanaeth hwn, mewn gwirionedd, ei ddarparu nid trwy gyfrwng 22 awdurdod lleol, ond trwy 10 gwahanol awdurdod lleol a oedd yn gweithio ar ran awdurdodau lleol eraill. Fe fydd hyn yn ei gwneud hi'n llawer symlach, yn llawer haws, i'r darparwyr a'r rhieni, o ran gallu manteisio ar y gwasanaethau. Ac mae hi'n ddiddorol, yn ein cyfathrebiadau ni â'r rhieni, ein bod ni mewn gwirionedd wedi canfod mai ychydig iawn sydd heb unrhyw gysylltiad digidol. Y grŵp iau, yn amlwg, yn y boblogaeth yw hwn ar y cyfan, ond, er hynny, fe fyddwn i'n derbyn bod rhai nad oes ganddyn nhw gysylltiad, ac rydym ni wedi cynnwys mesurau i geisio mynd i'r afael â hynny. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod mwy ymhlith y darparwyr oedd heb gysylltiad digidol efallai, ac felly mae ymdrech yn cael ei gwneud yn hynny o beth.
Mae'r wythnos gyntaf wedi dangos bod rhwng 2,500 a 3,000 o rieni eisoes wedi dechrau gwneud cais i ddechrau defnyddio'r cynnig gofal plant ym mis Ionawr. Yn yr wythnos gyntaf, roedd gennym ni 2,000 o rieni yn y broses gofrestru mewn gwirionedd, ac rydym ni eisoes wedi cymeradwyo 400 ohonyn nhw. Fe wnes i roi cynnig ar y dechnoleg pan ymwelais i â Darling Buds, ac roedd ei ddefnyddio yn hawdd iawn ac yn syml. Mae mwyafrif y darparwyr wedi cofrestru gyda'r gwasanaeth i estyn y cynnig. Rwy'n credu bod Gareth Davies yn codi materion eraill i geisio bychanu llwyddiant yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Diolch i chi.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae gofal plant yn elfen bwysig o’r cytundeb cydweithio, a dwi’n falch iawn o groesawu’r datganiad heddiw. Mae’r ffeithiau rydych chi wedi cyfeirio atynt yn dangos pam bod hyn mor bwysig, a’r effaith y mae ehangu yn ei chael yn barod. Dwi’n gwybod am waith achos, cyn hyn, am bobl a fyddai wedi elwa’n fawr ar yr hyn rydych chi wedi bod yn ei rannu gyda ni, ac sydd wedi gorfod rhoi’r gorau i raddau Meistr oherwydd nad oedd y cymorth hwn ar gael iddynt. Felly, mae o yn gam pwysig iawn ymlaen ac yn rhywbeth i’w groesawu, fel mae’r ystadegau yn ei ddangos.
Cafodd gofal plant am ddim cyffredinol ei gydnabod fel y cyfartalwr mwyaf gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Er bod ehangu mynediad at ofal plant rhad ac am ddim o fudd uniongyrchol i blant yn eu blynyddoedd ffurfiannol nhw, mae hefyd—fel gwnaethoch chi ei gydnabod—fuddion ehangach iddo wrth fynd i'r afael â thlodi. Fel y gwyddom ni, mae'n tynnu rhai o'r rhwystrau i helpu rhieni, mamau yn enwedig, i ddychwelyd i'r gwaith.
Fe wyddom ni fod prinder gofal plant yn un o'r rhwystrau sy'n cael eu mynegi amlaf o ran cyflogaeth menywod, gan arwain at gyfranogiad economaidd is a phrinhau dewisiadau menywod o ran gyrfa. Yng Nghymru, mamau yw 86 y cant o rieni sengl, a 63 y cant o famau mewn cartrefi dau riant sy'n gyfrifol ar eu pennau eu hunain neu'n bennaf am ofal plant, o gymharu â dim ond 17 y cant o dadau. Dyna pam mae hyn yn hollbwysig o ran ymdrechu dros Gymru gyfartal ar sail rhyw. Dyna pam, fel roeddech chi'n cyfeirio, mae gofal plant am ddim o 12 mis oed, gan ddechrau gyda gweithredu hynny ar gyfer plant dwyflwydd oed yn y tymor cyntaf hwn—dyna pam yr oedd hwn yn addewid allweddol i Blaid Cymru yn etholiad Senedd Cymru 2021, a dyna pam mae'n ymddangos yn y cytundeb cydweithredu rhwng ein dwy blaid ni.
