Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Mae gan Comisynydd y Gymraeg rôl bwysig fel rheoleiddiwr, a hefyd o ran gweithredu 'Cymraeg 2050'. Fel eiriolwr dros faterion Cymraeg, mae'n bwysig bod y comisiynydd yn herio'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill o bryd i'w gilydd i sicrhau cynnydd a gwella parhaus o ran ymwneud pobl â sefydliadau a'r Gymraeg. Mae'r adroddiad blynyddol yn mynd â ni ar daith drwy waith y comisiynydd, gan nodi uchafbwyntiau o'r hyn a gyflawnwyd ym meysydd fel hawliau, dylanwadu ar bolisi, datblygu isadeiledd a hybu defnyddio'r Gymraeg gan fusnesau ac elusennau.
Rwy'n falch o weld rhai enghreifftiau yn yr adroddiad o le mae gwaith y comisiynydd o orfodi safonau wedi arwain at welliannau yn y gwasanaethau mae pobl yn eu derbyn. I mi, mae hynny'n elfen hollbwysig o waith y comisiynydd. Rhaid i ni edrych ar y drefn safonau fel ffordd o wella gwasanaethau a chynyddu defnydd o'r Gymraeg. Rhaid helpu cyrff a defnyddwyr fel ei gilydd i gynnig ac i ddefnyddio gwasanaethau.
Mae ymrwymiad y Llywodraeth trwy'r cytundeb cydweithio i wella gwasanaethau Cymraeg ac i roi hawliau i ddefnyddwyr trwy'r drefn safonau yn gadarn. Fe wnes i lywio'r safonau i reoleiddwyr iechyd trwy'r Senedd cyn toriad yr haf, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar baratoi set o safonau i'r cwmnïau dŵr, i fwrw ymlaen â'r rhaglen sydd yn y cytundeb cydweithio.
Mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn rhestru rhai pethau maen nhw wedi gwneud i ddylanwadu ar bolisi, ac mae rôl y comisiynydd yn hynny o beth yn bwysig. Mae angen atgoffa cyrff cyhoeddus—ac rwy'n cynnwys y Llywodraeth yn hynny—o beth gallwn ni ei wneud i helpu'r Gymraeg i ffynnu drwy brif-ffrydio astudiaethau Cymraeg o'r cychwyn wrth ddatblygu polisi.
Rwy'n falch o beth rŷm ni fel Llywodraeth wedi cyflawni dros y flwyddyn diwethaf. Rŷm ni wedi lansio'r comisiwn cymunedau Cymraeg. Rŷm ni wedi gweithio gydag awdurdodau lleol ar y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg newydd i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, ac wedi lansio polisi newydd i roi gwersi Cymraeg am ddim i bobl oed 16 i 25, ac i'r gweithlu addysg.
Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i sefydlu cwmni Adnodd i sicrhau bod digon o adnoddau Cymraeg a dwyieithog ar gael i gefnogi'r cwricwlwm newydd. Rŷm ni'n gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynyddu'r cyfleoedd i wneud prentisiaethau ac addysg alwedigaethol trwy'r Gymraeg. Rŷm ni hefyd wedi cydweithio gyda Microsoft er mwyn sicrhau bod modd cynnal cyfarfodydd dwyieithog gyda chymorth cyfieithydd ar y pryd ar Teams.
Yn ganolog i'r holl ddatblygiadau hynny yw ffocws y Llywodraeth ar gynyddu'r niferoedd sy'n siarad Cymraeg, a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Rwyf wedi dweud sawl gwaith ers bod yn Weinidog dros y Gymraeg fod y Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ni, yma yn y Senedd, yn y Llywodraeth, ac, yn bwysicaf oll, ym mhob man arall yng Nghymru.