– Senedd Cymru am 3:43 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan Weinidog yr Economi ar ymgysylltu o ran cwpan y byd Qatar.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar 27 Medi, fe wnes i gyflwyno datganiad yn amlinellu ein gweithgareddau arfaethedig i hyrwyddo Cymru yn ystod Cwpan y Byd FIFA i ddynion yn Qatar. Gyda'r twrnamaint bellach ychydig ddyddiau i ffwrdd, rwy'n falch o gyflwyno datganiad arall yn nodi'r diweddaraf am ein dull o weithredu. Fel y trafodwyd o'r blaen, mae gennym ni bedwar amcan allweddol ar gyfer y cwpan y byd hwn, sef: hyrwyddo Cymru; cyflwyno ein gwerthoedd; sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru; a, sicrhau gwaddol cadarnhaol o'n cyfranogiad.
Yng nghwpan y byd, pan fydd pobl yn gweld Cymru, fe fyddan nhw'n gweld ein gwerthoedd. Mae Llywodraeth Cymru'n credu mewn gwaith teg, hawliau menywod, hawliau dynol, ac y dylai pob un ohonom ni fod yn rhydd i fyw fel ni go iawn. Mae ein gwerthoedd yn ffurfio elfen ddiffiniol o'r genedl yr ydym ni'n falch o'i hyrwyddo. Mae ein bywiogrwydd, amrywiaeth ac ysbryd yn cael eu cysylltu'n annatod ag ymgyrchoedd anodd i hyrwyddo hawliau gartref a thramor. I lawer, mae'r cyfraniad Cymreig unigryw yn gyfystyr â chyfunoliaeth ac undod, a bydd yr egwyddorion hyn yn tanio ein presenoldeb yng nghwpan y byd.
Ynghyd â chenhedloedd blaengar eraill â thimau yn y twrnamaint hwn rydym ni wedi codi pryderon difrifol am hawliau gweithwyr a hawliau LHDTC+ yn Qatar. Cododd y Prif Weinidog y materion hyn yn uniongyrchol gyda'r llysgennad ar ran Qatar i'r DU. Ers hynny rydw i wedi ysgrifennu at y llysgennad ar ran Qatar i'r DU yn condemnio'r sylwadau homoffobig a wnaed gan lysgennad cwpan y byd ar ran Qatar. Mae gweinidogion yn parhau i gyfarfod â rhanddeiliaid, gan gynnwys y TUC rhyngwladol a grŵp cefnogwyr y Wal Enfys, i ymgysylltu ar y materion critigol hyn. Rydym ni’n cydnabod arwyddocâd y materion hyn ac y bydd rhai cefnogwyr yn dewis peidio â theithio o ganlyniad i hynny. Nid yw ein penderfyniadau mewn unrhyw ffordd yn ceisio lleihau'r anghyfiawnderau dan sylw, a byddwn ni’n gweithio i sicrhau bod ein presenoldeb yn gadael effaith gadarnhaol.
Gan y disgwylir cynulleidfaoedd enfawr ar gyfer gemau yn erbyn UDA a Lloegr, mae gennym ni gyfle i gyflwyno’r gwerthoedd yr ydym ni fel Llywodraeth wedi bod yn gyson arnyn nhw. Rydym ni’n cefnogi ymrwymiad y tîm i wisgo band braich enfys 'One Love' ac yn canmol penderfyniad y rhai yng ngwersyll Cymru i godi eu llais ar y materion hyn yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydym ni’n falch o'r safiad a gymerwyd gan y tîm. Mae Cymru'n ffodus o gael ei chynrychioli gan y grŵp arbennig yma o chwaraewyr o dan arweinyddiaeth Rob Page. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru, chwaraewyr a chefnogwyr yn edrych yn briodol at Lywodraeth Cymru am gyngor, cefnogaeth ac arweinyddiaeth ar y materion hyn. Rydym ni’n cydweithio'n agos â nhw i helpu i sicrhau ein bod ni’n cyflwyno presenoldeb Cymreig unigryw a blaengar yn y twrnamaint.
Wrth i ni wynebu ein cymdogion a'n cystadleuwyr ym maes chwaraeon, Lloegr, yn y grŵp, mae gennym ni gyfle prin hefyd o flaen cynulleidfa wirioneddol fyd-eang i ddangos yn glir bod Cymru yn genedl ar wahân o fewn y DU. Yn gynharach heddiw, ymunodd aelodau'r grŵp o Gaerdydd, Hoops and Loops, gyda mi wrth fynychu'r sesiwn hyfforddi olaf cyn cwpan y byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Grŵp cymorth ffoaduriaid a cheiswyr lloches LHDTC+ yw hwn i bobl sydd wedi dod i Gymru i ddianc rhag trais domestig, erledigaeth a hyd yn oed y bygythiad o farwolaeth. Mae statws Cymru fel cenedl o noddfa yn bwysig. Mae'n rhan greiddiol o'r gwerthoedd rydyn ni'n dewis sefyll drostyn nhw. Rwy'n falch iawn bod y rhai sy'n adeiladu bywyd newydd yma wedi gallu ymuno â ni wrth i ni nodi'r foment fawr hon yn hanes chwaraeon Cymru.
Mae'n hanfodol bod y gêm fyd-eang yn dysgu gwersi o'r twrnamaint yma ac yn gwneud hynny ar frys. Gyda chynulleidfa o 5 biliwn o bobl, rydyn ni'n gwybod mai ychydig iawn fydd y rheiny sy’n gwylio cwpan y byd yn ei wybod am Gymru, os unrhyw beth. Wrth i ni gyflwyno Cymru i gynulleidfaoedd newydd ar draws y byd, byddwn ni'n hyrwyddo cenedl agored, flaengar ac yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddathlu ein gwerthoedd. Mae ein rhaglen weithgareddau bellach yn wirioneddol yn mynd rhagddi. O Neuadd Les Tylorstown yn y Rhondda Fach, datgelodd Robert Page ei garfan o 26 chwaraewr yng Nghwpan y Byd i gael ei harwain gan ein talismon a'n capten, Gareth Bale. Does dim amheuaeth y byddan nhw'n rhoi popeth i'r crys ac i genedlaethau o gefnogwyr oedd yn meddwl efallai na fyddai’r dyddiau hyn byth yn dod eto.
Rwy'n falch o gadarnhau pedwar ychwanegiad newydd i Tîm Cymru 22, gyda'n grŵp newydd o lysgenhadon Cymru. Mae'r llysgenhadon, dan faner Lleisiau Cymru, yn cynnwys cymysgedd amrywiol o'n lleisiau a fydd yn hyrwyddo goreuon Cymru i'r byd. Rydym ni’n hynod ffodus o fod wedi recriwtio seren Olympaidd, y pencampwr byd a'r deiliad record byd Colin Jackson, cyn-gapten Cymru yr Athro Laura McAllister, y DJ a'r cyflwynydd Katie Owen, a'r cogydd enwog Bryn Williams. Fel rhan o'r dull Tîm Cymru 22 ehangach, bydd llysgenhadon Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Jess Fishlock ac Ian Rush, mawrion pêl-droed Cymru, hefyd yn cefnogi gweithgareddau ein rhaglenni.