Fel gwyddom ni, mae'r sector yn wynebu cyfnod anodd iawn. Drwy gydol COVID, daeth darparwyr gofal plant i'r adwy mewn argyfwng cenedlaethol gan eu gwneud eu hunain yn ganolfannau gofal plant i'n gweithwyr allweddol ni, a oedd yn golygu y gallai nyrsys, meddygon ac athrawon barhau i weithio. Mae angen cymaint o gymorth a chefnogaeth â phosibl ar y sector erbyn hyn, wrth i ni wynebu'r argyfwng costau byw, fel bod eu gwasanaethau hanfodol nhw'n parhau i fod ar gael.
Cyfyngwyd ar fynediad at ofal plant am ddim hefyd gan fylchau difrifol yn y ddarpariaeth ledled Cymru. Dangosodd arolwg gofal plant yn 2022 gan yr Ymddiriedolaeth Teulu a Gofal Plant fod digonolrwydd gofal plant wedi gostwng ers 2021 ar gyfer pob categori yng Nghymru, ac eithrio gofal ar ôl ysgol i bobl ifanc 12 i 14 oed. Llai na thraean o awdurdodau lleol, 29 y cant, sydd â gofal plant digonol ar gyfer y 30 awr o hawl i addysg gynnar am ddim o dan y cynnig gofal plant. Gwelir prinder sylweddol i blant anabl a rhieni sy'n gweithio oriau annodweddiadol, heb unrhyw awdurdod lleol yn mynegi bod gofal plant yn unol â'r rhain ar gael ym mhob ardal yn ei awdurdod.
Ond, fel y gwnaethoch chi gydnabod hefyd, mae yma gyfle ac angen dirfawr i sicrhau darpariaeth o ofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ledled Cymru. Mae gofal plant yn rhan o'r maes addysg a gofal cynnar ehangach, a thrwy wasanaethau a lleoliadau gofal plant y blynyddoedd cynnar mae miloedd o blant a theuluoedd ledled Cymru yn cael eu profiadau cyntaf o'r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg.
Fe hoffwn i ofyn yn benodol heddiw, dim ond i ymateb i rai o'r pwyntiau yna—. Roeddwn i'n falch o weld y Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at allgáu digidol ac yn cydnabod rhai o'r heriau yn hynny, oherwydd rydym ni'n gweld niferoedd cynyddol o bobl yn dewis peidio ag adnewyddu band eang, er enghraifft, yn eu cartrefi nhw, yn rhan o reoli eu costau byw. Mewn rhai ardaloedd, ac mae hynny'n cynnwys ardaloedd ychydig filltiroedd yn unig o Gaerdydd, fe all hyn olygu bod ei bod hi'n anodd i chi gael cysylltiad sy'n ddigon cryf i allu defnyddio gwasanaethau digidol. Felly, rwy'n credu bod rhywbeth yn hynna.
Yn amlwg, nid yw oriau pethau fel llyfrgelloedd cyhoeddus yn hyblyg bob amser, oherwydd, yn aml, fe allai rhieni edrych ar y dewisiadau hyn gyda'r nos neu ar y penwythnosau. Mae rhai llyfrgelloedd ar agor ar ddydd Sadwrn, ond nid yw pob un. Felly, rwyf i am ofyn i chi: sut ydym ni am sicrhau na fydd allgáu digidol yn rhwystr i lawer o bobl sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd? Rwy'n credu bod llawer o bethau i'w croesawu yma, ond rwy'n poeni o ran y rhai sy'n gallu defnyddio'r dechnoleg—nid mater o anallu o ran ei defnyddio yw hwn—ond y ffaith nad oes posibl ei defnyddio hi oherwydd yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd.
Hefyd, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r bylchau difrifol yn y ddarpariaeth o ofal plant, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer plant anabl, ac, fel cafodd ei grybwyll, ar gyfer rhieni sy'n gweithio oriau annodweddiadol, ac rwy'n credu y gall y pwyntiau a godwyd gan yr Aelod ynghynt o ran pobl sy'n byw mewn ardaloedd cefn gwlad, lle gall hygyrchedd neu drafnidiaeth fod yn rhwystr rhag cael gafael ar ofal plant? Felly, sut mae sicrhau y bydd pawb sydd ei angen yn gallu ei gael, yn y mannau ac ar yr adeg y maen nhw ei angen?
Ac yn olaf, os caf i ofyn, o ran y gwasanaeth digidol cenedlaethol, rwy'n nodi i werthusiad gael ei wneud a bod treialon wedi bod, ac rydych chi wedi cyfeirio at hyn o ran yr adborth adeiladol a gafwyd. A wnewch chi roi gwybod i ni ymhle mae hwn ar gael i'r cyhoedd, oherwydd nid wyf i wedi gallu dod o hyd iddo, er mwyn ni gael deall o'r gwerthusiad a'r adborth ar ôl y treialon beth efallai yw rhai o'r heriau y mae angen i ni eu goresgyn? Diolch i chi.
