Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth agor y ddadl hon heddiw, a gofyn i chi nodi adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg am y flwyddyn 2021-22, mae yna wrth gwrs elfen o dristwch wrth gofio am Aled Roberts. Roedd cyfraniad Aled fel Comisiynydd y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn yn flaengar, ac yn gosod sylfaen ac arweiniad cadarn i’r gwaith. Er i gyfnod Aled fel comisiynydd gael ei dorri’n fyr, heb os, fe wnaeth ei farc ar y swydd ac ar y Gymraeg. Fel Comisiynydd y Gymraeg, fe wnaeth Aled achub ar bob cyfle i ysbrydoli ac i gefnogi’r rhai a oedd angen cymorth a chyngor, a bu'n lladmerydd cryf dros siaradwyr Cymraeg. Doedd e ddim yn ofni ein herio ni fel Gweinidogion, ac roedd ei frwdfrydedd, yn enwedig dros wella cynllunio addysg Gymraeg, yn amlwg i bawb. Ar lefel bersonol, roedd Aled yn gymeriad caredig ac onest, llawn hiwmor, ac yn golled enfawr i’w deulu ac i’w gymuned. Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn cofio am Aled yma heddiw wrth draddodi’r adroddiad blynyddol, ac yn cofio am ei gyfraniad pwysig.
Rwy’n ddiolchgar iawn i Gwenith Price, dirprwy gomisiynydd y Gymraeg, am arwain y sefydliad mor effeithiol ers mis Chwefror. Mae wedi bod yn gyfnod anodd i’r staff, ond rwy’n ddiolchgar i Gwenith ac i’r holl staff am sicrhau bod gwaith y comisiynydd wedi parhau yn ddi-dor. Pwysig hefyd yw nodi fy niolch i aelodau panel cynghori’r comisiynydd, ac i'r pwyllgor archwilio a risg, am fod yn gefn i Gwenith.
Mae nawr hefyd yn gyfle i ni edrych ymlaen, ac o ran hynny, mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi mai Efa Gruffudd Jones sydd wedi’i phenodi fel Comisiynydd y Gymraeg. Bydd Efa yn dechrau fel comisiynydd ar 9 Ionawr. Mae’r Gymraeg wedi bod yn ganolog yng ngyrfa Efa, fel cyn-brif weithredwr yr Urdd am 12 mlynedd, ac nawr fel prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ers chwe mlynedd. Mae ganddi brofiad helaeth o gefnogi siaradwyr Cymraeg, o ddenu siaradwyr newydd ac o weithio tuag at gynyddu defnydd o'r Gymraeg. Rwy'n disgwyl ymlaen i weithio gydag Efa i sicrhau mwy o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg a'r rheini sy'n dysgu'r iaith i ddefnyddio'r Gymraeg, a chydweithio ar y nod ehangach o gynyddu defnydd.