Rydw i wedi diweddaru Aelodau ar y gronfa cymorth partner yn y gorffennol, gan gadarnhau'r 19 prosiect llwyddiannus. Mae'r gwaith yn cefnogi Gŵyl Cymru, amrywiaeth o dros 200 o ddigwyddiadau sy'n dathlu'r celfyddydau a chwaraeon. Mae S4C wedi trefnu cyngerdd i fynd â Chymru i'r byd yn Efrog Newydd, a gafodd ei gynnal neithiwr ac a fydd yn cael ei ddarlledu y penwythnos hwn. Mae'r Urdd wedi darparu eu jamborî canu mwyaf erioed ar draws ysgolion, gan gynnwys mwy na 230,000 o blant, ac mae StreetGames Wales wedi estyn allan i'n cymunedau lleiaf cefnog, gan gynnig safleoedd chwaraeon ar garreg y drws ar draws 36 o gymunedau yng Nghymru. Dim ond cipolwg ar y gweithgarwch sydd eisoes ar y gweill yw hwn.
Rydym ni hefyd yn gweithredu ein hymgyrch farchnata well, sy'n canolbwyntio ar farchnadoedd targed gan gynnwys UDA, cynulleidfaoedd Ewropeaidd allweddol a'r DU ar draws brand, busnes a thwristiaeth, yn ogystal ag ymgyrch gref yng Nghymru. Bydd ein gweithgareddau'n cynnwys llinyn marchnata digidol craidd sy'n canolbwyntio ar dwristiaeth, yn ogystal â marchnadoedd masnach a buddsoddi. Rydym ni’n cyflwyno gweithgareddau ledled y byd, gan weithio gyda Tîm Cymru 22 a thrwy ein swyddfeydd tramor. Byddwn ni'n lansio gosodiad celf sy'n benodol i Gymru yn y Corniche yn Doha i hyrwyddo Cymru yn y twrnamaint. Bydd cynnwys Cymreig ym mhafiliwn a gŵyl gardd fawr y DU, a derbyniad ar thema Cymru ar 21 Tachwedd dan ofal llysgennad Prydain i Qatar gyda'r Prif Weinidog yn brif westai. Yn yr Unol Daleithiau, rydym ni’n cefnogi digwyddiad Pêl-droed yn y Cylch yn Washington, digwyddiad rhanddeiliaid diwylliannol yn Efrog Newydd, digwyddiad e-hapchwarae yn Atlanta, a digwyddiadau busnes yn Chicago a Los Angeles.
Er mwyn cefnogi ein hamcan i hyrwyddo Cymru flaengar, bydd y Prif Weinidog yn mynychu gêm grŵp gyntaf Cymru ers 64 mlynedd yn erbyn yr UDA, a byddaf i’n mynychu gêm Lloegr. Mae'r rhain yn cynrychioli'r cyfleoedd mwyaf arwyddocaol i ni godi proffil Cymru, a gwneud cysylltiadau lle gallwn ni rannu ein diddordebau a'n gwerthoedd. Ni fydd Gweinidogion Cymru yn bresennol yng ngêm Iran ac fe fyddan nhw'n cefnogi Cymru o adref. Er mwyn sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yn Qatar, rydym ni wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU a gydag ystod o asiantaethau'r Llywodraeth, yn ogystal â heddluoedd y DU. Mae sianeli cyswllt rheolaidd wedi parhau i gael y newyddion diweddaraf am faterion diogelwch gyda goruchaf bwyllgor Qatar, sef y pwyllgor sy'n gyfrifol am reoli'r digwyddiad yn y wlad. Rydym ni hefyd wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â llysgenhadaeth y DU yn Qatar a llysgennad Ei Fawrhydi yn swyddfa Qatar.
I wneud yn siŵr ein bod ni’n sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol, byddwn yn gwerthuso'r gweithgareddau hyn wrth gefnogi cwpan y byd i ddysgu gwersi o'r ymyriadau hyn ar gyfer cyfleoedd diplomyddiaeth mewn chwaraeon yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i'n blaenoriaethau buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon yma yng Nghymru, gyda chyllideb gyfalaf o £24 miliwn dros y tair blynedd nesaf ochr yn ochr â'n buddsoddiad mewn cyfleusterau ysgolion. Dirprwy Llywydd, nid yw Llywodraeth Cymru yn diystyru difrifoldeb y materion mae'r twrnamaint hwn wedi'u codi i'n dinasyddion, ein cyrff chwaraeon a'n Llywodraethau ym mhob man. Rwy'n falch bod ein cynlluniau yn atgyfnerthu'r gwerthoedd sy'n gwneud Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch chi i gyd yn ymuno â mi i ddymuno’r gorau i Robert Page a'r tîm yn y cwpan y byd hwn—pob lwc, Cymru.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn 'ma? Mae cwpan pêl-droed y cyd yn Qatar yn gyfle i ni arddangos Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, ac mae'n iawn bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddefnyddio'r digwyddiad i ddatblygu cyfleoedd economaidd ac i deithio i'r digwyddiad ei hun. Rydw i hefyd yn falch o glywed bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon difrifol ynghylch hawliau gweithwyr a hawliau LHDTC+ gyda'r llysgennad ar ran Qatar i'r DU, ac wedi ymgysylltu â’r TUC rhyngwladol a grŵp cefnogwyr y Wal Enfys er mwyn ymgysylltu ar y materion hollbwysig hyn.
Mae cwpan y byd yn rhoi cyfle i hyrwyddo ein gwerthoedd. Mae'r Gweinidog wedi dweud yn glir, er mwyn cefnogi Cymru ac ymwneud â diplomyddiaeth, y bydd y Prif Weinidog yn mynd i gêm grŵp Cymru yn erbyn yr UDA, ac, yn wir, bydd y Gweinidog yn mynychu gêm Lloegr. Mae hefyd yn dweud y byddant yn gweithio i sicrhau bod eu presenoldeb yn gadael effaith gadarnhaol, ac felly er mwyn tryloywder, rhaid i'r Gweinidog gyhoeddi gwariant Llywodraeth Cymru ar y teithiau hyn, ynghyd â rhestr o’r cyfarfodydd a digwyddiadau y bydd ef a'r Prif Weinidog yn eu mynychu. Efallai y bydd y Gweinidog yn cytuno i gyhoeddi manylion llawn a chostau'r teithiau hyn fel y gallwn asesu p’un a ydyn nhw wedi cyflawni eu canlyniadau arfaethedig ac wedi darparu gwerth am arian i'r trethdalwr.
Mor ddiweddar â’r wythnos ddiwethaf, esboniodd Llywodraeth Cymru nad oedd yn mynychu COP27 oherwydd ei bod am gyfyngu ei milltiroedd aer, ac eto mae'n ymddangos nad oes ganddi broblem wrth gyfiawnhau'r teithiau penodol hyn. Felly, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog ddeall y dryswch dros feddylfryd Llywodraeth Cymru yma, gan y bydd llawer iawn o bobl a fydd eisiau deall pam bod yr ymgysylltu hwn yn briodol ond nad oedd presenoldeb COP27 yn briodol. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn egluro, er mwyn i bawb gael gwybod, pa feini prawf yn union mae teithiau Qatar wedi eu diwallu efallai nad oedd COP27 yn eu diwallu.
Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at yr ymgyrch farchnata well mae Llywodraeth Cymru wedi ei lansio mewn perthynas â chwpan y byd, sy'n cynnwys pwyslais ar dargedu marchnadoedd yng Nghymru, yr UDA a'r DU, ac mae’n rhoi mwy o fanylion i ni am rai o'r prosiectau a'r gweithgarwch sy'n digwydd. Cyfeiriodd y datganiad yn benodol at linyn marchnata digidol craidd Llywodraeth Cymru, fydd yn canolbwyntio ar dwristiaeth yn ogystal â marchnadoedd masnach a buddsoddi. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai ddweud ychydig mwy wrthym ni am yr ymgyrchoedd marchnata digidol fydd yn digwydd. Mae datganiad heddiw hefyd yn cyfeirio at Gŵyl Cymru a'r amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n dathlu ein diwylliant, ein celfyddydau a'n hiaith. Mae'n hanfodol ein bod ni’n adeiladu oddi ar gweithgarwch hwn ar gyfer y dyfodol. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am y trafodaethau y mae'n eu cael gyda sefydliadau fel Amgueddfa Cymru, y mentrau iaith a'r Urdd er mwyn sicrhau'r buddion mwyaf posibl mae cwpan y byd yn eu cynnig i Gymru.
Mae datganiad heddiw yn cadarnhau rhai ychwanegiadau newydd i'r tîm o lysgenhadon Cymru fydd yn cefnogi rhaglen ddigwyddiadau Llywodraeth Cymru. Mae'n wych gweld cymysgedd go iawn o leisiau i helpu i hyrwyddo Cymru i'r byd yn ystod cwpan y byd. Efallai y gallai ddweud wrthym ni pa weithgareddau penodol y bydd y llysgenhadon yn eu gwneud yn ystod cwpan y byd a sut y bydd yn mesur llwyddiant Lleisiau Cymru yn fwy cyffredinol. Wrth gwrs, mae'n iawn bod Llywodraeth Cymru yn ceisio creu gwaddol cadarnhaol a pharhaol o gwpan y byd, fel y dylai o bob digwyddiad mawr. Mae'n hanfodol nad yw Llywodraeth Cymru yn cychwyn ar yr agenda hon heb ymgysylltu'n sylweddol â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Chwaraeon Cymru ac, yn wir, randdeiliaid eraill. Felly, byddwn i’n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu ein diweddaru ar y trafodaethau diweddaraf y mae wedi'u cael gyda rhanddeiliaid ynglŷn â chreu gwaddol parhaol o gwpan y byd pan fydd y twrnamaint wedi dod i ben.
Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at gyfleoedd diplomyddiaeth chwaraeon, ac mae'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o adroddiad yr Athro Laura McAllister ar ddatblygu strategaeth diplomyddiaeth chwaraeon yng Nghymru. Mae'r adroddiad hwnnw yn cydnabod yn gywir, ar hyn o bryd, bod unrhyw fanteision i gymdeithas neu economi Cymru yn ad hoc yn hytrach nag yn rhan o strategaeth hirdymor ac yn gysylltiedig ag amcanion polisi Cymru neu Brydain yn ehangach. Nododd hefyd bod angen gwneud rhagor i fapio, mesur a gwerthuso chwaraeon yn ddigidol a'i gyfraniad i economi Cymru gartref a thramor. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni p’un a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried strategaeth diplomyddiaeth chwaraeon. Hefyd, a all ddweud wrthym ni pa waith sy'n cael ei wneud i fesur cyfraniad chwaraeon yn well i economi Cymru?
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn dysgu o arfer gorau yn y maes hwn. Yn sicr, gallwn ddysgu llawer gan Lywodraethau eraill ar draws y byd. Mae Llywodraeth Awstralia wedi gwneud gwaith sylweddol ar sut y gall chwaraeon helpu i gyflawni ei nodau polisi tramor. Felly, efallai bod lle yma i gomisiynu gwaith ar sut mae Llywodraethau eraill wedi mynd ati i wneud hyn, fel y gallwn ni ddysgu o'r arfer gorau. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn ystyried comisiynu papur ar y mater hwn. Mae cwpan y byd Qatar yn cynnig cyfleoedd economaidd sylweddol a gallai fod yn ffordd o agor y drws i gysylltiadau masnach pellach gyda gwledydd eraill, ond mae angen i ni ystyried y darlun cyfan o sut y gall chwaraeon fod yn ased economaidd. Felly, rwy'n edrych ymlaen at ddysgu mwy am y mentrau penodol mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ynddyn nhw a sut y gallant gyflwyno enillion cadarnhaol i economi Cymru. Felly ar y nodyn hwnnw, Dirprwy Lywydd, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, a gaf i ddweud 'pob lwc' anferth i Rob Page a'r tîm?
Diolch am y sylwadau a’r gyfres o gwestiynau. Fe wnaf fi geisio gwneud cymaint ohonyn nhw mor brydlon ag y gallaf, gan weld llygaid treiddgar y Dirprwy Lywydd yn edrych arnaf.
O ran gwariant y teithiau a'r manylion, rydym ni’n cyhoeddi'n rheolaidd, gyda phob ymweliad tramor mae Gweinidogion yn ymgymryd ag ef, ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r rhaglen weithgareddau a phwy sydd wedi mynychu. Rydym ni bob amser yn cyhoeddi manylion y gost. Mae hynny'n cael ei gyflwyno mewn amryw o ffurfiau. Felly, ni fydd y gost yn cael ei chuddio. Ac o ran y gwahaniaeth mae Gweinidogion yn ei wneud, mae'n rhan o'r hyn rydyn ni'n ei wneud wrth fod yn gymesur. Mae dewisiadau sy'n arwain Gweinidogion i’w gwneud ynghylch a ydyn nhw'n credu y bydd ymweliad tramor yn gwneud synnwyr, ac yna bydd angen i'r Prif Weinidog lofnodi ei fod yn cytuno bod hynny'n ddefnydd da o amser ac adnodd. Fe wnaethon ni'r dewis bod Gweinidogion yn mynychu'r ddwy gêm fwyaf yn y gemau grŵp yn ddefnydd da o amser Gweinidogion. Mae hynny'n mynd i'ch pwynt chi ynghylch beth fydd ein llysgenhadon yn ei wneud pan ddaw hi'n fater o weithredu Lleisiau Cymru a sut bydd Gweinidogion yn ychwanegu at hynny.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n anodd tanbwysleisio'r lefel ryfeddol o sylw yn y cyfryngau fydd yn Qatar i dimau sydd yno. Bydd ganddyn nhw lu o leisiau gyda materion gwahanol y byddan nhw eisiau siarad amdanyn nhw a’u hamlygu. Ac wrth gwrs, bydd diplomyddiaeth chwaraeon a diddordeb y byd chwaraeon ehangach—nid pêl-droed yn unig ond amrywiaeth o rai eraill—yn bwysig i ni. Bydd gweinidogion yn cael cyfleoedd gwahanol i gwrdd â phobl mewn gwahanol Lywodraethau a rhanddeiliaid gwahanol na fydd pawb arall yn gallu eu gwneud. Mae hynny, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth. Ac mae hynny'n tanlinellu pam y gwnaed y dewisiadau gan y Llywodraeth i fynychu dwy o'r gemau grŵp. Bydd gennym ni, gobeithio, broblem bositif i fynd i'r afael â hi ar ôl gemau’r grŵp, os yw Cymru i mewn i'r rownd nesaf. Byddai'n llawer gwell gen i fod yn siarad am ein llwyddiant parhaus yn y twrnamaint.