Diolch yn fawr i chi, Heledd, am eich croeso cynnes i'r camau hyn ymlaen. Roedd hi'n ddiddorol clywed am brofiad pobl a oedd mewn addysg nad oedden nhw'n gallu manteisio ar y cynnig gofal plant, oherwydd fe gefais innau'r un profiad yn fy ngwaith etholaethol fy hun, ac rwy'n credu y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl sydd angen manteisio arno. Rwy'n falch iawn hefyd fod Heledd wedi sôn am fanteision ehangach mynd i'r afael â thlodi a pha mor gwbl hanfodol yw hi i ddarparu gofal plant sy'n hawdd ei gael ac yn rhad ac am ddim ar gyfer gwneud cynnydd yn hyn o beth. Ac yn amlwg, dim ond megis dechrau yw hyn i ni—rwy'n llwyr gydnabod hynny, mae ffordd faith eto—ond rwy'n falch iawn o fod yn gweithio gyda'r Aelod dynodedig i sicrhau ein bod ni'n ymestyn gofal plant cyn belled ag y bo modd gwneud hynny.
Felly, mae yna ddiffyg. Rwy'n derbyn yn llwyr fod diffygion yn y system ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu rhoi cymorth i ddatblygu addysg Gymraeg, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol. Rwy'n credu, os gallwn ni sicrhau bod honno'n rhan annatod o'r camau cynnar, pan fo plant yn dechrau mynychu unrhyw safle am y tro cyntaf—plant blwydd a dwyflwydd oed—yna rwy'n credu y byddwn ni'n symud ymlaen mewn gwirionedd o ran y Gymraeg. Felly, peth gwirioneddol wych yw ein bod ni wedi cael y cyfle yma, ac wrth gwrs, rydym ni'n cael help gan Cwlwm i fwrw ymlaen â hyn.
O ran plant anabl, rwy'n gwybod bod y cynnig gofal plant yn ystyried anghenion plant a theuluoedd sydd ag anableddau. Ac rwy'n credu bod help ariannol ychwanegol, mewn gwirionedd, wedi cael ei roi am y rheswm hwnnw.
Y pwyntiau y gwnaethoch chi eu hategu ynglŷn â rhai o'r pethau a ddywedodd Gareth, am allgáu digidol, mae hwnnw wedi cael ei gydnabod yn llwyr yn y cynigion hyn. Ac fel dywedais i, fe fydd hi'n bosibl i bobl gael cymorth i wneud hyn gyda ffonau a chyswllt wyneb yn wyneb—mae hynny wedi ei gynnwys yn benodol. Ac wrth gwrs, ni fydd hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i bobl ei wneud drwy'r amser. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n llwyddo i roi'r cyfan yn ei le ac ni fydd angen i'r rhieni, yn arbennig felly, ddefnyddio hyn drwy'r amser, ond fe fydd angen i'r darparwyr ei ddefnyddio trwy'r amser, oherwydd fe fyddan nhw'n gwneud hawliadau am yr arian, felly mae hi'n bwysig iawn bod y darparwyr yn gallu cael gafael arno yn rhwydd.
Roedd yna werthusiad, ac fe gafodd hwnnw ei wneud—. Roedd yna grŵp a oedd yn paratoi ar gyfer cyflwyno'r gwasanaeth digidol, ac roedd y grŵp yn cynnwys rhieni, darparwyr, ac roedd yn cael ei gyd-gynhyrchu i raddau helaeth iawn, ac fe fydd yn rhaid i mi ddweud wrthych chi eto lle mae hyn ar gael mewn gwirionedd.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr am eich adroddiad chi. Rwy'n credu mai un o'r pethau pwysig y gwnaethoch chi dynnu sylw ato yw bod bron i un o bob 10 rhiant sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant wedi dweud na fydden nhw'n gallu gweithio oni bai am y cynnig. Ac mae hynny'n hollol iawn, oherwydd mae gofal plant yn llawer rhy ddrud o'i gymharu â'r cyflogau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu hennill. Gwaith sy'n mynd rhagddo yw hwn i bob un ohonom, ond rwy'n llwyr gydnabod eich ymroddiad a'ch angerdd chi wrth ymroi i'r dasg hon, ac mae'n rhaid i ni ddal ati.
