8. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2021-22

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 15 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:52, 15 Tachwedd 2022

Fel eraill, liciwn i ddechrau fy nghyfraniad i y prynhawn yma drwy dalu teyrnged i Aled Roberts. Mi wnes i wasanaethu fan hyn gydag Aled, a dwi'n cofio gweld ei wyneb draw fan yna ble roedd e'n eistedd ac yn gwenu ar draws y Siambr. Beth bynnag oedd pobl yn ei ddweud, roedd gwên ar wyneb Aled ac roedd wastad gair gwresog yn yr ystafell de ar ôl unrhyw drafodaeth. Roedd hi'n bleser gwasanaethu fan hyn gydag Aled, ac roedd hi'n bleser gweithio gyda fe ar ôl hynny. Gwleidyddion fel Aled ydy'r gorau ohonom ni, a dwi'n gwybod bod pob un ohonom ni yn gweld colled yn ei le fe yn ystod y cyfnod ers ei golli e. Mae eisiau mwy o wleidyddion fel Aled Roberts, sydd yn gallu ymestyn ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac sy'n gallu gwasanaethu ei gymuned yn y ffordd wnaeth e. Dwi'n cofio clywed y newyddion ei fod e wedi cael ei benodi fel comisiynydd, ac rôn i'n gwybod bod y swydd yn saff yn ei ddwylo e. Dŷch chi'n gwybod, pa bynnag her dŷn ni i gyd yn wynebu, pan fo rhywun fel Aled yn gwasanaethu yn y rôl, rwyt ti'n gallu cael ffydd mi fydd y rôl yn cael ei llenwi yn y ffordd y buasai pob un ohonom ni eisiau ei weld. Mae hynny'n brin iawn, yn aml iawn, mewn gwleidyddiaeth.

Wedi dweud hynny, dwi hefyd yn croesawu, wrth gwrs, penodiad Efa Gruffydd Jones. Mi oedd hi'n ymddangos gerbron y pwyllgor diwylliant rai wythnosau'n ôl, ac roedd hi'n gadarn yn y ffordd wnaeth hi ateb ein cwestiynau a'r ffordd roedd hi'n trafod polisïau—polisïau'r Llywodraeth, polisi 'Cymraeg 2050'—ond hefyd y ffordd roedd hi'n deall beth oedd anghenion rôl fel comisiynydd. A dwi yn meddwl, bob tro mae yna gomisiynydd newydd, mae'n rhaid i ni feddwl beth ydy'r ffocws yn mynd i fod ar gyfer y comisiynydd newydd, ble mae polisi yn mynd i fynd, a beth yw'r blaenoriaethau. A dwi yn meddwl bod yn rhaid i ni newid ambell waith y ffocws a'r blaenoriaethau fel dŷn ni'n symud ymlaen, i gydnabod y cyd-destun gwahanol a newydd, ac i gydnabod y cyd-destun sy'n newid gydag amser.

Wrth lansio 'Cymraeg 2050' roeddwn i eisiau gweld her i'r Llywodraeth. Roedd angen i'r Llywodraeth newid. Doedd y Llywodraeth ddim yn gweithredu yn y ffordd fuasai wedi cefnogi'r Gymraeg yn y ffordd y dylai'r Llywodraeth wneud. Ac rôn i'n gwybod—a dwi'n falch iawn o gefnogaeth y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones—bod rhaid newid pethau, a'n herio ni fel gwlad hefyd, achos Cymry fydd yn siarad Cymraeg, nid jest gweision sifil ym Mharc Cathays. Y Cymry fydd yn adnewyddu'r Gymraeg—y rhai ohonon ni sy'n siarad Cymraeg, yn dysgu Cymraeg, yn defnyddio'r Gymraeg. Dwi'n cofio trafod gyda Carwyn sut roedden ni'n mynd i lansio’r polisi, ac mi ddaeth aelodau o dîm pêl-droed Cymru at ei gilydd mewn ysgol ddim yn bell o fan hyn. Chris Coleman oedd y rheolwr ar y pryd, ac roedd e'n sôn sut roedd yr FAW wedi trio defnyddio'r Gymraeg, normaleiddio'r Gymraeg, os dŷch chi'n licio, yn ystod yr Ewros oedd newydd fod ar y pryd. A dŷn ni'n edrych nawr ymlaen at yr wythnos nesaf, ac yn ymfalchïo o weld Cymru yn chwarae yng nghwpan y byd, ac yn ymfalchïo hefyd yn y diwylliant newydd sydd wedi tyfu trwy gyfrwng y Gymraeg, a ble mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn gwbl naturiol wrth gefnogi'r tîm. Dwi'n edrych ymlaen at gefnogi Cymru yr wythnos nesaf, ac edrych ymlaen hefyd at sut rŷn ni'n defnyddio'r Gymraeg. 

Pan dŷn ni yn meddwl amboutu herio'r Llywodraeth, mae'n rhaid i ni hefyd herio ein gilydd. Gormod o weithiau dwi'n clywed, yng nghyd-destun trafodaeth polisi y Gymraeg, y polisi iaith, nad ŷn ni'n fodlon herio ein gilydd yn ddigon aml. Mi wnes i ddweud hyn wrth Cymdeithas yr Iaith rai wythnosau yn ôl. Mae gwaith newydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd, gwaith sydd yn hynod o bwysig. Mae penodiad y Gweinidog o Simon Brooks i edrych ar ddyfodol cymunedau Cymraeg yn benodiad hynod o bwysig, a dwi'n croesawu hynny. Dwi'n croesawu tôn y Gweinidog hefyd, a dwi'n croesawu'r ffordd mae'n fodlon ystyried sut rŷn ni'n cynllunio addysg Gymraeg ar gyfer y dyfodol. Mae yna her newydd. 

Ond liciwn i gynnig her arall olaf yn yr amser sydd gen i y prynhawn yma. Dwi'n meddwl bod angen edrych ar y ddeddfwriaeth sydd gyda ni i gefnogi'r polisi 'Cymraeg 2050'. Dwi ddim yn credu bod y safonau yn ddigonol. Dwi ddim yn credu bod pwyslais rheoleiddio yn mynd i hybu'r Gymraeg, neu greu hyder i siarad a defnyddio'r Gymraeg. Ac mi ddywedaf hyn gyda phob parch at Heledd—a dwi'n croesawu cyfraniad Heledd gyda llaw—ond fel rhywun sydd wedi dysgu Cymraeg, a gaf jest ddweud hyn? Pan oeddwn i'n dysgu Cymraeg, doeddwn i ddim yn dysgu Cymraeg oherwydd roedd safonau neu hawliau yn y cefndir. Doeddwn i ddim yn dysgu Cymraeg oherwydd y fath o reoleiddio oedd ddim yn digwydd ar y pryd. Rôn i'n dysgu Cymraeg oherwydd beth oedd y Gymraeg, a natur y bywyd dŷn ni'n gallu byw drwy gyfrwng y Gymraeg, y ffaith bod y Gymraeg yn gallu newid eich bywyd chi. A dwi'n credu bod rhaid i ni siarad dim jest gyda'r Cymry sy'n siarad Cymraeg ac yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd anyway, ond y Cymry sydd ddim yn siarad Cymraeg, y Cymry sydd wrthi yn dysgu Cymraeg, y Cymry heb yr hyder i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd. A dyna lle mae'r her bwysig. Os ydyn ni'n gallu gwneud hynny—