Pan ddaw, eto, i'r gronfa gymorth partner ei hun, rydym ni, wrth gwrs, fel yn wir mae ein partneriaid, yn mynd i fanteisio i’r eithaf ar effaith y gwariant hwnnw, nid yn unig i ddangos bod yr arian wedi'i wario yn unol â'r prosiectau, ond wedyn i ddeall effaith hynny. Rwy'n llwyr ddisgwyl, nid yn unig o ran yr enillion y byddwn ni am eu gweld o safbwynt y Llywodraeth, ond mae gan Aelodau ddiddordeb cwbl resymol a dilys i ddeall beth fu'r effaith honno ar wahanol bwyntiau mewn amser, oherwydd, i rai o'r rhain, bydd effaith uniongyrchol o ran y gweithgarwch sydd wedi bod yn adeiladu rhywfaint o'r cyffro. Er enghraifft, nid yw jamborî'r Urdd yn rhywbeth rwy'n credu y byddwch chi'n ei ddweud, 'Wel, beth fydd effaith hynny ymhen chwe mis?' ond mae'n rhan bwysig o'r ymdeimlad o undod mewn digwyddiad byd-eang nad oes yr un ohonon ni wedi ei brofi yn ystod ein hoes—o edrych o gwmpas yr ystafell—ac y gall unrhyw un ohonom ni ei gofio.
Y pwynt ehangach, felly, er hynny, y bydd angen i chi, mewn rhai meysydd, edrych ar ffrâm amser hirach i weld effaith yr holl wariant a'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud, a bydd yr Aelod yn deall hyn hefyd. Mae hynny hefyd yn wir am rai o'r pwyntiau am farchnata digidol. Fe wnaethom ni gynnig briff ar gyfer pwyllgorau pwnc, ond rwy'n gwerthfawrogi nad oes llawer o amser ar gael bob tro. Rydyn ni'n fwy na pharod i wneud yn siŵr ein bod ni'n rhannu'r marchnata sy'n mynd allan er mwyn i chi weld rhai enghreifftiau o'r hyn sy'n cael ei roi allan mewn gwahanol rannau o'r byd. Yn ogystal â hyn, wrth gwrs, rwy'n gobeithio i'r Aelodau gael gweld 'Dyma Gymru' ar-lein—cyfrif 'Dyma Gymru' ar y cyfryngau cymdeithasol a rhywfaint o gynnwys 'Croeso i Gymru' sy'n mynd allan. Ar ôl gweld rhai o'r ymdrechion mae gwledydd eraill yn eu rhoi allan, rwy'n credu bod ein un ni yn dda iawn o ran bod yn ffenest bositif iawn i Gymru, fel y dylai fod.
O ran ein llysgenhadon, yn arbennig mae gennym ni ddiddordeb yn y byd pêl-droed, y byd busnes, bwyd a diod, ac mae'n ddefnyddiol iawn bod Bryn Williams, y cogydd enwog, yno—cyfleoedd mawr yn y rhanbarth ac yn ehangach. Ac, wrth gwrs, y sgwad ddiwylliant oedd gennym ni, a Mace the Great, sydd, y dylwn i dynnu sylw ato, Dirprwy Lywydd, yn fachgen o Sblot, ond dydy pob un ohonyn nhw ddim yn etholwyr i mi. Ond, mae gennym ni amrywiaeth o bobl sydd ar fin, rwy'n credu, bod o arwyddocâd rhyngwladol go iawn, ac, unwaith eto, mae’n dangos amrywiaeth ein cynnig ni yma yng Nghymru, ac mae rhywfaint ohono y gallwn ni ond ei wneud drwy fod yn y wlad yn ogystal â'n gweithgarwch mewn mannau eraill. Wrth gwrs, bydd rhai sgyrsiau diddorol hefyd, rwy'n siŵr, o amgylch UEFA 2028, lle bu datganiad cyhoeddus blaenorol am y ffaith bod yna gais posib ar y cyd rhwng holl wledydd y DU a Gweriniaeth Iwerddon fel gwesteiwyr posib ar gyfer y twrnamaint hwnnw.
O ran chwaraeon a hyrwyddo chwaraeon fel ased economaidd, byddwn ni’n parhau i ystyried dyfodol digwyddiadau chwaraeon a p’un a oes angen strategaeth benodol arnom sydd mor wahanol i'n strategaeth ddigwyddiadau mawr, yr ydym ni yn y broses o’i hail-gomisiynu, dull ar gyfer y dyfodol, ac mae'r Aelod wedi siarad am hynny o'r blaen. Rydym ni wedi lansio ein strategaeth digwyddiadau ar gyfer y dyfodol hefyd, ac rwyf i am sicrhau ein bod ni’n gwneud pethau sy'n gyson wrth ddysgu o gyfleoedd y digwyddiad arwyddocaol hwn o flaen 5 biliwn o bobl.
Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw.
Nid wyf, mewn unrhyw ffordd, am dynnu sylw oddi ar y cyfleoedd sy’n cael eu cyflwyno gan Gymru yn ennill eu lle yng Nghwpan y Byd; mae'n arddangosfa wych—dyma'r arddangosfa fwyaf rydyn ni erioed wedi'i chael, ac rwy'n credu ei bod hi’n iawn ein bod ni’n buddsoddi yn hyn. Fodd bynnag, rwyf am roi ar gof a chadw nad ydw i’n credu y dylai cwpan y byd fod yn digwydd yn Qatar. Rydw i'n anghytuno'n llwyr â'r penderfyniad hwnnw. Roeddwn i'n ofidus ond doeddwn i ddim yn synnu clywed Sepp Blatter, cyn-lywydd FIFA, yn dweud mewn cyfweliad diweddar fod Qatar yn gamgymeriad, ei fod yn ddewis drwg. Fe wnaeth gydnabod hefyd nad oedd hawliau dynol yn rhan o'r penderfyniadau. Ac rwy'n credu, po fwyaf sy'n dod allan, yn gynyddol felly, mae'n gwneud i mi gwestiynu pam mae Llywodraeth Cymru nawr yn mynychu, gyda mwy a mwy o bobl yn cyfaddef na chafodd y pethau hyn eu hystyried.
Rydw i hefyd eisiau atgoffa pobl pam nad pryderon yn unig yw'r rhain, ond y ffeithiau y tu ôl i'r rhain. Felly, fel y gwyddom ni, hawliau gweithwyr mudol, yn 2021, cyhoeddodd The Guardian erthygl, a chanfu dadansoddiad fod 6,500 o weithwyr mudol wedi marw yn Qatar ers iddyn nhw gael eu dewis i gynnal cwpan y byd. Mae cyfanswm y marwolaethau yn debygol o fod yn sylweddol uwch, gan nad yw'r ffigyrau hyn yn cynnwys y marwolaethau o nifer o wledydd sy'n anfon nifer fawr o weithwyr i Qatar, gan gynnwys Ynysoedd y Philipinau a Kenya, na ychwaith yn cynnwys y marwolaethau o ddiwedd 2020 ymlaen. Allwn ni gymryd eiliad i fyfyrio ar hynny?