Un o'r pethau yr hoffwn ei ofyn, a tybed a wnaethoch chi drafod hyn gyda'ch cyd-Aelodau, yw mai'r her fwyaf sydd ganddyn nhw yn y GIG yw llenwi swyddi gwag. Un o'r rhesymau pam nad ydyn nhw'n gallu llenwi'r swyddi gwag yw oherwydd diffyg gofal plant. Fe fyddai nyrsys, yn arbennig felly, yn ei chael hi'n anodd gweithio pe na fyddai gofal plant ar gael iddyn nhw. Tybed a yw'r Llywodraeth yn rhoi unrhyw ystyriaeth i gynnig gofal plant rhad ac am ddim i unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol.
Yn ail, fe hoffwn i dynnu sylw at fater hygyrchedd. Rwy'n cytuno â Gareth ynglŷn â rhai pethau, ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth ar gael wyneb yn wyneb yn ogystal ag yn ddigidol, ond mae'n rhaid iddi fod yn wybodaeth gywir. Roeddwn i'n meddwl am yr argymhelliad a wnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gynharach eleni ynglŷn â'r mater hwn o ran yr angen i ddatblygu gwasanaeth gwybodaeth mewn un man, fel y gallai rhieni ymchwilio i beth bynnag sydd ar gael, yn dibynnu ar ble maen nhw'n byw. Fe wnaethoch ein cyfeirio ni at y gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd, ac yng Nghaerdydd darperir hwnnw gan Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd—
Jenny, mae angen i chi ddod i ben nawr.
Felly, ceisiais chwilio am ofal i blant dwy flwydd oed o'r lle yr oeddwn i'n arfer byw yn Llanedern. Doedd dim byd yn ymddangos o fewn milltir. Yna, chwiliais am gymorth gofal plant ar gyfer cod post yn Llanedern sydd yn ardal Dechrau'n Deg, ac unwaith eto cefais fy synnu na wnaeth unrhyw beth ymddangos o fewn milltir. Dydy hynny ddim yn gywir. Ac, os nad yw'n gywir, yna mae'n anodd iawn i bobl nad ydynt efallai yn yr ardal Dechrau'n Deg, na fyddant felly'n cael y gefnogaeth ychwanegol honno gan ymwelwyr iechyd, i wybod ble i fynd, yn enwedig os mai dyma eu plentyn cyntaf nhw ac nad oes ganddyn nhw'r rhwydweithiau hynny.
Jenny, mae angen i chi ddod i ben, os gwelwch yn dda.
Rwy'n gwneud pwynt pwysig.
Ydych, ond rydych chi hefyd ymhell dros y terfyn amser, fel y gwyddoch chi.
Diolch yn fawr, Jenny, am y pwyntiau pwysig iawn hynny. Rwy'n credu bod yr holl werthuso wedi dangos bod y cynnig gofal plant wedi bod o gymorth mawr i rieni i fynd yn ôl i'r gwaith, a'r rhieni hynny yw'r rhieni sydd yn gyffredinol ar enillion cyfartalog neu enillion isel, oherwydd na fydden nhw wedi gallu fforddio cost gofal plant pe bai'n rhaid iddyn nhw dalu o'u pocedi eu hunain. Felly, rwy'n credu y bu'n llwyddiannus iawn yn cyrraedd y bobl yr oeddem ni wedi bwriadu iddo eu cyrraedd. Mae'r cynnig gofal plant yn cael ei gynnig i bawb sy'n bodloni'r meini prawf o weithio nifer yr oriau. Felly, does dim darpariaeth arbennig wedi bod i'r GIG, ond mae'r estyniad i addysg a hyfforddiant sy'n digwydd nawr yn golygu y bydd gweithwyr gofal iechyd sy'n fyfyrwyr yn gallu manteisio arno, rhywbeth nad oedden nhw'n gallu ei wneud o'r blaen. Felly, rwy'n credu bod hynny'n siŵr o helpu'r broblem yn y gwasanaeth iechyd. Yna, fe wnaethoch chi hefyd godi'r mater am y stwff digidol, ac yn amlwg rwy'n meddwl yr un ymateb, ein bod ni'n darparu help yn bersonol ar y ffôn i bobl sy'n cael problemau gyda mynediad digidol. Y pwynt olaf, y gwasanaeth gwybodaeth i'r teulu, sydd i fod i ddal yr holl wybodaeth, felly rwy'n meddwl ei fod yn rhywbeth y dylid gwneud gwaith dilynol arno o ran pam nad oedd hynny yno, ac mae hynny'n rhywbeth y gallaf i ei wneud gyda fy nghydweithwyr. Diolch.
Diolch i'r Diprwy Weinidog.