Ar ben hyn, mae cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon yn Qatar, ac mae swyddogion yn parhau i fynnu bod ymwelwyr yn parchu arferion lleol ac osgoi arddangos hoffter yn gyhoeddus. Mewn cyfweliad â Sky News, ailadroddodd gweinidog materion tramor Qatar alwadau—galwadau—i ymwelwyr 'barchu ein cyfreithiau'. Pan ofynnwyd iddo beth fyddai'n digwydd os yw dau ddyn yn cusanu neu'n dal dwylo ar y stryd, dywedodd:
'Mewn gwirionedd nid yw'r gyfraith yn caniatáu arddangos hoffter yn gyhoeddus, boed yn ddyn ac yn ddyn, neu'n ddyn ac yn ddynes. Dyna'n cyfraith ni.'
Ac mae Ysgrifennydd Tramor y DU, James Cleverly, fydd hefyd yn y twrnamaint, wedi cael ei feirniadu ar ôl iddo ddweud y dylai cefnogwyr LHDT sy'n mynd i Qatar, lle mae gweithgarwch o'r un rhyw yn anghyfreithlon, ddangos ychydig o 'ystwythder a chyfaddawd'. Allwn ni hefyd gymryd eiliad i fyfyrio ar hynny?
Rhaid i mi gyfaddef, y mwyaf sy'n dod allan, y mwyaf anghyfforddus ydw i, fel y dywedais i, y byddwn ni yno, yn mynychu. Yn amlwg, rwy'n hynod o falch y bydd Tîm Cymru yno. Rwy'n credu eu bod nhw i'w canmol am gymryd y safiad cryf yna, ac rwy'n falch y byddan nhw'n gwisgo'r band braich 'One Love'. Rwy'n falch o'n chwaraewyr ni a safbwynt Rob Page, a dylid cydnabod hynny. Ond gadewch i ni atgoffa ein hunain hefyd bod llywydd FIFA, Gianni Infantino, wedi gofyn yn ddiweddar i dimau cwpan y byd osgoi trafodaethau ynghylch materion hawliau dynol yn Qatar cyn y twrnamaint drwy ysgrifennu at arweinwyr cymdeithas y 32 gwlad sy'n cystadlu yr wythnos ddiwethaf, gan eu hannog i beidio,
'caniatáu i bêl-droed gael ei lusgo i bob brwydr ideolegol neu wleidyddol sy'n bodoli'.
Syfrdanol. Felly, fy nghwestiwn i chi, Gweinidog, rydych chi wedi dweud bod y Prif Weinidog wedi codi pryderon gyda’r llysgennad ar ran Qatar, a'ch bod chi wedi ysgrifennu llythyr yn ymwneud â'r sylwadau homoffobig a'u condemnio, ond pa ymateb gawsoch chi, a pha ymateb gafodd y Prif Weinidog? Mae'n un peth codi'r pryderon hynny, ond, drwy gymryd y safiad hwn, beth fydd mewn gwirionedd yn newid yn Qatar i bobl LHDTC+ a gweithwyr mudol gan bresenoldeb Llywodraeth Cymru yno? Beth fydd yn newid mewn gwirionedd a beth fydd y gwaddol, nid yn unig o ran gwerth economaidd o ran brand Cymru, ond i'r bobl hynny sy'n cael eu heffeithio ac sy'n cael eu herlid neu sy'n marw oherwydd yr hyn sy'n digwydd yn Qatar?
Hoffwn ofyn hefyd: pam rydym ni’n anfon dau ddyn i gynrychioli Llywodraeth Cymru? Os ydych chi'n mynd, pam nad ydyn ni'n anfon cynrychiolydd benywaidd o Lywodraeth Cymru, fel oedd y bwriad yn wreiddiol? Pa neges mae hyn yn ei hanfon i hawliau merched hefyd, sydd hefyd yn rhywbeth sy'n bryder yn Qatar? Pa neges mae'n ei hanfon ein bod ni’n anfon dau ddyn i gynrychioli Llywodraeth Cymru, os ydych chi'n mynd?
Hoffwn hefyd adleisio pwynt Paul Davies, o ran COP27. Rwy'n credu ei fod yn bwynt teg i'w godi, mewn argyfwng hinsawdd lle rydyn ni'n dweud, 'mae hon yn flaenoriaeth', ein bod ni'n blaenoriaethu mynychu dwy gêm bêl-droed cyn mynychu COP27. Mae hynny'n gwestiwn sydd angen mynd i'r afael ag ef, a hoffwn eglurder ar hynny.
Ac, yn olaf, a gaf i ofyn pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd ein cefnogwyr yn ddiogel yn Qatar? Ac os nad ydych chi'n gallu rhoi iddyn nhw, beth yw eich cyngor i unrhyw gefnogwyr LHDTC+ sydd i fod i fynd, ond sydd yn pryderu am eu diogelwch ar hyn o bryd? Rwy'n credu gyda mwy a mwy o bethau yn y wasg, yn dweud bod yn rhaid i bobl barchu arferion, mae pobl yn mynd yn fwyfwy pryderus, ac mae disgwyl iddyn nhw fod yn Qatar yn fuan iawn.
Yn yr un modd â Paul Davies, rwy'n credu ein bod ni angen gwybod pa fesurau sydd ar waith o ran y buddsoddiad, beth yw'r amcanion, beth yw llwyddiant, a hoffwn weld hynny'n cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosib er mwyn i ni weld sut bydd y buddsoddiad yna'n newid. Ond y peth pwysicaf yw: sut fydd hyn yn newid pethau i bobl yn Qatar? Beth fydd y gwaddol hwnnw?
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Edrychwch, rydym ni wastad wedi cydnabod mai penderfyniad FIFA yw cynnal y twrnamaint mewn unrhyw wlad. Nid wyf yn credu bod ymyriadau diweddar Sepp Blatter wedi bod yn ddefnyddiol, nac ychwaith yn credu eu bod nhw wedi'u cynllunio i fod yn ddefnyddiol. Mae yna bwynt ehangach bod gwleidyddiaeth ym mhob sefydliad, ac yn sicr mae digon o wleidyddiaeth o fewn FIFA.
O ran ble mae'r twrnamaint nawr, ein dewis ni yw: nawr ein bod ni wedi ennill ein lle, beth yw ein dewis ni o ran sut rydyn ni'n cefnogi ein tîm, a beth mae hynny'n ei olygu i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru? A dyna rwyf wedi'i nodi. Dyma beth wnes i ei nodi ym mis Awst, ac yna yn y datganiad yn y Senedd ar 27 Medi, a'r hyn rydw i'n ei ailadrodd eto heddiw yn ein hymgysylltiad rheolaidd.
O ran hawliau LHDTC+, rwy'n credu ein bod ni wedi bod yn glir ynglŷn â'r ffaith bod gennym ni, wrth gwrs, wahaniaeth, nid yn unig yn ein cyfreithiau, ond yn ein gwerthoedd, ac mae hynny'n rhan o'n hymgysylltiad â gwahanol rannau o'r byd. Ac fe nododd y Prif Weinidog y datganiad penodol ynglŷn ag ymgysylltu â gwledydd nad ydym ni’n rhannu gwerthoedd gyda nhw. Yr her bob amser yw os ydych chi'n ymgysylltu neu beidio, ac os ydych chi'n ymgysylltu, sut rydych chi'n mynd ati i ymgysylltu mewn ffordd sy'n gadarnhaol am bwy ydyn ni yn y wlad hon, ac i fod yn falch o hynny.
Mater o gyd-ddigwyddiad yn hytrach na dewis bwriadol yw ein bod ni wedi dewis yr holl lysgenhadon sydd gennym ni, os mynnwch chi, y ffaith bod un ohonyn nhw'n ddu, y ffaith bod gennym ni ddwy fenyw, y ffaith bod dwy ohonyn nhw yn hoyw. Mae hynny'n syml oherwydd fod ganddyn nhw lawer iawn i’w gynnig: Laura McAllister ym myd diplomyddiaeth chwaraeon, mae hi wir ynghlwm yn y byd hwn—byddwch chi'n gwybod hyn hefyd—ar draws pêl-droed dynion a menywod; Colin Jackson, gyda dilyniant rhyngwladol enfawr, a bydd yn gallu dod â llawer gydag ef; Bryn Williams, yr hyn a ddaw yn ei sgil ef, cogydd enwog, a bwyd a diod yn gyfle go iawn o fewn y rhanbarth hwnnw ond yn fras ar draws y byd; ac mae Katie Owen o Ferthyr yn rhywun sydd wedi cael apêl sylweddol i gynulleidfa llawer iau—mae gen i ofn llawer iau na fi fy hun, fel arfer, mae'n rhaid i mi gydnabod bod y dyddiau hynny pan oeddwn i’n ifanc wedi hen fynd. Ond rydym ni'n fwriadol yn dewis pobl rydyn ni'n meddwl all ychwanegu at Gymru ac mae hynny'n mynd ochr yn ochr â llysgenhadon Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd. Mae Ian Rush a Jess Fishlock yn bobl y bydd cefnogwyr pêl-droed ar draws y byd yn eu hadnabod, ac yn enwedig Jess Fishlock, gan mai hi oedd chwaraewr mwyaf gwerthfawr y llynedd ym mhêl-droed merched yn yr Unol Daleithiau. Mae Jess Fishlock a Laura McAllister wedi bod yn glir iawn am eu barn a'u gwerthoedd, a dydw i ddim yn disgwyl iddyn nhw stopio. Rydyn ni wedi dewis pobl fydd yn ychwanegu at frand Cymru a beth rydyn ni'n mynd i allu ei wneud ar lwyfan byd-eang, a byddwn ni'n falch o bob un o'r rheini, yn ogystal â'r tîm.
O ran y sicrwydd a roddwyd i ni, rydym ni wedi cael yr un neges, a dweud y gwir, am arddangos hoffter cyhoeddus rhwng unrhyw gwpl, a phan ymwelais â Qatar o'r blaen, roedden nhw’n glir iawn nad yw arddangos hoffter yn gyhoeddus yn digwydd rhwng dynion a menywod. Nid dyna eu disgwyliad nhw. Yr her, serch hynny, yw bod y sicrwydd yr ydym ni wedi’i geisio ac wedi ei dderbyn am ddiogelwch ein cefnogwyr, a'r negeseuon clir iawn gan y bobl sy'n rhedeg y twrnamaint, yw bod croeso i bawb. Dyna pam roeddwn i wedi fy nychryn—. Wel, waeth am hynny, cefais fy nychryn beth bynnag gan sylwadau'r llysgennad pêl-droed. Dyna pam wnes i eu condemnio nhw'n syth ar ôl eu clywed. Dyna pam rwyf i wedi ysgrifennu at lysgennad Qatar y DU, oherwydd eto, pan wnaeth y Prif Weinidog gwrdd ag ef, cafodd sicrwydd fod croeso i bawb. Dydw i ddim wedi cael ymateb. Nid yw’n anarferol i beidio derbyn ymateb o fewn wythnos. Ond rhan o'r pwynt yw nodi'n glir iawn ein disgwyliadau ni ein hunain a'r ffaith ein bod ni’n disgwyl i'n cefnogwyr allu bod wir yn nhw eu hunain, ond deall y bydd rhai pobl yn dewis peidio mynd yno. Ac mae'n rhesymol i bobl ddweud na fyddan nhw'n mynd yno.
Dydyn ni ddim mewn sefyllfa ble rydyn ni'n dweud mai barn Llywodraeth Cymru yw'r unig farn gywir a derbyniol; bydd gwahanol bobl yn gwneud dewisiadau gwahanol, ac mae angen i ni barchu eu hawl i wneud hynny. O ran sut mae pobl yn cael eu trin, rydyn ni eisiau gweld y sicrwydd yn cael ei ddiwallu a’i wireddu. Dyna pam rydym ni wedi ymgysylltu â heddluoedd nid yn unig y DU ond gyda thîm llysgenhadaeth Prydain yn Qatar, yn fy ymweliad cynharach ac ers hynny hefyd, a dyna pam mae llysgenhadaeth y DU yn disgwyl cael mwy o adnoddau ar gael iddo; gyda chefnogwyr Lloegr a Chymru yn ymddangos yn y wlad a'r rhanbarth ehangach, gallant ddisgwyl cael mwy o geisiadau am gymorth consylaidd nag y byddent fel arfer yn ei ddisgwyl yr adeg hon o'r flwyddyn. Felly, mae'n ymgymeriad sylweddol, a byddwn yn parhau â'r ymgysylltu sydd gennym ni, ac mae'n un o'n prif amcanion i wneud yn siŵr bod ein cefnogwyr yn ddiogel.
O ran diddordeb yn y rhanbarth yn y dyfodol, rhan o'r rheswm rydyn ni'n ymgysylltu nawr yw oherwydd ein bod ni eisiau bod yn ni ein hunain, rydyn ni eisiau i bobl weld Cymru fel y mae heddiw, ac mae'n rhan o'r hyn rydyn ni'n meddwl y gallwn ni ei wneud i helpu i newid rhannau eraill o'r byd. Er hynny, byddwn hefyd am gynnal diddordeb yn nyfodol y wlad a'r rhanbarth ehangach. Ac ar hawliau gweithwyr, mae Qatar wedi gwneud mwy o gynnydd na gwledydd eraill yn y rhanbarth. Mae ganddyn nhw swyddfa ar gyfer y Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn Qatar; nid oes gan wledydd eraill yn y rhanbarth hynny. Pan wnaeth y Prif Weinidog gyfarfod Cyngres ryngwladol yr Undebau Llafur â'r TUC—roedd yn gyfarfod ar ein menter ni ac fe wnaethom ni ofyn am y cyfarfod—fe wnaethon nhw roi diweddariad i ni ar y sefyllfa. Maen nhw wedi gwneud newidiadau i'r gyfraith cyflogaeth. Bydd rhai o'r newidiadau diwylliannol yn y ffordd mae pobl yn trin gweithwyr yn cymryd mwy o amser, fel y mae yn y wlad hon pan fyddwn ni'n newid hawliau cyflogaeth. Yn aml mae'n cymryd amser i bobl ddal fyny. Ond maen nhw'n dweud, mae'r TUC rhyngwladol yn dweud eu bod nhw’n gweld cynnydd yn Qatar eu bod nhw am gael eu cydnabod, ond eu bod am iddo gael ei adeiladu arno. Does neb, rwy'n credu, yn awgrymu bod y sefyllfa ar hawliau gweithwyr heddiw fel y bydden ni'n dymuno iddo fod yn y wlad honno na'r rhanbarth hwnnw am byth. Felly, mae'n ymwneud â chynnal ein diddordeb a chwyddo llais llafur cyfundrefnol o fewn y wlad honno beth bynnag. Ac eto, mae hynny'n rhan o'r hyn y byddwn ni'n ei wneud.
Pan ddaw, wrth gwrs, at yr hyn rydym ni’n ei wneud ein hunain, mae CBC wedi bod yn glir iawn: maen nhw eisiau i ni fod ar y daith gyda nhw. Maen nhw am i ni fod yn bresennol i'w cefnogi yn y wlad yn y gemau, ac roedd yn bleser mawr gallu mynychu sesiwn hyfforddiant cyhoeddus olaf y garfan heddiw a bod yn rhan o'r broses ffarwelio. Ond mae angen i ni gydnabod hefyd, fel cenedl ar wahân o fewn y DU, nad yw'n ymwneud yn unig â p’un a yw Gweinidogion Cymru yno, y realiti yw, os nad ydym ni yno, y bydd cynrychiolaeth gan y Llywodraeth; yn syml, bydd Llywodraeth y DU yno yn y rhanbarth ar ein rhan ni a byddent yn cymryd yr holl ymrwymiadau a chyfweliadau dan gyfarwyddyd y Llywodraeth yn lle Llywodraeth Cymru. Dydw i ddim yn credu mai dyna'r cydbwysedd cywir; rwy'n credu y dylem ni fod yno. Dylen ni fod yn falch o'r tîm a'u cefnogi nhw ac ymgysylltu yn y ffordd y gwnaethom ni ddweud y bydden ni'n ei wneud.
Rwy'n falch o'r ffaith, nid yn unig bod ein cymdeithas bêl-droed ni ond cymdeithasau pêl-droed eraill UEFA, y 10 ohonyn nhw, wedi ymateb i lythyr FIFA, a oedd, yn fy marn i, yn cynnwys barn wael ac yn bryfoclyd, ac fe gafodd yr ymateb yr oedd yn ei haeddu gan wledydd UEFA. Mae pob un ohonyn nhw'n mynd i wisgo'r band braich 'One Love', achos mae'n ddewis nid gan y cymdeithasau ond gan y timau. Ac unwaith eto mae hynny'n siarad â gwerthoedd y mae'r cenhedloedd wedi bod yn eu codi cyn y twrnamaint ac y byddant yn parhau i wneud hynny yn ystod y peth. Ein gwaith ni yw rhoi llwyfan i'r chwaraewyr lwyddo, iddyn nhw godi materion fel maen nhw wedi gwneud yn barod, ac i'r Llywodraeth eu cefnogi a gwneud yn glir, mewn gwirionedd, nid eu gwaith nhw yw bod yn wleidyddion yn hyn i gyd ac mae rôl i ni yn y Llywodraeth. Ac edrychwch, rwy'n gwybod y tro diwethaf i ni gael y sgwrs hon, ar 27 Medi, fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi’n dymuno y gallech chi fynd ar yr awyren gyda ni i Qatar. Bydd sgwrs am yr hyn rydyn ni i gyd eisiau gallu ei wneud wrth gefnogi'r tîm a sut rydyn ni'n gwneud hynny, p'un a ydyn ni yn Qatar neu beidio, ac eisiau gweld gwaddol ar y cae ac oddi arno, yng Nghymru, ledled y byd ac, wrth gwrs, yn y rhanbarth.
Prynhawn da eto, Gweinidog. Rwyf eisiau cofnodi fy nghefnogaeth i dîm Cymru. Gobeithio y byddant yn dod yn ôl gyda chwpan y byd. Oni fyddai hynny yn anhygoel? Gobeithio y bydden ni'n eu gweld nhw gyntaf yma yn y Senedd. Ond fe fyddwch chi'n gwybod bod Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ledled y DU yn condemnio Gweinidogion yn mynd o Gymru i gwpan y byd Qatar, a gobeithio efallai y byddai Plaid Cymru'n ymuno â ni yn y sefyllfa yna hefyd.
Mae gen i dri chwestiwn i chi yn yr amser sydd gen i. Mae un yn cael ei ailadrodd am y trydydd tro, ac rwy'n gwerthfawrogi bod gennych chi lawer o gwestiynau, ond pam nad aeth Llywodraeth Cymru i COP27 ar y sail eich bod chi'n mynd i fod yn gwario milltiroedd aer, ac eto mae llawer o bobl yn y tîm hwn yn mynd i ffwrdd i Qatar? Yr argyfwng hinsawdd yw ein bygythiad mwyaf, a hefyd o bosib ein cyfle economaidd mwyaf hefyd. Yr ail gwestiwn: pam eich bod chi wedi gwneud penderfyniad i beidio â mynychu gêm Iran yn seiliedig ar hawliau dynol, ac rydych chi'n mynd i Qatar o hyd, sydd fel rydych chi wedi clywed yn cael ei amlinellu ag un o'r cofnodion hawliau dynol gwaethaf mewn perthynas â menywod, pobl hoyw a gweithwyr o wledydd eraill? Ac rwy'n deall eich bod chi eisiau codi gwerthoedd Cymru, ond mae gennych chi swyddfa yn Qatar, rydych chi wedi bod â swyddfa yn Qatar ers nifer o flynyddoedd, ac rwy'n deall eich bod chi'n mynd i barhau gyda hynny. Nid oes angen i Weinidogion Cymru fynd, ac rwy'n eich annog i ailystyried y penderfyniad hwnnw. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n cydnabod y safbwynt mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi'i chymryd. Fel y dywedais, mae'n gwbl ddilys i bobl fod â barn wahanol ynghylch a ddylai Gweinidogion Cymru fod yno ai peidio. Wedi'r cyfan, rydym ni’n ffodus i fyw mewn democratiaeth weithredol, lle mae gan bobl farn wahanol, ac rydym ni yma i'w trafod a'u dadlau. O ran Iran, gwnaed y dewis ynghylch a oedd yn gymesur i Weinidogion Cymru fynychu gêm Iran. Y ddau gyfle mawr i hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd-eang yw'r gêm UDA, ac mae'r UDA yn un o'n marchnadoedd allweddol lle rydym ni am ehangu ac ymgymryd â mwy o weithgaredd. Byddaf i yn yr Unol Daleithiau ar adeg y gêm rhwng UDA a Chymru, gyda chyfres o ymrwymiadau gyda’r cyfryngau a chwrdd â chyfleoedd datblygu busnes a chyfleoedd i fuddsoddi. Mae'n gyfle arwyddocaol iawn. A hefyd, ein Prif Weinidog, pwy bynnag y bydd ar ôl i dîm y dynion ennill eu lle eto am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd—rwy'n credu ei bod hi'n iawn fod ein Prif Weinidog ni yno ar gyfer ein gêm gyntaf yn y twrnamaint hwn. Dyma'r digwyddiad mwyaf yn y byd—yn fwy na'r Gemau Olympaidd. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni yno yn cael ein cynrychioli gan Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, nad oedd yn bodoli 64 o flynyddoedd yn ôl wrth gwrs.
O ran cymesuredd mynychu, dyna'r dewis rydyn ni wedi'i wneud ynglŷn â lle rydyn ni'n meddwl y gallwn ni gael y budd mwyaf o'n presenoldeb. Ac wrth gwrs mae'r gêm yn erbyn Lloegr, rwy'n credu, yn un dda i ni, nid yn unig oherwydd fy mod i'n bositif am y canlyniadau, o bosib, ar y cae, ond, os ydych chi'n meddwl am y ffordd mae llawer o'r rhannau o'r byd mewn gwirionedd yn gweld Prydain, maen nhw'n aml yn gweld y DU, Prydain a Lloegr fel bod yn gyfystyr â'i gilydd, yr un fath. Mae cael gêm yn erbyn Lloegr yn y digwyddiad byd-eang mwyaf, rwy'n credu, yn ffordd gadarnhaol iawn o dynnu sylw at y ffaith bod Cymru a Lloegr yn rhannau gwahanol o'r DU, a bydd Gweinidogion Cymru yn cael y cyfle i dynnu sylw at hynny yn ein hymgysylltiadau yn y rhanbarth ac yn wir ledled y byd. Mae'n rhan o'r rheswm y mae ein hymgyrch farchnata yn bwysig i nodi pwy yw Cymru, ble rydyn ni, a beth yw'r cyfleoedd i ymweld ac, yn wir, wrth gwrs, i fuddsoddi yn nyfodol ein gwlad.
Mae pwynt am beth sy'n gymesur a'r cydbwysedd wrth wneud gwahanol bethau, ond mae hefyd yn dod yn ôl i'r pwynt am COP27: beth fydden ni wedi ei gyflawni drwy Weinidogion yn mynd i hynny ar ôl y gynhadledd ddigwyddodd yma yn Glasgow? Ac mae'r cydbwysedd yn ymwneud â defnyddio amser gweinidogol a'r hyn rydyn ni'n meddwl ein bod ni'n ei ennill. Rydyn ni'n credu y byddwn ni'n ennill o gael Gweinidogion yn y ddwy gêm hynny, ac yn wir y gweithgareddau eraill rydyn ni'n eu noddi. A rhan o'r pwynt cael swyddfa yno: dydy bod â swyddfa wedi ei staffio gan weithwyr Llywodraeth Cymru ddim yr un fath â chael presenoldeb gweinidogol. Pan es i Qatar fy hun, a chyn hynny pan es i i'r Emiradau Arabaidd Unedig, roedd amrywiaeth o ymrwymiadau dim ond oherwydd presenoldeb gweinidogol y gwnaethom ni eu sicrhau, a'r realiti yw ei fod yn helpu i agor mwy o ddrysau ac i gael mwy o sgyrsiau, ac mae'n dweud rhywbeth am pa mor o ddifrif rydych chi'n cymryd yr ymgysylltiad a'r ymateb rydych chi'n ei gael yn ôl gan bobl. Nid datblygiad busnes yn unig yw hynny; dyna'r pwynt hefyd am godi ein materion, am fyw ein gwerthoedd a'r datganiadau rydyn ni'n eu gwneud. O gael ein swyddfa’n dweud, 'Dyma pwy yw Cymru', nid yw'r un peth â chael y Prif Weinidog na Gweinidog Cabinet gwahanol yn Llywodraeth y wlad honno yn gwneud y datganiadau hynny, boed yn Qatar neu yn y byd ehangach. Felly, rwy'n credu, gyda pharch, fod rhesymau da dros i ni wneud hynny, fel yr ydym ni, ond rwy'n derbyn bod gan eraill berffaith hawl i fod â safbwynt amgen.
Gweinidog, yn ogystal â hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd-eang, sydd wrth gwrs yn hanfodol, ac yr ydym yn ei gefnogi'n llawn—mae'n hanfodol ein bod hefyd yn manteisio ar yr ymgysylltu a'r brwdfrydedd a'r eiddgarwch newydd gartref, i sicrhau'r effaith gadarnhaol, hirhoedlog yr ydych yn siarad amdano yn agoriad eich datganiad ac wrth gwrs y mae arnom ni i gyd eisiau ei weld. Yn ddelfrydol, byddai gennym ni eisoes y cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru i fanteisio'n wirioneddol ar yr hyn rwy'n siŵr a fydd yn cynyddu'r niferoedd fydd yn eu defnyddio yn ystod ac ar ôl cwpan y byd. Gweinidog, ydych chi'n cytuno bod angen i ni adeiladu ar ein llwyddiant ym myd chwaraeon? Yn anffodus—. Mae'n ddrwg gennyf i. Yn anffodus, mae llwyddiant tîm cenedlaethol Cymru er gwaethaf diffyg buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cyfleusterau chwaraeon dros y ddau ddegawd diwethaf, ac nid o'u herwydd. Ydych chi'n cytuno â mi bod angen i ni adeiladu ar ein llwyddiant ym myd chwaraeon, manteisio ar y brwdfrydedd newydd hwn yr ydym yn ei weld ac y byddwn yn ei weld, ac a ydych chi'n cydnabod yr angen i fynd ymhell y tu hwnt i'r hyn yr ydych chi wedi ymrwymo i gyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru, i fod yn gydradd o leiaf ag Iwerddon, Lloegr a'r Alban a'r hyn y maen nhw'n ei fuddsoddi yn eu cyfleusterau chwaraeon a dod o hyd i sêr y dyfodol yn eu gwledydd? Ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon, gobeithio, Gweinidog, y byddwch yn ystyried dod i'r grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon yn arbennig ar gyfer cwpan y byd, a gynhelir fis nesaf gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, y BBC ac ITV, fel y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd a thrafod sut orau y gallwn ni elwa yn sgil yr achlysur rhyfeddol hwn. Pob lwc, Cymru.
Fe wnaf i roi sylw i'r cwestiynau penodol, ac yna ymdrin â'r gorffeniad mwy unedig. Edrychwch, fel y gŵyr Laura Anne Jones yn iawn, rydym ni wedi ymrwymo yn y gyllideb gyfalaf i fuddsoddi'n sylweddol mewn gwella cyfleusterau chwaraeon. Mae'r rhaglen fuddsoddi mewn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—rydym ni wedi sicrhau ein bod yn darparu cyfleusterau nad ydyn nhw'n addas i ysgolion yn unig, ond at ddefnydd y gymuned hefyd. Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol i wneud hynny ac yn falch o wneud hynny. Ond, fel y gŵyr yr Aelod, mae ein gallu i fuddsoddi mwy o gyfalaf yn gysylltiedig â'r cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac rydym ni wedi gweld toriad ariannol mewn cyfalaf yn y cyfnod adolygu gwariant diwethaf. Rydym ni wedi cael degawd o gyni, ac ni all yr Aelod ddod yma, a hithau wedi bod yn gefnogwr tymor hir o gyni a'r toriadau a wnaed, ac yna mynnu y caiff mwy o arian ei wario er gwaethaf y toriadau ariannol mewn termau real a gawsom ni. Os oes arnoch chi eisiau buddsoddi mwy o arian mewn cyfleusterau chwaraeon, yna mae angen i chi geisio dweud wrthym ni o ble ddaw'r arian hwnnw, yn hytrach na cheisio ei dynnu o'r awyr gyda hudlath. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n ergyd wleidyddol siomedig gan y blaid nad yw'n dwyn unrhyw berthynas â realiti, ac roeddwn i'n meddwl y gallai rhywfaint o ostyngeiddrwydd gan Geidwadwyr ar ôl teyrnasiad dros dro trychinebus Truss a Kwarteng fod yn fwy priodol.
O ran eich sylw olaf, os ydw i ar gael, byddwn i'n hapus iawn i ymuno â'r Aelodau i edrych ar waddol ehangach cwpan y byd, ac, yn wir, gall pob un ohonom ni, rwy'n credu, gytuno i gyd: pob lwc, Cymru, Robert Page, a'r holl dîm.
Ie, wir. Pob lwc, Cymru. Felly, dyna ddiwedd ar y datganiad yna. Diolch i'r Gweinidog.